Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Advertising

[No title]

-'.Adolygiad.

[No title]

BEDD IOAN EMLYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BEDD IOAN EMLYN. Ai tybed fod loan Emlyn yn ymwybodol pan y can odd ei delyneg anfarwol i Fedd y Dyn Tylawd y byddai ei fedd ef ei hun yn y perygl o fyned i'r un cyflwr adfeiliedig ? Fe gofia ein darllenwyr llengar mai yn Nglyn Ebbwy y bu y bardd a'r pregethwr athrylithgar farw, ac mai yng Nghladdfa Nebo yn y Cwm hwnnw y rhodd- wyd ei weddillion i orphwys. Gosodwyd colofn brydferth ar ei fedd drwy danysgrifiadau cy- hoeddus. Yn yr un bedd y claddwyd ei briod hefyd flynyddoedd yn ddiweddarach. Erbyn hyn y mae capel wedi ei chwalu, a thai annedd wedi eu hadeiladu ar y fan. Gwnaeth perthyn- asau y bardd gais at yr, Ysarifenydd Cartrefol am hawl-drwydded i symud ei weddillion ef a'i briod i un o gladdfeydd Casnewydd. Ymgyng- horodd hwnnw ac YmddiriedolwyrCladdfa Nebo, a gwrthwynebai y rhai hynny, gan ddadleu eu bod wedi gosod rheiliau o gwmpas y beddau, ac mai ei heiddo hwy yw y gof-golofn ar fedd loan Emlyn. Anfonodd yr Ysgrifenydd Cartrefol gopi o'r ohebiaeth rhyngddo a'r Ymddiriedolwyr i'r perthynasau, ac y maent hwythau wedi ei hateb gan hawlio y gof-golofn yn eiddo teuluaidd. Ac yn y fan yna y saif y mater ar hyn o bryd.

Advertising