Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

PENNODAU YN HANES METHODISTIAETH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENNODAU YN HANES METHODISTIAETH YN LLUNDAIN. Gan y diweddar Mr. T. Hamer Jones. Cymanfaoedd y Pasg. Dechreuwyd cynhal y rhai hyn yn foreu iawn. Y mae rhyw gymaint o hanes ar gael am un a gynhaliwyd yn y capel cyntaf-sef hen gapel Wilderness Row-y Pasg, 1806, a thebygol y dechreuwyd eu cynhal er cof am agoriad y capel hwnnw yn 1785. Rhoddaf hanes am ddwy neu dair. Cymanfa y Pasg, 1822, yr olaf yng Nghapel Wilderness Row. Y mae yn debygol (medd Gohebydd Goleuad Gwyneda) na welwyd, er y pryd y collodd y Cymry feddiant o Loegr, gynulleidfa mor liosog o'r hen Frutaniaid yn y Brifddinas ar un achlysur. Ac oni buasai i'r Saeson o'u caredigrwydd roddi benthyg addoldai helaeth, buasai y cyfarfod blynyddol hwn yn anghysurus iawn oherwydd na chynwys capel y Cymry yn Rhestr Anialwch ond ychydig dros fil o bobl. Dydd Gwener cyn y Pasg, am ddau o'r gloch ac am chwech, a'r Sabboth am ddeg, cyfarfuwyd yng Nghapel Rhestr Anialwch, a thyn neillduol ydoedd. Y Sabboth, am ddau, cyfarfuwyd yng ngbapel y ddiweddar Arglwyddes Huntingdon, yn Spa Fields. Yr oedd yr addoldy harddwych yma (yr hwn a gynnwys dair mil) yn llawn o hil Gomer. Am chwech, rhanwyd y dorf; sef cyfarfuwyd yn Rhestr Anialwch, ac mewn capel yn Monk well Street, Falcon Square, yr hwn a gynnwys o ddeu- ddeg i bymtheg cant o bob], a llanwyd y ddau. Dydd Llun, am ddeg ac am ddau yn Rhestr Anialwch, ac am chwech yn Albion Chapel, Moorfields, capel Mr. Fletcher, yr hwn a gynnwys o bymtheg i ddeunaw cant, ac yr oedd wedi ei orlenwi. Y pregethwyr ar yr achlysur oeddynt Owen Jones o'r Gelli, sir Drefaldwyn, John Evans, New Inn, David Morgans, Cenhadwr, James Hughes, Deptiord, R. Owens, John Lewis, a William Williams, Llundain. Agorwyd y capel newydd yn Jewin Street Crescent y Pasg canlynoi, 1823. Costiodd y

Advertising

Advertising

PENNODAU YN HANES METHODISTIAETH…

Am Gymry Llundain.