Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Pobl a Phethau yn Nghymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pobl a Phethau yn Nghymru. Y MAE Mr. R. W. Jones, Penygroes, Arfon, wedi ei ordeinio yn weinidog ar yr eglwysi Annibynol yn Nrwsycoed a'r Cilgwyn. Gwein- yddwyd gan y Parchn. Dr. Probert, Bangor; D. Stanley Jones, Caernarfon, ac eraill. Bu Mr. Jones yn gwasanaethu yr eglwys yn Battersea Town Hall am rai misoedd o'r flwyddyn ddiweddaf, a gwnaeth lawer o gyfeillion iddo ei hun ym mhlith Annibynwyr Cymreig y Brif- ddinas. YN Japan y mae Mr. David Davies, Llandinam, ar hyn o bryd. Ysgrifenodd lythyr oddiyno i'r Western Mail, yn rhoddi cynwys ymddiddan rhyngddo ag un o brif wleidyddwyr Japan. Pleidio polisi Chamberlain yw pwrpas y llythyr, neu o leiaf dangos yr angen am gyfnewidiad ym mholisi Masnach Rydd. Ond ymddengys i ni y gellid astudio y pwnc hwnnw i fwy o bwrpas gartref. FE gofir i Rector Gwaenysgor roddi rhybudd i ysgolfeistr yr Ysgol Genedlaethol i ymadael beth amser yn ol, ac i Lys Maine y Brenhin ddyfarnu fod y rhybudd yn gyfreithlawn. Yn wyneb hynny penderfynodd y trigolion agor ysgol anenwadol, ac aeth y plant i gyd oddigerth rhyw ddeg i honno. Dydd Llun diweddaf gwysiwyd y Rector o flaen yr ynadon, am guro dwy eneth fach a garient eu llyfrau ymaith o'r hen ysgol i'r ysgol newydd. Parhaodd yr achos am oriau, ac yn y diwedd taflwyd ef allan drwy lais mwyafrif o'r ynadon ar y fainc. Ond gwrthodasant ganiatau i'r diffynydd ei gostau. MAE" goleuni" Mrs. Jones, Egryn, ger y Bermo, yn dywyllwch i bob newyddiadur yn Llundain. YSGRIFENODD Mr. Beriah G. Evans i'r Daily News i draethu yr hyn a welodd, ar hyn wele rhyw Sais yn ysgrifenu i ymholi a oedd Mr. Evans yn ei lawn synwyrau. WEDI hyn mae'r Daily Mail wedi gyru gohebydd arbenig yno, ac mae hwnnw wedi gweled y goleuni ond yn methu a'i egluro. Mae'r Sais yn awr yn credu fod rhywbeth hynod yn y peth. WRTH weled cynifer o hen wrthgilwyr adna- byddus yn dychwelyd yn un o eglwysi Cymru y Sul diweddaf sylwodd un hen frawd brwdfrydig ar ei weddi, Diolch i ti, Arglwydd mawr, am y siwins gawsom i'r rhwyd yn flaenorol; ond mae yma lot o hen sharks mawr wedi dwad i mewn heddyw."
Gohebiaethau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gohebiaethau. [Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol ohebwyr.] ST. PAUL'S WELSH FESTIVAL. To the Editor of "THE LONDON WELSHMAN." SIR,- There is evidently much dissatisfaction among Welsh people as to the way the above Festival is now being carried on, and the reason is not far to seek. About two years ago a number of new members were introduced on the musical committee, mostly monoglot Englishmen, who in their turn, by their voting power, appointed English officials to take charge of the music; and by which arrangement a number of English singers were brought in to assist the choir, who of course could not read or understand the language. The result was, as stated by "Patriot," the Welsh people were held up to ridicule, by having to stand by, and listen to a service that was a failure, from every point of view-religious, national and artistic. The only redeeming feature of the whole thing was that the band well covered the mumblings and la-ings of the English singers, who, when they were not la-ing, were uninterested spectators. I trust if this Festival is to be continued, that a strong and representative Welsh Committee be formed, dis- sociated from any political clique, and officials appointed who are known among the Welsh, and who are in sym- pathy with their aims and aspirations. ( am 1:0.
Y Senedd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y Senedd. Y BRENIN YN AGOR Y TYMHOR. DYMA ni eto wedi dechreu ar waith Seneddol y deyrnas, a'r Ty mawr yn Westminster wedi dod mor fywiog a chynhyrfus ag erioed. Dydd Mawrth galwyd y cadau ynghyd, a chan fod y Brenin ei hunan wedi addaw agor y gweithred- iadau yr oedd y bobloedd wedi tyrru yno o bob cyfeiriad. Fel arddangosfa yr oedd y cyfan yn ddigymhar, a golwg ysblenydd ar y mawrion yn eu gwisgoedd gorwych yn croesawu ein teyrn fel yr anerchai hwynt oddiar ei sedd orseddol yn Nhy'r Arglwyddi. O'r tu allan yr oedd y tyrfaoedd wedi synu pawb gan eu nifer. Vr oedd pob trafnidiaeth wedi ei atal beth amser cyn dyfodiad y Brenin, a sicr na chaed ar un adeg fwy o frwdfrydedd a gwaeddi wrth weled unrhyw deyrn yn agor gwaith y Senedd-dy. Yn ei araeth agoriadol dadganai y Brenin ei ofid fod y rhyfel yn parhau o hyd yn y Dwy- rain Pell, ond ein bod ni fel gwlad mewn per- ffaith heddweh a phob un o'r Galluoedd, ac yn dyheu am weled terfyn y rhyfel rhwng eraill. Yr oeddem wedi bod mewn gohebiaeth a gwledydd ereill rnewn cysylltiad a thrafferthion y Balkan, ac mae'r mater hwn yn awr yn cael sylw y Sultan ac ereill. Mae'r cytundeb rhyngom a Ffrainc wedi ei gadarnhau gan y Senedd yno, ac mae'r helynt a fu rhwng rhyfel-longau Russia a'n cychod pysgota yn awr yn cael ei benderfynu drwy gyflafareddiad. Gwneir trefniadau i roddi ymreolaeth i'r Transvaal mor gynted ag y mae'n weddus, ac mae'r ymgyrch i Tibet wedi troi allan yn llwyddiant i'n hamcanion masnachol. Gan fod cryn anhawsder wedi codi ynglyn a rheolaeth eiddo eglwysi yn yr Alban, gwneir apel yn y Ty yn fuan i ad-drefnu y cyfan. I chwi wyr Ty'r Cyffredin disgwylir arnoch i wneyd y trefniadau arianol arferol, a gosodir o'ch blaen awgrymiadau a mesurau ynglyn a'r materion canlvnol — i. Ad-drefnu'r etholaethau. 2. Rheolaeth dyfodiad tramorwyr i Loegr. 3. Mesur addysg i'r Alban. 4. Mesur i wella Deddf lawn i weithwyr. 5. Trefnu gogyfer ag Ysgrifenydd Masnach. Ynghyd a man fesurau ereill, 1 r oil o ba rai mi hyderaf y rhoddir yr ystyriaeth lwyraf. Darllenodd y Brenin ei genhadaeth mewn llais hyglyw, ac ar ol gorphen y llith aeth yn ol i'w balas, a throdd y Seneddwyr at eu gwaith. Ty'r Cyffredin. Pan gyd-gynullodd Ty'r Cyffredin am bedwar o'r gloch i ddechreu ar y gwaith o ddifrif, yr oedd gwedd fywiog ar y seddau yno. Llanwyd pob ccngl o'r Ty yn gynar, ac 'roedd y prif arweinwyr ar y ddwy ochr wedi gwneyd ymdrech i ddod yno mewn pryd. Chwith, er hynny. oedd gan ami i aelod weled y bylchoedd a wnaed yn rhengoedd yr aelodau er pan ohiriwyd y Ty yr haf diweddaf, drwy farwolaeth Syr William Harcourt, Mr. lames Lowther, ac amryw ereill. Gwnaeth Mr. Balfour a Syr H. Campbell-Bannerman gyfeiriadau teimladwy yn ystod eu sylwadau at golled y wlad a Thy y Cyffredin ym marwol- aeth y gwr fu unwaith yn arweinydd y blaid Ryddfrydol yn y Ty. Llawer o ddyfalu sydd wedi bod drwy y gauaf ynghylch tynged y Weinyddiaeth yn ystod y Senedd-dymhor presenol. Myn rhai na ddeil y Prifweinidog ei afael ar ei ganlyn- wyr am fwy na mis o amser. Ar y llaw arall sicrheir ni y llwydda i fynd yn hwylus drwy waith y tymhor, ac na wel y flwyddyn hon- mwy na welodd y llynedd—etholiad cyffredinol. Gan fod mwyafrif presenol y Llywodraeth yn 84, rhaid addef fod y rhai sydd yn darogan oes hir-er nad oes hapus—i'r Weinyddiaeth yn ymddangos yn well prophwydi na'r dosbarth blaenaf. Cydnabyddir gan bawb fod tynged Mr. Balfour yn gorwedd yn llaw y gwr o "Brum." Gall Mr. Chamberlain gael etholiad eyffredinol unrhyw ddydd y myno, ond serch ei ymffrost ar y llwyfan ei fod yn awyddus i hynny gymeryd lie, y mae amryw o'r aelodau yn ddigon beiddgar i amheu gonestrwydd ei ymffrost, ac y mae'r olygfa yr oedd efe yn dyst o honi ddydd Mawrth, pan y derbyniwyd yr aelodau newydd, yn ddigon a pheri iddo deimlo, fel y teimla y Prif Weinidog, mai gwell yw y drwg a wyr na'r drwg ni wyr. Yr oedd yn eglur wrth araith y Prif Weinidog mewn ateb i Syr H. Campbell-Bannerman nos Fawrth, nad yw yn barod i roddi'r awenau o'i ddwylaw yn awr, a sicr yw, os y caiff gefnogaeth lied ffyddlon gan ei blaid, y llwydda i gadw y Ty i fynd hyd fis Awst gyda chryn rwyddineb. Dydd Mercher agorodd Mr. Asquith ddadl fawr yr wythnos, sef gwelliant i ateb y Ty i Araith y Brenin. Swm a sylwedd araith Mr. Asquith oedd y dylid ar unwaith apelio at y wlad er cael barn y cyhoedd ar bwnc cyllidol y dydd. Gan fod y mater wedi bod eisoes am yn agos i ddwy flynedd yn cael eu ddadlu, dylid bellach penderfynu y pwnc y naill ffordd neu'r llall ar fyrder. Hon fydd dadl fawr yr Araith Frenhinol, ac mae cryn ddadleu a'i doeth yw gwthio y peth i'r fath eithafon ar ddechreu'r Tymhor fel hyn. Y Cymry. Daeth yr adran Gymreig yn lied gryno i'w seddau, ac yn ystod y prydnawn cynhaliwyd cwrdd busness" er trefnu eu gwaith am y Tymhor. Yn bresenol yn y cwrdd 'roedd Syr Alfred Thomas, Syr George Newnes, Mri. Lloyd-George, Samuel Smith, Herbert Roberts, Herbert Lewis,' Brynmor Jones, Osmond Williams, "Mabon," Tom Richards, Alfred Davies, a Vaughan Davies. Ysgrifenodd Mri. Frank Edwards a Samuel Evans i ddweyd nas gallent ddod yno, ac mae Mr. Charles Morley eto heb wella o'r anffawd a gafodd yn ddiweddar, fel nas gall am rai dyddiau ddod i'r Ty. Gwaith y cwrdd oedd dewis Syr Alfred Thomas yn gadeirydd am y Tymhor, a Mri Herbert Roberts a Brynmor Jones yn ysgrifen- yddion. Os digwyddai iddynt fod yn lied ffodus yn y bleidlais am gael dwyn mesurau ger bron y Ty penderfynwyd rhoddi'r flaenoriaeth i Fesur Wyth Awr i lowyr, yna mesur i wella Deddf Cau'r Tafarndai ar y Sul. Croesawyd Mr. Tom Richards, yr aelod llafur newydd, i'w plith, a chaed araith fer gan Mr. Richards i gydnabod y croesaw a roed iddo. Trefnwyd fod Mr. Ellis Griffith a Mr. Herbert Lewis i gynyg gwelliantau i Araith y Brenin, yr hyn a wneir os caniata amser. Galwodd yr aelod dros Fon sylw'r Blaid hefyd at y pwysigrwydd o gael dealltwriaeth clir ar sefyllfa y Blaid Gymreig tuag at y Rhydd- frydwyr os digwydd i ni gael etholiad eleni. Dylem yn awr osod ein telerau i lawr, meddai Mr. Griffith, ac nid ar ol i'r etholiad fyned heibio; ond yr oil a wnaed oedd cael math o gymeradwyaeth hanerog i'r hyn a gredid gan yr aelod o Fon.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YM mysg yr ymgeiswyr am brif wobr Albert Hall, nos lau nesaf, y mae Cor Meiboin Eryri. Buont yn cynhal cyngherdd mawr yn Mhafilion Caernarfon nos Sadwrn diweddaf, a chanasant yn wir dda. Mae rhagolygon y bydd y gystad- leuaeth yn un galecl.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
C. RUSSELL & CO., 64, 66, 68, 68a, & 70, DENMARK HILL, S.E. General Drapers. First SPRING SHOW of NEW MILLINERY, FEB. 13th.