Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Advertising

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

J. Jenkins, Mr. D. Edwards (Wimbledon), a Mr. D. O. Evans, ac aethpwyd ati o ddifrif i ethol yr aelod, pryd yr etholwyd Mr. D. L. Felix yn aelod am y flwyddyn gyda mwyafrif anrhyd- eddus. Cadeiriwyd y cwrdd yn ddeheuig gan Mr. James.Dydd Sul diweddaf cawsom oed- faon da, a phregethau grymus boreu a nos. Yn y seiat yn yr hwyr cafwyd ychydig eiriau gan Mrs. T. Williams, Lavender Gardens, ar y Diwygiad a'i effeithiau yn y Rhondda. Rhoddodd Mrs. Williams ddesgrifiad byw o'r pethau a welodd a'i llygaid ei hun, ac yi oedd ei sylwadau yn cael gwrandawiad astud gan y gynulleidfa. Wedi iddi orphen torrodd un o'r chwiorydd allan i ganu Dyma gariad fel y moroedd," ac ni gawsom dipyn o ysbryd y Diwygiad gyda hynny, ac fe barhaodd felly am beth amser.—L. EAST END MISSION (BURDEIT ROAD).— Cynhaliwyd cyfarfod adloniadol yn ystafell y Genhadaeth uchod nos Iau, y 26ain o lonawr. Cymerwyd y gadair gan y Parch. J. Crowle Ellis, a cynorthwywyd ef gan y Parchn. L. Roderick (Camberwell) a H. Watkins, caplan y lie, ac yr oedd y lie yn orlawn o gyfeillion wedi dyfod ynghyd. Aethpwyd drwy raglen hirfaith a difyr iawn o ganu ac adroddiadau gan y bobl ieuainc. Yr oedd y rhaglen wedi ei ranu yn ddwy ran, ac yn y cyfamser cafwyd cwpaned o de neu goffi a digon o ddanteithion melus a blasus o rodd boneddigesau ieuainc y Genhadaeth. Ac yr wyf yn teimlo yn sicr fod pawb wedi treulio nos- waith gysurus a dedwydd gan y wen oedd ar eu gwynebau wrth ymadael Y mae yn glod mawr i'r boneddigesau am eu hundeb yn eu caredig- rwydd, ac y mae yn brawf o'u cariad tuag at gario gwaith y lie yn y blaen.-UN O'R LLE.

-'.Adolygiad.

[No title]

BEDD IOAN EMLYN.

Advertising