Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y LLAETHWR A'R "PICTIWRS."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y LLAETHWR A'R "PICTIWRS." [Experts of the fine arts are discussing the collection of valuable coloured prints acquired during many years by an old man who trundles a milk barrow in the West of London. The connoiseur dealer is a Welshman. The other day a Lloyd's representative found the dairyman fine art collector in his little shop. His wife was present, and heard with surprise that her husband had made a reputation for himself as an art expert, and considerably over a thousand pounds worth of coloured prints were hanging on her walls. She confessed she had often re- proved him for his apparent folly of spending all his ..money on old "pictures," but now she knew the dealers would give her husband a cheque of £1,000 for his treasures]. Dwg y dyfyniad uchod o Lloyd's Weekly Newspaper, yr hwn hefyd a ail-argraffwyd yn y LONDON WELSHMAN bythefnos yn ol, ar gof gais ,ein Golygydd am ychwaneg o fanylion ynghylch y llaethwr nodedig a ddarganfyddwyd gan un o ohebwyr Lloyd's. Nid oedd ball ar gywreinrwydd y Golygydd, a cheisiodd drwy lawer -ymholiad ddod o hyd i'r gwr sydd wedi gosod urddasolrwydd ar y fasnach laeth, ond yn ofer. Yn ffodus, tra ar y tffordd i'r swyddfa un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, daeth ar draws gwr sydd yn gwybod mwy am Gymry Llundain nag pdld neb arall, a gofynodd iddo y cwestiwn oedd wedi ei ofyn ,ddegau o weithiau o'r blaen, A wyddoch chwi ivpwy yw y llaethwr sydd yn casglu hen bictiwrs ? Gwn," oedd yr atebiad, a rhoddodd yr enw a'r cyfeiriad yna ychwanegodd, ond cymerwch ofal pa fodd yr ewch atto, oherwydd mae'n flin iawn ganddo fod cymaint o gyhoeddusrwydd wedi ei roddi i'w hobby." Pari gyrhaeddodd y Golygydd y swyddfa y boreu hwnnw, yr oedd golwg mwy siriol nag ;arferol ar ei wyneb. Galwodd fi atto ar unwaith a dechreuodd siarad, Yr wyf wedi llwyddo i ;gael enw a chyfeiriad y llaethwr sy'n casglu „ pictiwrs. Ewch atto, a cheisiwch ganddo ychydig o'i hanes." Wrth derfynu, anogodd fi i fod yn ofalus. Hawdd oedd dod o hyd i Mr. J ond .anhawdd i'w ryfeddu oedd cael ganddo siarad ar y pwnc sydd yn agosaf at ei galon-bron mor anhawdd ag ydyw cael gan fachgen ieuanc siarad am ei gariad. Fel rheol y mae dwy ffordd-a dim ond dwy—i ennill ymddiried Cymro mewn gwlad estronol- Un ydyw drwy ddechreu ym- :gomio ynghylch ei gartref yng Nghymru, a'r .Hall drwy siarad ynghylch y capel, a chewri y pwlpud Cymreig. Pa mor sarug bynag y gall y Cymro fod, mae agoriad sicr i'w galon drwy y moddion hyn. Cafwyd prawf o hyn gyda Mr. J- (Cyn myned ymhellach gwell yw i mi ddweyd mai ar yr amod na wnelid ei enw yn hysbys y cyd- syniodd i ddweyd gair). Brodor ydyw o Aberys- twyth, tref sydd yn anfon ei meibion goreu i wareiddio y Saeson yn y brifddinas. Y mae wedi bod yn Llundain ers pum-mlynedd-ar-hugain, ac mae'r teulu yn addoli yn eglwys Jewin. Ond "er iddo fod yn alltud o Gymru am :gymaint o amser, yno y mae ei galon yn aros. Yn ei feddwl ef, fel lie i fyw, ac fel lie i farw, nid oes gymhariaeth rhwng Llundain fyglyd, baganaidd, a Gwlad y Bryniau. Fel pob gwir Gymro, y mae'n dyheu am gael noswylio yn yr hen wlad. Mae gan Mr. J ystor o adgofion am ei hen gartref yn Ceredigion. Y mae'n cofio yn dda y diweddar a'r anwyl Barch. David Charles Davies yn pregethu ei bregeth gyntaf, ac fel illawer un arall ddaeth i gyffyrddiad a Mr. Davies, y mae'n parhau i hiraethu ar ei ol. 0 dipyn i beth llwyddwyd i'w arwain i siarad ynghylch ei bictiwrs. "'Does dim i ddweyd," meddai, ond nid yw gohebydd Lloyds yn dweyd y gwir pan y dywed fod genyf bictiwrs gwerth mil o bunau. Ffrwyth ei ddychymyg ef ei hun yw hynny, ac yr oeddwn yn bur ddigofus ei fod yn dweyd y fath beth. Mae gen i bictiwrs da, 'rwyn gwybod hynny, a'r dydd o'r blaen 'roedd un o oruwchwylwyr y British Museum yma yn edrych drostynt. Dywedodd fod llawer o honynt yn werthfawr, a chynghorodd,fi i'w cadw am ychydig flynyddoedd ymhellach, ac yna, os dymunwn eu gwerthu, byddant yn werth dwbl yr arian a roddais am danynt." 1'r cwestiwn pa un yw ei hoff arlunydd, atebai Mr. J fod yn well ganddo waith Morland na neb arall. Atebiad eithaf naturiol ydoedd hwn, oherwydd apelia gwaith Morland yn arbenig at y rhai sydd wedi eu dwyn i fyny a'u magu yn y wlad. Yn nesaf at Morland gwell gan Mr. J waith Syr Joshua Reynolds, ac y mae hefyd yn bur hoff o weithiau Gains- borough, Romney, a Cosway. 9 Y mae esboniad Mr. J-- o'r modd y daeth i ddechreu casglu darluniau yn syml a dirodres. Prynu un i ddechreu, a lecio hwnnw." Dyna'r cwbl. Dipyn yn llawdrwm y mae ef ar yr expert, ac amlwg yw nad oes ganddo lawer o gariad tuag atto, mwy nag sydd ganddo at y dealer. Adroddai hanes un expert yn y West End gyda chryn flas. Dwg berthynas a darlun enwog Gainsborough o'r Duchess of Gainsborough, yr hwn a ladratawyd rai blynyddoedd yn ol. Rhoddodd yr expert ar ddeall fod y darlun yn ei feddiant, ac nad oedd ganddo yr un amheuaeth nad efe oedd y gwir a'r gwreiddiol ddarlun, a'i fod wedi talu pris uchel am dano. Ym mhen ychydig daeth y newydd fod y gwir ddarlun wedi ei ddarganfod yn yr America, a chan nad oedd os nac onibae ynghylch dilys- rwydd y darlun olaf, nid yn unig collodd yr expert ei arian, ond hefyd ei gymeriad yn ei alwedigaeth. I'r cwestiwn pa fodd yr oedd yn gallu canfod y gwahaniaeth rhwng y gwir a'r gau mewn trafnidiaeth lie y mae twyll wedi ei ddyrchafu i fod yn oruwch na chelfyddyd, dywedodd Mr. J fod yn anhawdd iawn atteb mewn geiriau. Rhaid wrth brofiad maith ac astudiaeth fanwl. Ond y mae y papyr ar ba un yr argreffir y dar- luniau yn un o'r profion goreu. I rai sydd yn eu deall, y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng papyrau y dyddiau hyn a rhai gan mlynedd yn ol. Dyma swm a sylwedd yr ymgom am y darluniau. Dyn syml, dirodres ydyw y casglwr, ac y mae'n gas ganddo wneyd dim stwr yn eu cylch. Cefais y fraint o'u gweled, ac hyd yr wyf fi yn eu deall, y maent yn dangos chwaeth uchel ar ran Mr. J Purion peth fyddai eu cael i'r Amgueddfa Gymreig, ac os y lleolid hi yn Aberystwyth hwyrach y byddai loes y casglwr wrth ymadael a hwynt yn llai. A ydyw yn ormodiaith dweyd fod gwaith Mr. J yn gosod urddasolrwydd nid yn unig ar y fasnach laeth, ond hefyd a'r Gymry Llundain. Yr ydym yn hoff o honni, ac nid heb achos, fod diwylliant meddyliol yn fwy cyffredinol ym mhlith gwerin Cymru nag odid un genedl. Ond y mae Mr. J wedi torri tir hollol newydd. Ychydig sylw sydd wedi ei dalu i'r celfau cain hyd yn hyn, ac nid yw hyn yn beth i ryfeddu atto, oherwydd y mae y gost ynglyn a hwy yn eu gosod allan o gyrhaedd y werin.

WELSH CLUB FOR LONDON.

MARWOLAETH MR R. GRIFFITH.