Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Pobl a Phethau yn Nghymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pobl a Phethau yn Nghymru. NID yw Mr. David Jenkins yn credu y buasai yn golled o gwbl i Edward German lynu wrth ei enw bedydd, Jones, mwy nag y mae Misses Mary Davies a Maggie Davies, Ben a Ffrangcon Davies, ac Evan Williams. MAE Pwyllgor Addysg Dinbych newydd fod yn adferteisio am swyddogion i edrych ar ol y plant sy'n chwareu truant. Dim ond dau oedd eisiau, ond cawsant gant a hanner namyn pedwar o geisiadau. Beth sy'n bod, tybed ? Ai prinder gwaith, ynte gwanc am swydd esmwyth ? BYDD yn dda gan gyfeillion y Parch. Gwyn- fryn Jones, yr hwn sydd wedi bod am rai misoedd yn Neheubarth Affrica er mwyn ei iechyd, ddeall ei fod yn graddol wella, a disgwylir y bydd cyn bo hir yn ymafael yn ei waith yn Llandudno fel olynydd i'r Parch. David Jones ar y Gylchdaith Wesleyaidd. GWAHODDODD Methodistiaid Calfinaidd Rhyl Evan Roberts i dalu ymweliad a'r dref honno. Derbyniwyd atebiad i'r perwyl nad yw y Diwyg- iwr hyd yn hyn wedi gwneyd ei feddwl i fynu pa bryd y del i Ogledd Cymru. BWRIADA Ceidwadwyr Arfon wrthwynebu ail- etholiad Mr. Bryn Roberts a Mr. William Jones, er nad ydynt etto wedi dewis eu hymgeiswyr. Gwell o lawer fyddai iddynt arbed y draul, a'i rhoddi i'r tlodion. GWR anffodus ar lawer ystyr ydyw Mr. Alfred Davies, ond yr anffawd fwyaf a ddaeth i'w ran ydyw fod y Journal, Caerfyrddin, a'r Cambrian, Abertawe, wedi ei gymeryd dan eu hesgyll. Os bu erioed gan ddyn achos i weddio, Lord, save me from my friends," Mr. Alfred Davies yw y gwr hwnnw. RHODDODD y Cymro aiddgar hwnnw o Gaer- dydd, Syr Edward Reed, ei bleidlais yn ffafr y Llywodraeth yn yr ymraniad ddydd Iau di- weddaf. Fe ddel dydd pryd y bydd raid rhoddi cyfrif am bob pleidlais segur. RHAI yn edrych ar y dyfodol gyda'u dau lygad yn agored ydyw pobl y Drefnewydd. Maent newydd bennodi swyddog meddygol, gyda chyflog o £ 90 y flwyddyn, ar y telerau nad yw tra y deil y swydd i ymofyn am godiad yn ei gyflog. PWNC sydd yn achosi cryn helbul yng Nghwm Aberdar y dyddiau presennol ydyw hawl yr athrawon i gosbi plant yn yr ysgolion dyddiol. Yn diweddar, darfu i un o'r is-athrawon yn Ysgol Ynyslwyd, Aberdar, gosbi mab i un o aelodau Cynghor Dosbarthol Aberdar. Achwyn- odd y tad, a dygodd yr achos ger bron Pwyllgor Addysg Aberdar, yr hwn wnaeth ymchwiliad i'r achos. Yn canlyn yr ymchwiliad, cynygiodd yr achwynydd, fel aelod o'r Pwyllgor hwn, fod yr hawl o gosbi plant o hyn allan yn cael ei gyf- yngu i'r ysgolfeistr. Am hyn o sarhad, y mae athrawon cynorthwyol Aberdar wedi rhoddi mis 0 rybudd, y mis i ddechreu ar y dydd cyntaf o Fawrth. i MAE cwestiwn Addysg yn achosi tipyn o gyn- hwrf yn Meirionydd ac yn y Barry, ond y mae yn dawel a heddychol yn y lleoedd hyn o'u cymharu ag Arigna, Roscommon, lie y mae y Cynghorwyr Dosbarth wedi eu hesgymuno am feiddio gwrthwynebu yr offeiriad Pabaidd.

Advertising

The Children's Column.

Advertising

Pobl a Phethau yn Nghymru.