Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD ALBERT HALL.

[No title]

Advertising

EISTEDDFOD ALBERT HALL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

neuadd gwelid hysbysiad a ddarllena ar yr olwg gyntaf yn amheus. Dyma ef:- NO MEETING of the Mission THIS EVENING. Mae'n debyg mai at gyfarfodydd y Diwygiad o dan nawdd y Mri. Torrey ac Alexander y Photo London Stereoscopic and Photographic Co. ] ARGLWYDD FAER LLUNDAIN. (Llywydd yr Eisteddfod.) cyhoeddid y rhybudd camarweiniol hwn, a sicr iddo wneyd llawer o niwed i boblogiwydd yr Wyl Gymreig. Nis gwyddom ai yn fwriadol y gosodwyd y cyfeiriad at y genhadaeth mewn llythyren mor fan, ondy mae'n sicr y dylid osgoi yr hyn a debyga ar un wedd yn fath o dric Americanaidd i gamarwain pobl, yn enwedig pan ei cyhoeddir ynglyn a mudiad crefyddol fel hwn. Ond gan nad beth oedd amcan yr hysbysiad, ni wnaeth niwed o gwbl i'r Eisteddfod. Gwyddai'r Cymry Cymreig yn dda fod yr Eisteddfod i'w chynal yno, a heidient yn awr i'w seddau er mwyn sicrhau lleoedd manteisiol i wrando. Ar eu holau deuai'r corau meibion, gyda'u catrodau o edmygwyr, a chan fod yr oil o'r partion wedi cael maintais i gynal practice yn rhai o'r capelau Cymreig yr oe'nt yn lied obeithiol am ennill y gamp. Tyrrent yn llawn hwyl Gymreig i gyfeiriad y llwyfan, a thra y cymerent eu seddau yno rhoddwyd detholiad campus ar yr organ gan Mr. Merlin Morgan. Erbyn saith o'r gloch yr oedd yr orielau yn lied gysurus o lawn, a deuai gwyr y seddau blaen o un i un, a hynny hyd naw o'r gloch, fel erbyn i'r man gystadleuon orphen yr oedd y neuadd yn edrych yn lied fywiog. Rhoddwyd derbyniad cynes gyda hwyl Gymreig i'r Arglwydd Faer pan ddaeth i'r llwyfan, a chydag ef yr oedd y Sirydd a swyddogion yr Eistedd- fod. Wedi trefnu'r seddau ar y llwyfan, wele Llew Tegid yn agor y gwaith gyda sylw pert, fod yr hen Eisteddfod yn fwy byw heddyw nag erioed. 'I Mae geno ni leoedd mawr i'r Hen Wyl yng Nghymru, ond pan ddois i'r lie hwn fe fedd, lials mai wedi rhoi to ar Sir Fon oeddech. Mae geno ni raglen faith i fynd trwyddi, a chan mai dim ond am un dydd mae'ch tocynau chi, rhaid i chi beidio'n cadw ni yma ar ol hanner nos, neu fe fydd raid i chi dalu etto am fynd allan." Yna, wedi cydganu emyn, "0 Arglwydd Dduw rhagluniaeth," aed yn union at waith yr wyl, sef cystadleuaeth chwareu'r berdoneg, ac o hynny'n mlaen hyd yn mhell dros hanner nos buwyd wrthi yn brysur yn pwyso ac yn mesur y gwahanol gystadleuwyr. Y Dyfarniadau. Unawd ar y Berdoneg. Gwobr tair gini. Ymgeisiodd 25, a chwynwyd y rheiny i dri i ymddangos ar y llwyfan. Goreu, Miss Alice Edwards, Llundain. Traethawd ar Dylanwad Cymry Llundain ar Addysg a Llenyddiaeth Cymru yn ystod y Ganrif ddiweddaf." Daeth dau draethawd i'r maes am