Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Oxford Notes.

SELLING MILK AND COLLECTING…

Diwygio'r Sais.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ddrws-drws y defaid a drws y geifr, ac awydd- fryd penaf yr hen dduwiolion yno oedd gweled pawb yn tynu tua'r unig ddrws diogel. Vma hefyd yr oedd dau ddosbarth. Y defaid oedd y rhai a thocynau ganddynt ym mlaenllaw, a sicr- heid lie i'r cyfryw yn yr orielau parchusaf, ac yn y seddi ar y ffrynt; ond am y geifr—y bobl heb docynau--rhaid oedd iddynt gymeryd eu siawns, a sicrhau lIe oreu y medrent mewn unrhyw ran o'r neuadd. Wedi sicrhau lie manteisiol i wylied a chlywed, dyma Mr. Alexander yn agor y cyfarfod trwy weddi fer. Yr oedd pawb yn gwrando yn astud, a'r neuadd erbyn hyn wedi lIanw i'r ymylon— rhyw ddeng mil o eneidiau yn dechreu cyd- addoli. Roeddem oil wedi cael llyfr emynau yn ein dwylaw, a galwodd yr arweinydd am i ni gydganu emyn. Er fod cor o fil o leisiau yn cynorthwyo, rhaid addef mai canu sal iawn a gaed. Er mwyn ceisio rhagor o hwyl gwaeddai yr arweinydd, Nawr, dewch at Rhif i." "0, the famous 'Glory Song, murmurai rhyw offeiriad a eisteddai yn fy ymyl, ac er cymaint o son sydd am y gan rhaid addef mai dieffaith iawn oedd hi y tro hwn. Rhyw fwmian y cyfan wnai'r dorf yn unsain- dim melodedd, dim hwyl, a dim canu o'r galon fel ag a glywir gyda'r hen donau Cymreig. Wei, dyma don newydd i chwi," torrai Mr. Alexander i fewn. Unwaith y clywch chwi hon nis gellwch ei hanghofio. Daw i'ch canlyn i bob man," ac wele ef yn rhoddi esiampl i ni o'r alaw ar y geiriau A little talk with Jesus Makes us right,-all right," ac roedd rhyw swn digrif, doniol yn y cyfan a'n hadgoffai o gerddi ysgafn y chwareudai. Dyma ddull y Cadfridog Booth hefyd— cysegru tonau'r byd i fod yn help i glodfori'r Groes, ond nid ydynt bob amser yn effeithiol, a phrin y credwn y cymer y don hon feddiant dyrchafol arnom hyd nes yr anghofir ei geiriau mwy adnabyddus. Meddylier pe baem ni yn Nghymru wedi defnyddio geiriau arbenig ar yr hen alawon, "Lili Lon a Hob y Deri," prin yr ydym yn meddwl y buasent yn fwy dylan- wadol na Phen Calfaria a hen alawon eraill y Diwygiad presennol. Ond ni chaed hwyl gyda'r canu. Yr oedd y geiriau a'r tonau yn lied adnabyddus i'r mwyafrif yno, ac ar waetha'r cor mawr rhyw ganu digon llipa ydoedd yno. Yr oeddem yn dyheu am glywed deng mil o wyr Morganwg yn cyd-ganu un o hen emynau'r genedl er cael gweld faint y gwahaniaeth Ar derfyn y canu wele Dr. Torrey ei hun yn esgyn i'w bulpud; a phulpud hollol newydd ydyw-math o binacl cul wedi ei orchuddio ag ysgarlad yw, a saif y pregethwr arno fel delw. Dyry ei anerchiad yn hynod o syml; mae'r iaith yn eithaf cyffredin, ond bod acen drom yr Americanwr ar y cyfan. Ar y dechreu swnia dipyn yn ddyeithr, ond cynefinir a'r swn, fel ag y gwneir a iaith John McNeill, ac mae'r cyfeir- iadau parhaus at yr America yn ei anerchiad yn peri i ni gredu fod y wlad honno yn fwy cref- yddol o lawer na Lloegr. Doedd dim newydd-deb yn y bregeth na'r ddysgeidiaeth. Gwnai'rtro i bregethwr cyffredin, ac ni sonid air am dani mwyach, ond gan mai Dr. Torrey oedd y traddodwr rhaid oedd cael darnau o honi i'r papyr newydd. Ar y diwedd gofynai i bawb oedd am broffesu Crist o'r newydd i godi yn y neuadd, ac wele ddwsin neu ddau yn codi yn sionc ar hyd a lied y neuadd, a phob un mor ddibryder a phe yn codi llaw i basio penderfyniad o blaid rhoddi etholfraint i ferched. Ydyw, y mae'n arddangosfa fawr, ac yn rhyw arwydd o ddaioni fod deng mil o bobl yn cael mwyniant wrth wrando diwygiwr o'r 'Merica. Ond rhagor na'r newydd-deb a'r cywreinrwydd ynglyn a'r holl drefniant nid wyf yn meddwl y gwelir fawr o ddiwygiad., Fe fethodd y Cadfridog Booth i ddiwygio'r tylawd hyd nes iddo drefnu i roddi bwyd yn ei gylla, ac fe fetha'r Mri. Torrey ac Alexander i ddiwygio'r cyfoethog hyd nes yr ysgubir y crib- ddeiliaeth a'r trachwant aniwall am gyfoeth sydd wedi llwyr feddianu ein pobl fawr yn y blynyddoedd hyn.-T. J.