Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

f MANION EISTEDDFODOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mr. D. EMLYN EVANS, Beirniad Cerddorol. Cafodd y pwyllgor feirniaid cymhwys iawn i'r wyl eleni. Yn yr adran gerddorol yr oedd Dr. Henry Coward, Mr. Emlyn Evans. a Mr. D. C. 'Williams, Merthyr, awdwr y prif ddarn i'r corau meibion. Elfed a'r Proffeswr J. Morris Jones 'oedd yn clorianu y llenyddol a'r barddonol, ond nid oedd eu llafur yn fawr. Yn y gystadleuaeth ar y Deuawd, nid oedd y rparti a gawsant y wobr mor boblogaidd gan y > dorf a'r "Ddau Lowr," a gawsant eu trechu. Ond. nid y dorf sydd i feirniadu, er hynny 'canu yn rhagorol wnaeth y ddau fachgen o ,gôr Aberdar. Cafodd Mr. D. C. Williams groesaw cynes iawn wrth roddi ei feirniadaeth am y tro cyntaf yn yr Albert Hall. Siaradwr llithrig, a'i lais yn glywadwy drwy'r holl neuadd, oedd Mr. • Williams, ond prin y gellid clywed Emlyn tu allan i rai o'r blaenseddau. Camp fawr yw rhoddi beirniadaeth glir. Mae cantor dall yn sicr o ennill edmygedd, ac 'roedd y gwr a ymgeisiai ar yr Unawd Baritone yn yr wyl hon yn ffefryn gan bawb. Golygfa doddedig oedd gwylio arno yn darllen y nodau a'i fysedd fel yr elai yn mlaen a'r gan, Photo, Leighton,] [414, Brixton Road, S..w. Parch. S. E. PRYTHERGH- Cadeirydd y Pwyllgor. ac yn wir fe haeddai wobr arbenig am ei ymdrech. Yr oedd yr Arglwydd Faer yn wyliedydd cywrain o'r holl weithrediadau, a bu'n gywrain iawn yn ceisio deall cyfrinion seremoni i cadeirio. Mae'n biti na roddid iddo enw barddol yn yr wyl fel y gwna'r Archdderwydd a phob sparbil o gyfoethogyn Seisnig a fynycha'r Wyl Genedlaethol. Unawd cyffredin iawn oedd yr unawd agored am yr hon v cynygid gwobr o bum' gini gan Gwmni'r Daily Mail. Dau fariton ac un soprano oedd wedi eu dewis i ymddangos yn derfynol ar y gan, ac i'r soprano aeth y gamp gydag anrhydedd. Gwaith anhawdd er hynny oedd beirniadu cydrhwng y gwahanol leisiau, debygem. Caed rhes o englynion gan yr hil farddol ,ar ol y cadeirio, a sicr fod pawb yn synu wrth weled gwr mor ieuanc yn ennill y gadair. Yr oedd rhai sibrydion cyn yr wyl mai un 0 feirdd enwog y Deheubarth oedd yn oreu, ond pan gyhoeddwyd yr enw ar y llwyfan "aeth pawb yn stump," chwedl y deheubarth, oherwydd 'doedd ond nifer fechan iawn wedi clywed am yr enw erioed o'r blaen. Mae'n eglur ar ol y prawf eleni etto mai eisteddfod ddwy noson raid i ni gael yn Llun- dain yma. Mae eisteddiad o saith o'r gloch hyd wedi hanner nos yn ormod o dreth; ac mae'r hanes am drueniaid yn ymgripio adref mewn pryd erbyn dechreu ar y round laeth yn ddigon i gondemnio unrhyw gynulliad. Dylasid gofalu am i'r prif gorau ddechreu yn llawer cynnarach nag a wnaed, yn enwedig pan y gwyddid fod y darn mor faith. Dyma'r tro cyntaf i gor Aberdar gystadlu, ac mae meddwl fod gwr ieuanc fel Mr. Evans wedi llwyddo i guro hen gewri fel cor Manchester a chor Glyndwr Richards yn haeddu gair o gan- moliaeth. Ar ol hyn, ni fydd yn ddiogel i ddibrisio unrhyw ymgais a wneir gan gorau newydd o'r South. Mr. Madoc Davies oedd i ganu can y cadeirio, ond gan ei fod wedi ei daro yn wael rai dyddiau yn flaenorol, bu raid ymofyn am wasanaeth Mr. David Evans. Mae Mr. Davies wedi ei gaethiwo ers dyddiau i'w ystafell gan anwyd blin, ond deallwn ei fod yn graddol wella yn awr. Gwaith caled yw trefnu eisteddfod, a chan fod y prif rjn o'r baich ynglyn a gwyl yr Albert Hall wedi syrthio ar ysgwyddau yr ysgrifenydd, Mr. D. R. Hughes, nid yw'n ;-yndod genym ddeall. ei fod wedi gorfod cadw yn y ty am rai dyddiau wedi'r llafur. Cafodd anwyd ar y noson, a chan ei fod eisoes wedi gorweithio bu raid ei gadw yn ei wely er ennill adgyfnerthiad. Hyderwn er hynny y gwelir ef allan cyn diwedd yr wythnos. Yr oedd llu o.wyr mawr y Cymry yn yr wyl; yn eu plith gwelsom Mr. a Mrs. Lloyd-George, Mr. J. Francis, Y.H., Mr Frank Edwards, A.S., Mr. Alfred Davies, A.S., Mr. Timothy Davies, Mr. D. A. Thomas, A.S., Syr W. Preece, Major- General R. Owen Jc nes, &c. Y buddugol ar yr Unawd Tenor oedd Mr. D. J. Jones, Middlesbrough (Alawydd Glan Tees). Yr oedd tri wedi eu dewis yn y rhag- brawf i ymddangos yn y cynulliad cyhoeddus, ond gan i'r awr fynd mor hwyr, ac mai Mr. Jones oedd y goreu o'r tri yn y rhagbrawf, iddo ef y dyfarnwyd y wobr. Dyma rai o'r anerchiadau barddol a draddod- iwyd yn Albert Hall ar achlysur cadeirio'r bardd :-— Ar ddurol Gadair o dderwen—urddwn Mewn harddwoh ei pherchen, Nid.pe^ run dyn.yn Llundert Yn well bardd na chyfaill Ben. Photo, Alfred Belts,] [Merthyr. Mr. D. C. WILLIAMS, Beirniad Cerddorol. Daeth hwn o wlad y bryniau, A gwlad y brwyn a'r wawr, I wasgar blodau'i awen Ar lwybrau Llundain fawr. Yn mysg ei frodyr barddol Efe yn wir yw'r Saul, Cadeiriol fardd i Lundain A King" yr Albert Hall. Yn Llundain yn gain e' ga'—ei godi I gadair beirdd Gwalia I wron vr iaith ro'wn "hurrah, Enaid eilfyd yw Alfa." Ferndale. PERERINFARDD. Ti Alva" wrth dast" Elfed—a'r Athro Vw eithriad ein tynged Aed yn rhwydd dy lwycld ar led Trwy Walia ein tir cled. Hwn o'r S jven i awyr y Sais-a ddaeth Gyda'i ddwfn h)frydlais, o Gaerludd ei ddengar lais Dawela ddyffryn Dulais. Yn ddewr hwn ganodd- ar ol-y hywiol Ben Powen angerddol; 0 y dewrwas cadeiriol Yn bert ei wen mewn Albert Hall. Deigryn cenedl," digryn y cana-ef Ar ol Ben fy Ngwalia A gw no-c'd aur ei giin dd" Fywha El ed, fy Alva." Seven Sisters, Neath. DULAIS. I Photo, W.■ II. [Llanliuibø. Mr. D. R. HUGHZ3, Ysgrifenydd.