Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
EISTEDDFOD ALBERT HALL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EISTEDDFOD ALBERT HALL. Beirniadaeth Pryddest: "Ben Bowen." Y mae yma gystadleuaeth dda. Teimlwn wrth ddarllen y cyfansoddiadau mai cynnyrch gwir deimlad ydynt gan mwyaf. Si Wylojus Lafar.-Nid yw hwn wedi dysgyblu ei feddwl fel yr haeddai. Nid yw yn cadw ei ffigyrau mor loyw ag y dylai. Cymerer yn engrhaifft:— A dyna'r pryd y planwyd hedyn cariad A dyfodd wedyn yn ei hardd gymeriad A'r dylanwadau fwydant ddaear gobaith Dyfodol bywvd llangc i wneud gwrolwaitb. Beth yw rhediad gramadegol y frawddeg ? A olyga ddweyd mai dyna'r pryd y plamvyd dylanwadau fwydant? Neu ai am ddweyd yr oedd—" A bwydaz'r dylanwadau," &c. Edrycher eto Sycheda 'i enaid am wybodaeth esyd Ei draed yn rhydd. Pa berthynas sydd rhwng syched a thraed yn rhydd ? Ymylu ar fod yn wrthun y mae geiriad y llinell hon- Ar ysgafn gorph fe gafodd benglog cawr Yr ydym yn teimlo'n sicr fod awen gan y bardd hwn. Os goddefa gyngor, ymrodded i ddeall troion gramadeg, ac i ddilyn ffigyrau yn bryd- ferth, heb eu newid ar bob damwain. De Profundis.— Y mae gan hwn ddawn telynegol tlws. Ond nid yw mor hamddenol ei arddull ag y gellid dymuno. Tueddir ef i chwareu ar eiriau mewn cysylltiadau ydynt yn lleihau urddas ei gerdd, megis :— Clywaf oehain Gomer • Am ei Ieuan Ddu Wyna byth i mi. Ieuaingc fydd telynwyr > Y telynau hyn Wyti yn mhranc y bryn Dyna urdd y beirdd. Yr wyf yn methu'n lan a dod o hyd i fiwsig y rhan ddiodl sy'n dechreu ar dud. 4. Lle'r oedd gramadeg y bardd pan ysgrifenai "wynebpryd dlos ? Lle'r oedd ei eiriadur odli pan ddododd "ami" i ateb semi ? Gwell gadael y twyll a wneir yn enw Natur mewn syniad fel hwn :— Y gornant fach ddyhidla'i chan Heb deim/o 'rioed mor lion. Fy nghred yw fod y bardd hwn wedi bod yn anffodus yn ei fesurau. Y maent yn rhy ysgafn at destyn fel hwn. Nid cawod o ieir bach yr haf oedd arnom eisieu. Yr ydym yn sicr fod yn hwn allu i wneud yn llawer gwell, mwy urddasol, na hyn. laith Fy Nghalon.—Perygl hwn yw troi yn hanner rhyddieithol. Teimlem hynny yn arbennig yn rhan II., tra y mae rhan III, ar y cyfan, yn llawer mwy hedegog. Teimlwn mai anffodus yw y gymhariaeth hon :— I Anfarwoldeb gylcha'i enw,- Pery hwnnw fel y Duwdod. Ychydig mwy o barchedig ofn," frodyr! Yn rhan IV, dyma ni yn ol eto yn swn rhyddiaith ,er engrhaifft:— Llosgai'th galon gan wladgarwch Pwy erioed fu'n fwy naturiol, Fel y wawr yn (h)ymlid tw'llwch Mae'th Ddeffroad Cenhedlaethol," &c.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DELICIOUS COFFEE. .1. RED WHITE *BLUE FOP Breakfast & after» Dinner1.
YR HYBARCH DAVID PHILLIPS,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR HYBARCH DAVID PHILLIPS, ABERTAWE. Anaml, os erioed, y bu arwr dirwestol mwy aiddgar a chadarn na Dafydd Phillips yr oedd yn un o'r cewri, ac yn cael ei adnabod fel un o gedyrn Cymru, ar bwnc dirwest. Cyplysir ei enw ef ac eiddo y diweddar Ddr. John Thomas, Lerpwl, a'u gilydd, fel dau o'r arwyr penaf ynglyn a'r gad ddirwestol yng Nghymru. Ym- unodd ag achos dirwest yn gynar ar ei oes; a bu yn gefnogydd nerthol iddo hyd y diwedd. Yr oedd yn un o'r ariethwyr mwyaf hyawdl ar y pwnc; a dywedai yn fynych, wrth ddechreu areithio-" Dyma i chwi ddwylath o ddir- westwr." Mor gymeradwy ac mor effeithiol ydoedd ar y llwyfan dirwestol fel y byddai galw mynych am ei wasanaeth yn mhob rhan o Gymru a rhaid fyddai iddo, pan yn myned at ei ymrwymiadau Sabbothol, roddi araith ar ddirwest cyn ymadael o'r lleoedd y byddai ynddynt. Bu yn offeryn i gychwyn llawer o gymdeithasau a chymanfaoedd dirwestol; ac nid oedd ball ar ei lafur yn y cyfeiriad hwn. Cof da genyf am dano ar ymweliad a Llanelli, pan oedd Byddin y Rhuban Glas yn anterth ei llwyddiant, ac yn ysgwyd miloedd a'i hyawdledd: ac yn mhlith pethau eraill dywedai, gan gyfeirio at y rhuban glas oedd ar ei gôt-" A welwch chwi hwn ? Yr wyf wedi ei wisgo ar fy nghot; ac yma y mae i fod tra y bydd genyf got: ac os na bydd genyf got, mi a'i gwisgaf ar fy ngwas- god os na bydd genyf wasgod, mi a'i gwisgaf ar fy nghrys ac os yr af yn rhy diawd i feddu crys, mi a'i piniaf ar fy nghroen rhaid i ni fyned i'r bedd gyda'n gilydd." Ac y mae yn hawddach dychmygu na desgrifio yr effaith drydanol ar y dorf oedd yn gwrando. Am y Parch. David Phillips fel pregethwr, nid oes ofod i fanylu. Yn y Maesteg, Sir Forganwg, yn y flwyddyn 1838, y ddechreuodd bregethu; ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1854. Yr oedd "Phillips Maesteg a Phillips Abertawe wedi hynny, yn dra adnabyddus a phoblogaidd yn y Deheu- dir, ac yn enwedig felly yn ei sir fabwysiedig ei hun, sef Morganwg. Yr oedd ei bersonoliaeth hardd a serchogrwydd ei wynebpryd yn fantais fawr iddo yn y pulpud, ac yn dwyn y gynnull- eidfa ar unwaith i gydymdeimlad hollol a'r pregethwr. Yr oedd ganddo lais rhagorol, clir, treiddiol, a chlywadwy-er nad oedd yn ber- seiniol nac yn fawr. Yr oedd ei iaith bob amser yn goeth, ac ehediadau ei feddwl yn farddonol a chryf. Er ei fod yn dduwinydd da, etto nid duwinyddiaeth, fel y cyfryw, oedd yn fwyaf amlwg yn ei bregethau, ond yr efengyl yn ei symledd darluniadol ac ymarferol. Troai beunydd o gwmpas y Dyn Crist Iesu"; a chyfleai wirioneddau yr efengyl mor fyw ger bron ei wrandawyr nes llwyr wefreiddio y cynnulleidfaoedd. Yr oedd efe nid yn unig yn bregethwr cymeradwy, ond hefyd yn bregethwr coeth, goleu, adeiladol, a gwir rymus. Ac y mae yn ffaith nodedig am dano, ei fod yn fwy effeithiol a llwyddianus yn ei gylchoedd car- trefol nag yn un lie arall. Yr oedd yn byw mewn cymundeb agos a'r Nefoedd: ac mewn cylchoedd bychain cyssegredig byddai tanbeid- rwydd yn goleuo ei wedd tu hwnt i ddim a welais erioed. Nid anghofiaf byth ei weddi a'i wedd yn nhy y diweddar Ddr. Saunders ar ddiwrnod pan yr oedd y gwr anwyl hwnnw yn claddu un o'i blant. Dyna'r adeg y gwelais fwyaf o Dduw erioed mewn angladd. Pregethai bob amser yn dda; a chafodd rai odfeuon nodedig o rymus. Rhoddwyd iddo bob anrhydedd y gallasai ei gyfundeb osod arno, heb eithrio cadair y Gymanfa Gyffredinol; a theimlid ei fod ef yn gosod anrhydedd ar bob cylch, ac urddas ar bob swydd, y gelwid ef iddynt.—Y Parch. J. E. Davies, M.A. (Rhudd- wawr), yn Ngheninen Givyl Dewi.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
9 Guineas. AMERICAN ORGAN. Sankey" model, eleven stops, including two knee stops, and the beautiful solo stops, voix celeste and vox humana -two octave couplers-handsome high case-in use about four months—20 years' warranty-easy terms arranged- packing and carriage free both ways on approval-full price paid will be allowed within three years, if exchanged for higher class instrument. D'ALMAINE & CO. (Established 120 years). 91, Finsbury Pavement, London, E.C. Open till 7; Saturdays 3. 15 Guineas. DUCHESS MODEL PIANO, by D'ALMAINE & CO. (Est. 120 years). Solid Iron Frame, Upright Grand-full compass, full trichord, check repeater action, &c.—in handsomely carved case- 4 ft. in height-in use only six months- sent on approval-carriage free both ways to any part of United Kingdom-twenty years' warranty-easy terms arranged-full price paid will be allowed if exchanged for a higher class instrument within three years. D'ALMAINE & CO. (Established 120 years) 91, Finsbury Pavement, London E.C. Open till 7 Saturdays 3,
EISTEDDFOD ALBERT HALL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae yn ennill nerth drachefn yn y rhan olaf. Ac felly y teimlwn y bryddest hon-pryddest gref ar rai ystyron-yn anwastad Deigryn Cenedl.-Bu hwn, i ddechreu, yn ffodus yn ei fesur-mesur In Memoriam Tennyson, gan mwyaf. Weithiau meglir ef ychydig gan y mesur hyn o engrhaifft :— A gwelodd ei anfarwol em Yn gloywi mevm glofiiol ddrain. Yn haul barddonol gwlad ar goedd. Rhyddieithol iawn yw honna. Ni hoffwn chwaith mo hyn :— Bu cystudd droion ar ei rudd Yn dweud athroniaeth Bod a Byw. na hyn chwaith Ym medydd yr Addysgol ddydd. Ond gydag ychydig fan eithriadau, deil y bryddest brydferth hon yn ei gloywder o'r dechreu i'r diwedd. Cadivgan.—Cerdded yn arafaidd wna hwn. Symlrwydd sy'n nodweddu ei arddull, gydag ambell gyffroad hapus fel hwn yn darlunio'r bardd ieuangc yn myned i Affrica, a'i genedl yn ei gynhorthwyo :— Gyda'i dagrau ar ei delyn, a'i helusen yn ei law. Gwyn fyd na ddeuent yn amlach. Ymgad- wed y bardd rhag ymadroddion estronol o fath hwn :— A blanna gusan ar ei arwaf groes. Y mae'r efelychiad yn y pennill ar ddiwedd rhan III. yn anhapus-i feirniad. Diwygiwr Moel Cadw gan.—Pryddest feddyl- gar; ond nad yw y bardd hwn, fwy nag eraill yma, yn gallu ymryddhau oddiwrth y brofedig- aeth o wneud nodiadau rhyddieithol fel ar ymyl y ddalen :— Rhyfedd fel mae amgylchiadau'n troi yn erbyn plant athrylith, Rhyfedd fel y medrant hwythau droi eu° hanhawsderau'n fendith. Digon gwir, wrth gwrs a gwnai'r tro mewn anerchiad, ond mewn pryddest dylasai gael ffurf arall, decach. Etc :— 0 dan ddylanwad yr ysprydion hyn A ffurfiant ei gymeriad viewnol ef. Nid yw'r ffaith fod y llinellau hyn yn 10 sill yr un yn eu gwaredu rhag bod yn ddim ond rhyddiaith. Taliesin.—Methwn wneud fawr o hon, gan mor gymysglyd yw o ran meddwl ac arddull. Yr ydym fel yn y niwl yn cael cipdrem ar olygfa dlos, ond yn ei cholli cyn cael golwg glir ami. Buaswn yn teimlo cryn anhawster i benderfynu rhwng dau neu dri o'r cystadleuwyr hyn, oni bai fod yma un sydd yn fy moddio'n well, fel na raid ymboeni. Y mae gwaith da yn y rhan fwyaf o'r pryddestau ond y bryddest loywaf, fwyaf. awenyddol, fwyaf byw o'r dechreu i'r diwedd yw eiddo Deigryn Cenedl," ac iddo ef y mae'r clod a'r wobr. ELFED.