Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
f MANION EISTEDDFODOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
f MANION EISTEDDFODOL. Gwael oedd adran lenyddol yr Eisteddfod. Ni chynygiwyd ond un testyn, ac ni ddaeth ond dau i'r maes ar hwnnw, a 'doedd y naill na'r llall yn werth y wobr a gynnygid. Rhyfedd y brwdfrydedd gaed ynglyn a'r unawdau. Yr oedd y cystadleuwyr yn y rhag- brawf ar y rhai'n i'w rhifo wrth yr ugeiniau. Gwaith anhawdd oedd eu berwi i lawr i ddau neu dri. Arweinydd heb ei well yw Llew Tegid. 'Roedd ei lais treiddgar yn addas iawn i neuadd fawr fel Albert Hall. Dr. HEN AYLCOWARD, BeirniadICerddorol.
EISTEDDFOD ALBERT HALL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Proffeswr J. MORRIS JONES, Beirniad Llenyddol. y wobr o saith gini, end teimlai'r beirniaid nad oedd un o honynt yn teilyngu'r wobr. Unawd Contralto, "Tad yr Amddifad," Gwobr tair gini. O'r nifer ddaethant i'r rhagbrawf dewiswyd Misses Eva Hall, Nellie Watson, a Margaret Sandbrook i ganu ar y llwyfan. Caed cystadleuaeth gampus, a Miss Sandbrook, o Griffithstown, ger Casnewydd, oedd yn oreu. Deuawd Tenor a Bass. Gwobr tair gini. Daeth dau barti drwy y rhagbrawf ar y ddeuawd, ac'ennillwyd gan Mri. Best a Foxon, o Leyton- stone, swydd Essex. Z, Unawd Soprano, "Hear ye, Israel." Gwobr tair gini. O'r 37 a fuont yn y rhagbrawf, dewiswyd Miss Muir, Miss Maud Parsons, a Miss Jenny Ellis i ganu'n gyhoeddus. Yr oreu oedd Miss Jenny Ellis, Caerdydd. Unawd Baritone, Rhuo, rhuo, mae y Gwynt." Gwobr tair gini. Yr oedd pedwar wedi eu dewis i ganu hon ar y llwyfan, ac o'r pedwar yr oedd un yn gantor dall, a chaed dadganiad hynod 0, effeithiol ganddo. Er hynny, 'roedd un arall mwy gorphenedig, yn ol y beirniaid, a hwnnw a wobrwywyd. Enw y buddugwr oedd Mr. Webber, Lancaster. Unawd, agored i unrhyw lais, rhoddedig gan y Carmelite Press." Gwobr pum gini. Yr oedd llu mawr wedi cystadlu ar hon, ond yn y prawf olaf ar y llwyfan aeth Miss Jenny Ellis, Caerdydd, etto a'r gamp yn bur hawdd. Cadeirio'r Bardd. Testyn y gadair eleni oedd pryddest goffa i Ben Bowen," bardd a fu'n fuddugol yn un o eisteddfodau blaenorol v ddinas yma. Cynygid saith gini o wobr yn ychwanegol at y gadair. Daeth saith o ymgeiswyr i'r maes, ac 'roedd yr Phofr, D. J\. Harris,\ [Seven Sisters, Glam. .1 Mr. W. ALVA RICHARDS. oil o honynt yn dda iawn. Nis gallodd Elfed -y beirniad-fod yn bresenol, am hynny cymerodd Machreth a'r beirdd ereill y seremoni o dan eu haden, a chyhoeddodd Llew Tegid a'r Corn Gwlad" fod pawb mewn heddwch. Darllenodd yr Ysgrifenydd ran o'r feirniadaeth, a chyhoeddwyd mai eiddo Deigryn Cenedl" oedd y goreu. Wedi galw am y buddugwr yn ol y ddefod, wele wr ieuanc yn codi yn y dorf, ac aed i'w gyrchu gan ddau o'r cylch barddol. Cadeiriwyd ef yn ol y ddefod, a chyhoeddwyd mai W. Alva Richards, Seven Sisters, Castell- nedd, oedd y bardd ieuanc a ganodd mor rhagorol. Canwyd can y cadeirio gyda hwyl gan Mr. David Evans, a rhoed derbyniad cynes i berchen y gadair gan y dorf. Yr Arglwydd Faer. Yr oedd y gwr hwn yn sylwedydd cywrain yn ngwaith yr Orsedd Farddol wrth gadeirio'r bardd ac edrychai drwy y noson fel pe'n mwyn- hau y gweithrediadau. Ni thraddododd araeth er hynny; cafodd y gorchwyl o siarad ei gyflwyno i'r Sirydd, yr hwn ar ran ei Arglwydd- iaeth a ddymunai ymddiheuro am nas gallai ei lais fod yn glywadwy mewn lie o faint yr Albert Hall. Nid yn ami yr ai yr Arglwydd Faer yn swyddogol o'r tu allan i gylch cyfreithiol y ddinas, Mr. L. D. JONES (Llew Tegid), Arweinydd. ond gwnaeth eithriad y tro hwn am ei fod yn edmygydd o hen arferion y Cymry. Yr oedd llu mawr o Gymry mewn swyddau parchus o'r tu fewn i'r ddinas, ac nid oes amser maith er pan fu Cymro yn Arglwydd Faer, ac yn ol pob argoelion Cymro gaiff yr anrhydedd y flwyddyn nesaf etto. Yr oedd yn dda ganddo weled y Cymry yn rhoddi'r fath gefnogaeth i gerddor- iaeth swynol ac uwchraddol fel ag a geid ar y rhaglen y noson honno. Cystadleuaeth Corau Meibion. Yr oedd yr awrlais yn mhell wedi deg cyn i gystadleuaeth fawr y nos cael ei dechreu. Y prif ddarn corawl oedd Homeward Bound," o waith Mr. D. C. Williams, a rhoddid gwobr o GAN GINI i'r parti buddugol. Daeth chwech o gorau i'r maes, a chanasant yn y drefn a ganlyn :— COR ARWEINYDD. i Manchester .Mr. W. Nesbitt. 2 Rhondda.Mr. Rees Tones. 3 Resolven.Mr. T. G. Richards. 4 Cynon (Aberdar).Mr W. J. Evans. 5 Eryri .Mr. J. Williams. 6 Cymry Llundain Mr. Merlin Morgan. Am dros ddwy awr buwyd yn dael dad- ganiad o'r dernyn effcithiol ac anhawdd hwn, ac 'roedd yn un o'r cystadleuaethau goreu a gaed Parch. H. tLVt I LtWIS, Beirniad Llenyddol. yma ers tro. Yn eu dyfarniadau yr oedd y tri beirniaid yn unfrydol, a dyma'r modd eu dos- barthent:— GOREU CYNON (ABERDAR). Ail.Cymry Llundain. Trydydd .Cor Manchester. 1, Nid oes angen dweyd i'r dyfarniad roddi perffaith foddhad i'r dorf, ac 'roedd yn hawdd maddeu i wyr 'Berdar am eu brwdfrydedd ar derfyn yr wyl. Yr oedd yr amser wedi mynd mor hwyr fel nas gallwyd galw ar y Tenoriaid i ganu'n gyhoeddus, felly dyfarnwyd y wobr i'r gwr a farnwyd yn oreu yn y rhagbrawf.