Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Notes of the Week.

Am Gymry Llundain.

Advertising

Nodiadau Golygyddol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

nis gallant fod felly heb i wahaniaethau gael eu cadw allan o honynt. Dywedir y dylai yr Ysgolion Eglwysig gael triniaeth neillduol ar gyfrif y gwasanaeth a wnaethant pryd nad oedd unrhyw ysgolion eraill i'w cael. Yr ydym yn ddiolchgar i Eglwys Loegr am y gwasanaeth hwnnw, a chredwn y byddai y Cynghorau yn barod i rentu neu brynu yr holl adeiladau y gellir dangos eu bod wedi eu codi drwy gyfran- ladau Eglwyswyr. Byddem ni yn berffaith foddlawn i roddi i'w perchenogion lawer iawn gwell telerau nag a gafodd perchenogion Ilawer o'r hen Ysgolion Brytanaidd pan y daeth y Byrddau Ysgol i awdurdod. Ond y mae parhad yr Ysgolion Enwadol i fod yn elfen o gynnen ac yn rhwystr ar ffordd uno y genedl allan o'r cwestiwn. Tra yn edmygu medr Meirion yn yr ornest gyntaf, yr ydym yn teimlo hefyd ei bod yn bryd i Gymru ddadgan yn gliriach nag y gwnaeth etto beth yw y gyfundrefn o addysg y medr uno i'w derbyn. A pha fwyaf a feddyliwn am y pwnc, dyfnaf oil yw ein hargyhoeddiad nad ellir uno ar ddim gwahanol i gyfundrefn o Addysg Fydol yn unig. Nid oes enwad na phlaid mor bell ag y mae yr addysg honno yn y cwestiwn. Dichon y dywed rhywrai y dylai pobl grefyddol gytuno hefyd yng nghylch elfenau hanfodol eu crefydd gan y cytunant yn nghylch yr hyn sydd is a llai. Nid ydym yn meddwl felly am foment. Yn y tirio- gaethau uchaf yn unig y ceir lie i wahaniaethau, ac fel yr a dynion yn agosach i'r ysbrydol, anhebycaf i gyd ydynt o weled pethau yn yr un goleuni. Yr ydym wedi hen flino ar y siarad ynfyd y dylai crefyddwyr gywilyddio oblegid eu hymraniadau a'u cwerylon. Nid yw crefydd yn grefydd wirioneddol, oddigerth pan y bo yn argy- hoeddiad personol, cryf a dwfn; a lie bo argyhoeddiadau felly rhaid anghytuno. Nid Pynciau argyhoeddiad ond pynciau gwybod yw pynciau addysg fydol, a phynciau gwybod yw yr unig bynciau y mae yn bosibl sylfaenu cyfundrefn genedlaethol o addysg arnynt. A dyna yr unig bynciau y dylai deddfau gwladol eu cyffwrdd o gwbl. Unwaith y caniateir fod ganddynt hawl I gyffwrdd pynciau argyhoeddiad, cyfiawnheir holl erchyllderau cyfnodau yr erledigaethau crefyddol. Amod hanfodol rhyddid ac iawnder yw gwahaniaethu cydrhwng pynciau gwybod a phynciau argyhoeddiad.