Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Pobl a Phethau yn Nghymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pobl a Phethau yn Nghymru. RHODDODD pobl Barri groesaw ardderchog i Mr. Lloyd-George pan fu ar ymweliad a'r lie ddydd Sadwrn diweddaf. ABERTAWE, Aberystwyth, a Chaerdydd, sydd yn gweithio galetaf dros hudo y Llyfrgell a'r Amgueddfa Gyniraeg i ymsefydlu ynddynt. AWGRYMA ami i hen wag mai yn Llandrin- dod y dylid lleoli'r Llyfrgell Genedlaethol, gan mai yno y tyrra ein gwyr dysgedig i dreulio eu gwyliau haf. MAE Cymry Aberdar wedi bod ar fwriad i gynhal Eisteddfod Gymraeg yn y lie, ond gan fod y Diwygiad yn ffynnu yno, gohirir y trefniadau hyd ryw adeg yn y dyfodol. Byddai yn amheuthyn o beth i gael Eisteddfod wir Gymreig am unwaith. ER fod meddwdod yn lleihau yng Nghymru a'r tafarndai yn cwyno fod masnach yn wael, y mae'r ceisiadau am drwyddedau yn y llysoedd trwyddedol mor lliosog ag erioed, a chaniateir hwy gyda'r rhwyddineb sydd mor nodweddiadol o'r ynadon Cymreig. BU'R diwygwyr Americanaidd, Mri. Torrey ac Alexander, ar ymweliad a Chaerdydd yn mis Hydref diweddaf, ac yn ol y cyfrifon sydd newydd eu cyhoeddi, costiodd yr ymgyrch P £ 3>112 os. 5d. Casglwyd £877 yn ycyfar- fodydd, ond gwnaed y gweddill i fynu drwy gyfraniadau. Can punt roddwyd i Mr. Alexander a'i gynorthwywyr am waith y pedair wythnos. 'ROEDD y gantores Madame Patti yn 62 mlwydd oed, ddydd Sul diweddaf. Ond er mor lliosog ei blynyddoedd y mae'n dal yn ieuanc ei hysbryd a'i chan o hyd. YCHYDIG amser yn ol adeiladodd Mr. Pritchard Jones sefydliad pentrefol yn Niwbwrch, lie y ganwyd ef, a chyflwynodd ef i'r awdurdodau lleol. Mae yn awr wedi prynu dernyn o dir rhydd-ddaliadol yn ninas Llundain, a'r hwn y bwriada waddoii y sefydliad. Mae'r incwm oddiwrth y tir yn awr yn £255, ond cyn bo hir bydd yn agosach i £1,000 yn flynyddol. CVNALIWYD cyfarfod o Bwyllgor Gweithiol Tysteb Mabon yn Nghaerdydd y dydd o'r blaen dan lywyddiaeth Mr. Richard Lewis, Y.H. Gwnaed yn hysbys fod yr arian mewn Haw, ar 01 talu yr holl dreuliau, yn cyrhaedd y swm o ZI,732 5s. 6c., ac fod £36 is. etto i ddod i law. Penderfynwyd fod yr holl lyfrau casglu sydd allan i'w dychwelyd yn ddioed hefyd fod y dysteb i gymeryd y ffurf o ddarnau o plate gwerth tua £5°, ac fod y gweddill i fod mewn arian melyn. Gwahoddwyd Arglwydd Tredegar i wneyd y cyflwyniad ar ran y tanysgrifwyr. CYFARFVDDODD Syr Michael Hicks-Beach Fwrdd Cymodol Glofaes y De ddydd Llun diweddaf, i gwrando rhesymau dros 3 ac yn erbyn y cais am 31 y cant o ostyngiad yn y cyflogau. Rhoddodd y Barwnig anrhydeddus

Advertising

Colofn y Gan.

Advertising

Pobl a Phethau yn Nghymru.