Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN. MR. LLEWELYN WILLIAMS YN LLANELLI. CYFARFOD HWYLIOG. COFUS gan ein darilenwyr i ni, wythnos neu ddwy yn ol, roddi adroddiad o gyfarfod Pwyll- gor Gweithiol Cymdeithasau Rhyddfrydol y Bwrdeisdrefi uchod, ym mha un y dewiswyd Mr. Llewelyn Williams fel yr ymgeisydd Rhydd- frydol. Nid oedd yng ngallu y Pwyllgor i wrieyd dewisiad terfynol; yr oil a allent wneyd oedd cymhell y gwahanol gymdeithasau i fabwysiadu fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol y gwr ar ba un y syrthiodd y coelbren yn eu cyfarfod. Felly, nos Sadwrn, cynhaliwyd cyfarfod o Gymdeithas Rhyddfrydol Llanelli, yn y Neuadd Drefol, i dderbyn ac i ystyried adroddiad y pwyllgor. Cafwyd cynulliad pur foddhaol, a llanwyd y gadair gan Mr. Evan Evans. Darllenodd y Cadeirydd, yn ystod ei araith agoriadol, lythyr oddiwrth y Parch. Thomas Phillips, gweinidog Eglwys Greenfield, yn cymeradwyo yn wresog gymhelliad y Pwyllgor Gweithiol, ac yn datgan ei farn nad oedd ond un ffordd i'r blaid Ryddfrydol yn y bwrdeis- drefi ddod allan o'i hanhawsderau, sef drwy fabwysiadu fel ymgeisydd un na chymerodd ran o gwbl yn ymdrafodaeth gecrus y tair blynedd ddiweddaf. Pan gyfododd Mr. Williams i anerch y cyf- arfod cafodd dderbyniad calonog. Ar y dech- reu datganodd ei barodrwydd i gilio o'r maes os byddai i fwyafrif o'r aelodau anghymeradwyo ei ymgeisiaeth. Yr oil oedd ganddo mewn golwg oedd ceisio uno y gwahanol adranau o'r blaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth. Yna aeth Mr. Williams ymlaen i osod ei olygiadau gwleid- yddol gerbron yr aelodau. Wedi iddo orphen rhoddwyd cyfleusdra i ofyn cwestiynau, a'r cyntaf i wneyd hynny oedd Mr. W. D. Evans, yr hwn a ddywedodd na wnaeth Mr. Williams ddim cyfeiriad yn ei araith at gwestiynau dirwestol. Mewn atebiad dywedodd Mr. Williams mai cwestiwn i'r werin ydoedd hwn. Yr oedd ef yn barod i'w ymddiried i'r werin. Gadawer iddynt gael dewisiad lleol (local option). Yn nesaf cododd Mr. T. Harries gyda chyfres o gwestiynau yn dwyn perthynas a Llafur, a pharodd ei ymddangosiad gryn gynhwrf am ychydig amser, fel y dengys yr adroddiad a ganlyn Mr. Williams Yr wyf mewn llwyr gydym- deimlad a dyheuadau Llafur, ond nis gallaf gydweled a chwi ynghylch cenedlaetholiad y tir. Mr. T. Harries Hoffwn ddweyd un gair —— Mr. Howell (aelod o'r Cynghor Llafur): A yw Mr. Williams i'w gyfiawnhau am ddod yn mlaen i geisio cymeryd sedd oddiar aelod ffyddlon ? Mr. Williams Dylech ofyn y cwestiwn hwn i'r cyfeillion sydd' o'm hamgylch. Y Cadeirydd Ni ellir gofyn y cwestiwn hwn i Mr. Williams. Mr. T. Harries Yr ydym oil yn falch o Mr. Williams. Yr wyf i yn Rhyddfrydwr, ond mae'n ddrwg genyf fod Mr. Williams yn gwas- traffu ei alluoedd drwy geisio ennill sedd na ddaw byth i'w feddiant. Llais o'r dorf: Yr ydych yn hynod o haerllug; eisteddwch i lawr. Mr. T. Harries: Mae eich penderfyniad— (cryn derfysg, a bloeddiadau o Free speech "). Wedi tawelu ychydig aeth Mr. Harries ymlaen Bu raid i ni wneyd casgliad yma er talu am y neuadd ac er dwyn treuliau yr argraffu. (Terfysg eto, a llais o'r canol yn gofyn Faint o arian roisoch chwi, tybed.) Y Cadeirydd Goddefwch i mi am foment. Y mae arnaf eisiau i chwi roi pob chwareu teg iddo siarad. Mr. Harries: Bu'r Rhyddfrydwyr sydd yn awr yn dal breichiau Mr. Williams yn bleidwyr selog i Mr. Alfred Davies ar y dechreu. Ond pa fodd y maent yn ei drin yn awr ? (Llais o'r dorf: A oes gennych chwi bleidlais ? ) Y Cadeirydd: Gadewch iddo orphen yr hyn sydd ganddo i'w ddweyd. Mr. Harries Y mae genyf un cwestiwn arall i'w ofyn. (Bloeddiadau o "Trowch ef allan.") Y Cadeirydd Tybiaf fod Mr. Harries wedi cymeryd digon o'n hamser yn barod. Y mae'n cymeryd gormod o amser y cyfarfod iddo ei hun. Gwnaeth Mr. Harries ymdrech arall i siarad, ond yn ofer. Ni fynai yr aelodau iddo eu blino ymhellach. Yn nesaf gofynodd Mr. D. R. Edmunds Os mabwysiadir Mr. Williams yma ac yn Nghaer- fyrddin, a fydd iddo sefyll pan ddel dydd yr etholiad ? Mr. Williams Ni fuaswn yma yn awr os na fyddwn yn barod i wneyd hynny. Yna cynygiodd y Cadeirydd benderfyniad yn ymrwymo pawb oedd yn bresenol i wneyd yr oil oedd yn en gallu er dychwelyd Mr. Williams i'r Senedd fel yr aelod dros Fwrdeisdrefi Caerfyrddin. Eiliwyd gan Mr. James, cefnogwyd gan Mr. Henry Wilkins, Y.H., a chan nad oedd ond ryw saith neu wyth yn tynnu'n groes, cariwyd ef bron yn unfrydol.

Advertising

Am Gymry Llundain.