Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

MERIONETHSHIRE DEFIES THE…

ST. DAVID'S DAY.

Advertising

Enwogion CymreigG-XXIII. Mr.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

anrhydedd o siarad Cymraeg gyntaf yn Nhy y Cyffredin. Yr oedd hynny yn fuan wedi iddo fynd yno, yng nghwrs dadl ar Ddadgysylltiad i Gymru y cymerodd ran ynddi. Pan glyw- sant y fath estroniaith farbaraidd, chwarddodd y Saeson yn uchel, ond trodd y chwerthin yn ddifrifol pan eglurodd iddynt mai brawddeg agoriadol Gweddi yr Arglwydd a lefarasai; a'i fod wedi ei hadrodd yn Gymraeg fel y deallent yr amhosibilrwydd i addoli heb wybod yr iaith yr addolid ynddi. Nifeddwn ofod i ymhelaethu ar neillduolion Mabon fel Seneddwr, areithiwr, Ilenor, ac ar- weinydd eisteddfodol. Rhaid boddloni ar ddweyd ei fod yn feistr ar beth bynnag a gymer mewn llaw. Medr reoli deg neu ddeuddeg mil o bobl mor ddidrafferth ag y rheolai ei gor yng Ngwaenarlwydd. Ac anwylir ef gan yr holl genedl. Mabon yw e ym mhob man. Nid yw ugain mlynedd o fywyd Seneddol wedi spwylio dim arno, parha yr un mor Gymreig ei ysbryd, mor hynaws ei dymher, mor bur ei anian a phan yn lowr dinod rhwng bryniau Morganwg.