Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Advertising

[No title]

-'.Adolygiad.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Adolygiad. Y GENINEN. Bu rhifyn Ionawr o'r cyhoeddiad cenedlaethol hwn yn hir iawn yn dod o'r wasg, ond pan ddaeth dygodd i ni arlwy gyfoethog o erthyglau amrywiol. Mae medr y Golygydd i sicrhau cynyrchion gan brif ysgrifenwyr y genedl yn hysbys i bawb erbyn hyn. Ni ryfeddem nad anfon rhywbeth iddo rhag iddo ddyfod a'u syfr- danu hwy a wna llawer, ond waeth p'run, y mae yn cael ysgrifau ganddynt. Agorir y rhifyn presenol gan Elfed gydag erthygl gwerth ei hystyried yn ddyfal ar Olud ag Addysg Cymru, a'i Diwylliant." Yna daw y Proffeswr Anwyl gyda Llenyddiaeth Cymru," Anthropos ar Gaernarfon y Ddeunawfed Ganrif," a Spinther ar Bedwar o Hen Fedyddwyr." Ysgrifau dyddorol dros ben yw y rhai ar "Silvaniana" a'r Llyfyrbryf," gan Mr. D. Samuel a Vinsent. Dyma emau y rhifyn dybiwn ni. Daw adgofion Mr. Edward Griffith am Ddiwygiad 1859, a'r eiddo y Parch. D. Griffith am Emrys, Hiraethog, ac Eben Fardd yn lied agos atynt. Fel y gallesid yn naturiol ddisgwyl, rhoddir tipyn o le i'r Diwygiad. Y mae gan Gwili a Hywel Cernyw rywbeth, a rhywbeth da hefyd, i ddweyd am dano. Arweinia Myfenydd ni ar daith hyfryd drwy Fro ei Faboed." Ceir yn y rhifyn hefyd awdl y Parch. W. Cynwyd Thomas ar Geraint ac Enid." Yr oedd hon yng nghystadleuaeth y Rhyl o dan yr enw Brych y ( ae," a rhestrai Elfed hi yn nesaf i'r fuddugol. Cynwysa rai llinellau gloywon, a llawer iawn o rai anghelfydd, ac annealladwy ar gyfrif y lliaws o eiriau anar- feredig a ddygir i mewn. Daw Syr Marchant Williams allan mewn cymeriad newydd-y cymeriad o Fardd. Ac fel arfer cynwysa y rhifyn liaws o weddillion a manion llen- yddol. Rhifyn rhagorol ydyw a'i gymeryd oil yn oil.

[No title]

BEDD IOAN EMLYN.

Advertising