Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
EGLWYS ST. PADARN, Hornsey Road, Holloway, N. EISTEDDFOD YN MYDDE TON HALL, Almeida Street, Upper Street, Islington, NOS IAU, MAWRTH 23ain, 1905. ———————————— p. s. c. Traethawd, "Derwyddiaeth" Gwobr 110 Am y Llythyr goreu oddiwrth Filwr Rwssiaidd yn Port Arthur at ei dad yn Nwyreinbarth Llundain Gwobr 0 7 6 Can heb fod dros 100 llinell, "Yr Angylion yn yBeddGwag" Gwobr 0 15 0 Englyn i'r Wlawlen Gwobr 0 7 6 I'r parti o feibion (heb fod dan 16 o nifer) a ddatgano vn oreu "Moonlight" (T. Vincent Davies). T.T.B.B. Gwobr 3 3 0 Pedwarawd, Y Bwthyn ar y Bryn (D. Emlyn Evans). S.A.T.B. Gwobr 110 Deuawd, Baner Rhyddid" (D. Parry) Gwobr 0 15 0 Unawd Soprano, "Tad yr Amddifaid" (D. Emlyn Evans) Gwobr 0 10 6 Unawd Tenor, "Nant y Mynydd (William Davies) Gwobr 0 10 6 Unawd Contralto, Ceisiwch yr Arglwydd" (D. Parry) Gwobr 0 10 6 Unawd Baritone, Bedd y Gwron (T. Vincent Davies) Gwobr 0 10 6 Pianoforte Solo (for those under 15 years of age), Sonato Op. 49, No. 2 (Beethoven), First Movement. Gwobr 0 7 6 Y Cyfansoddiadau ac enwau ymgei-wyr i fod yn Haw yr Ysgrifenyd If erbyn Mawrth y 15fed, TOCYNAU-BLAEN-SEDDAU, 2s.; OL-SEDDAU, 1s. Drysau yn agored 6.30. Dechreu 7. Manvlion oddiwrth yr Ysurifenvdd, W. GYRN DAVIES, 15, Crowndale Road, N.W. "Y Gwir yn /1\ Erbyn y Byd." CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL EGLWYS Y M.C., WILTON SQUARE, New North Road, N. Llywydd = Parch G. H. HAVARD, M.A., B.D. CYNHELlR. CVFftRFOD CYSTADLFUQl YN NEUADD Y CAPEL, NOS IAU, MAWRTH i6eg, 1905. Cadeirydd MR JOHN JENKINS (Buckingham Road). Arweinydd Parch. S. E. PRYTHERCH (Falmouth Road). Am restr y Testynau ymofyner yn ddioed a'r Ysgrifenyddion- ROBERT GRIFFITHS, i, Laura Villas, Winchmore Hill, N. JOHN MORGAN, 77, Euston Street, N.W. Enwau Ymgciswyr i fod i mewn ar neu cyn Mawrth 4ydd. Capal y Westeyaid Cymreig, CITY ROAD. Pregethir yn y Capel uchod, Nos lau nesaf, Mawrth 2, 1905. a.m. 7.45, Gan y Parch. W. O. EVANS (Liverpool). Gwneir Casgliad i drysorfa y Capel. Cyfeirierpob Gohebiaetha fwriedir t'ncolojnau, The Editor"; pob Hysbysiad, The Adver- tising Managera phob Archeb, The ManagercCr oil i'r Swyddfa, 45, 46, 47, St. Marun's Lane, W.C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygvdd dderbyn gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau gwrthod- edig. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writer. and the address must also be given, not necessarily for publication, but as a guarantee of good faith.
Nodiadau Golygyddol.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nodiadau Golygyddol. DYDD Y PRAWF YN NESAU. Dichon fod llawer wedi tybio nad oedd ffyddlondeb Cymru iddi ei hun ac i'w dadgan- iadau mwyaf difrifol i gael ei brofi drwy dan. Am flwyddyn a hanner ar ol pasio Deddf Gorth- rech gadawyd hi yn llythyren farw, serch fod y Cynghorau Sir yn ddieithriad yn gwrthod codi na thalu ceiniog o dreth tuag at gynnal yr Ysgolion Enwadol. Bygythiodd Bwrdd Addysg ei gosod mewn grym lawer gwaith, a dywedir mai yr ymdrechion a wneid i geisio trefnu rhyw fath o gad-oediad a gyfrifai am hynny. Ond erbyn hyn y mae pob gobaith am gad- oediad wedi diflanu, a rheolwyr yr Ysgolion Enwadol drwy lefain yn groch wedi perswadio y Bwrdd i wneyd defnydd o'r gallu gorfodol a rydd y Ddeddf Gorthrech iddynt. Mae Cynghor Sir Meirion wedi cael pedwar-niwrnod-ar-ddeg i ymbarotoi. Anfonwyd at y Cynghor i ofyn paham y gwneid gwahaniaeth rhwng ysgol ac ysgol, ac addawodd y Cynghor roddi ateb terfynol ar ol yr eilfed o Fawrth. Nid oes lie i dybied y bydd yr ateb hwnnw wrth fodd Arglwydd Londonderry a Syr W. Anson, a'r cam nesaf fydd cadw arian a ennillwyd gan Ysgolion y Cynghor a'u talu i reolwyr yr Ysgolion Enwadol. Naturiol yw gofyn paham y mae Swyddfa Addysg yn cymeryd mesurau fel hyn yn awr ar ol bod mor ymarhous am gyhyd o amser ? Efallai fod yn anhawdd rhoddi atebiad bodd- haol. Yn un peth mae y Llywodraeth mewn gwell ysbryd o gryn dipyn y dyddiau hyn nag y bu ers tro byd. Gyda'r possibilrwydd o etholiad cyffredinol yn crogi uwch ei phen prin y gallesid disgwyl i'r blaid Doriaidd fod yn awyddus iawn i roddi cystal cri i'r gwrthwynebwyr ag a fuasai y cri o orthrech. Ond ymddengys fel pe bai yr etholiad wedi ei daflu ymlaen am ysbaid amhenodol, ac yna gall fentro, yn y gobaith y bydd y Cynghorau wedi ildio cyn y daw dydd y cyfrif. Gall hynyna fod yn un rheswm. Mae y Hall yn gyferbyniol hollol. Nid yw y Weinydd- iaeth yn ormod yn ffafr yr Eglwyswyr er cymaint a wnaeth erddynt er pan y mae mewn awdurdod. Mae y Commissiwn i edrych i mewn i Ddefod- aeth wedi tramgwyddo llu o ohonynt yn enbyd, a bygythiant beidio cefnogi Balfour yn yr ethol- iad nesaf. A bygythiai eraill wneyd yr un fath am fod yr Ysgolion Eglwysig yn cael eu gadael i drengu pan y gallesid eu cadw. Ac er mwyn ceisio adenill ffafr eu cefnogwyr siomedig ac archolledig penderfynwyd cymeryd y cam pen- dant yn erbyn Meirion. Y mae yn dda genym ar lawer cyfrif mai Meirion fydd y gyntaf o holl siroedd Cymru i gael ei thaflu i'r prawf. Nid fod genym yr amheuaeth leiaf o ffvddlondeb y siroedd eraill i'r polisi cenhedlaethol. Ond y mae Meirion yn meddu traddodiadau sy'n rhoddi iddi hawl i flaenori mewn aberth o blaid egwyddorion a gwladgarwch. Hon yw hen sir Michael Jones a Tom Ellis, ac y mae eu hysbryd- oedd yn byw yn ei hawyr o hyd. Mae gwyr Meirion wedi hen gynefino ag aberthu er mwyn eu hegwyddorion, ac nid oes ynom y petrusder lleiaf am danynt yn yr achos hwn. Y diwrnod y rhoddir Ddeddf Gorthrech mewn gweithrediad bydd i Gynghor Meirion olchi ei ddwylaw yn lan oddiwrth bob cyfrifoldeb i weinyddu Deddf Addysg. Ceuir holl ysgolion y Cynghor, ac agorir capeli a vestries ym mhob ardal drwy y sir i gyfranu addysg i'r plant. Mae y sir yn gwbl ddigyffro yn y rhagolwg ar y frwydr. Pa hyd y pery nis gwyddom dichon na bydd iddi barhau yn hir. Ond, boed fyr neu hir, rhaid iddi fyned ymlaen nes y bo Deddf Addysg, 1902, wedi ei diwygio. Yr ydym yn adnabod rhieni Ymneillduol Meirion yn dda. Maent wedi arfer aberthu er mwyn i'w plant gael addysg. Faint o honynt fu O'u cyni'n gwasgu ceiniog er mwyn hynny. Ac fe wnant yr un peth eto yn hytrach nag i'r egwyddorion sydd mor anwyl gan eu calonau gael eu gwaradwyddo. Disgwylia y gelynion y bydd i'r polisi ddiflanu fel niwl o flaen mellt Swyddfa Addysg, ond nid ydynt yn adnabod y genedl Gymreig.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Cooper, Dennison & Walkden, Ltd., 7 & 9, ST. BRIDE STREET, LONDON, E.C. c7 fti Ink retain3 itsp FectfluiditY "and esllt- t Blue, ec,o. tes, it writes a brillian an mtense and I.Stigg 8/ac k, J PRICES:— s. d. Imperial Quart = = = 2 6 99 Pint = = = I 6 Gallon Bottles, Stone = =90 Half Gallon „ = = 5 0, No Chq.r%e on Bottles.