Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
PENNODAU YN HANES1, METHODISTIAETH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENNODAU YN HANES 1, METHODISTIAETH YN LLUNDAIN. Gan y diweddar Mr. T. Hamer Jones. GOFIDIAU A HELBULON. Yr oedd gan y pregethwr Jenkins ddwy ferch oeddynt heb eu derbyn yn gyflawn aelodau. Ymbriododd y merched hyn a dau frawd o'r enw Thomas, y rhai oeddynt yn gyflawn aelodau yn Wilderness Row. Crogi oedd y gosp yr adeg honno am liaws o droseddau yn erbyn cyfraith Lloegr,—am ladrata dafad yn gystal ag am lofruddiaeth; ac yn unol ag ysbryd yr oes, fe ddiarddelwyd y ddau frawd yn ddiymdroi, ac Edward Jones a roddodd y ddedfryd arnynt. Digiodd y ddau frawd yn arw, yng nghyda'r ddau bregethwr Jenkins a Thomas, ac ymadawsant o'r Cyfundeb. Troisant yr achos yn Gravel Lane, yr hwn oedd gan mwyaf dan eu gofal, yn achos annibynol ar y fam eglwys.-a dyna ddechreuad, meddir, achos yr Annibynwyr Cymreig yn Llundain. Yn, neu oddeutu, y flwyddyn 1799, fe ddechreuodd gwr ieuanc o'r enw Griffith Jones, genedigol o Feddgelert, bregethu yma, a disgwylid llawer oddiwrtho. Ond adfeiliodd ei iechyd, a gorfu iddo gilio i Gymru-nid i wella, ond i farw. Rai blynydd- oedd cyn hynny yr oedd Edward Jones wedi taro wrth wr o'r Deheudir o'r enw Francis, yr hwn a breswyliai mewn ty yn ymyl Palas yr Archesgob, yn Lambeth, ac fe allai mai hwn oedd y lie yr aethai Edward Charles iddo. Arferai Francis bregethu-heb bennodiad neb, mae'n debyg. Ond buan y cafwyd allan nad oedd ymarweddiad y gwr hwn yn deilwng o'r Efengyl a bregethai, a thorrodd Edward Jones bob cysylltiad ag ef. Parhaodd i bregethu, pa fodd bynag, i ryw ddyrnaid o ddilynwyr hyd ddiwedd ei oes. Helynt Carwriaethol Edward Jones. Yr oedd Ilywyddiaeth yr achos yn Cock Lane ac wedi hynny yn Wilderness Row, yn gorphwys yn bennaf ar ysgwyddau Edward Jones ond amgylchiadau, yn hytrach na chymwysderau neillduol at y gwaith, a'i gosodasai yn "y fath le pwysig. Trwy hir brofiad daeth yn hoff iawn o flaenori, ac o ddangos i bawb mai efe oedd y meistr. Parasai y naws arglwyddaidd hwn effeithiau drwg yn llawer cynt nag y gwnaeth, onibai y dylanwad bendithiol a feddai ei wraig arno. Un o Sir Ddinbych oedd y wraig synwyrol a chrefyddol hon a gallai arwain ei gwr, meddir, yn ddiarwybod iddo, ac felly yr oedd hi o wasanaeth dirfawr i'r achos, fel y gall pob gwraig dda fod. Ond oddeutu y flwyddyn 1796 bu y wraig rinweddol hon farw, a chladdwyd hi yn ol ei dymuniad yng Nghapel Wilderness Row. Collodd Edward Jones, druan, ei arweinyddes ddiogei, a buan y daeth gwedd ddilewyrch ar yr achos dan ei lywodraethiad. Dirywiodd ei hun, hefyd, yn ei ysbryd ac yn ei rodiad. Yr oedd yn perthyn i'r eglwys yr adeg yma ferch ieuanc o Sir Gaerfyrddin o'r enw Gwen Prydderch, yr hon ar y pryd oedd yn umbrella maker," er yn perthyn i deulu pendefigaidd, ond wedi syrthio yn ei hamgylchiadau. A'r ferch ieuanc—dan bump-ar-hutiain oed--syrthiodd Edward Jt nes, ac yntau yn ddeg-a-thriugain, mewn cariad dros ei ben. Elai a hi i Ffair Barnet, ac ymrwymodd i'w phriodi hi ar ol dychwelyd o Gymru yn haf y flwyddyn 1800. Gwnaed pob darpariaeth angenrheiciiol ar gyfer hynny. I Gymru yr aeth ond, ar ei daith yno,
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
J. STRONG & SONS, Ltd., HIGH-CLASS PIAN05, 118, EUSTON ROAD. PIANOS BY THE HIRE PURCHASE SYSTEM AND ALSO FOR CASH. A large assortment by all makers is kept in Stock Terms from IO,6 per month. We undertake to say that better value and term cannot be obtained elsewhere.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
RINGER'S SUPERFINE u I DsRINGEft &C?L., MANUFACTURERS, \RO60. REOCUFF STREET. L-. BRISTOL. To be obtained at the Shops of MR. J. NETTEN, Cigar Importer, KING'S CROSS.
PENNODAU YN HANES1, METHODISTIAETH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
cyfarfu a gwraig weddw gyfoethog yn sir Gaer- narfon, yr hon a briododd cyn dychwelyd adref! Ond, chwareu teg iddo, nid heb ymgynghori a rhai o arweinwyr y Cyfundeb yng Ngwynedd. Parodd hyn, yn naturiol, lawer iawn o siarad, a llawer o dramgwydd. Perswadiwyd Miss Prydderch gan y ddau frawd Thomas, a ddiar- ddelwyd gan Jones, i amddiffyn ei cham trwy gyfraith y wlad. Profwyd yr achos yn Llys Westminster, a chafodd y ferch ieuanc hanner can' punt o iawn-nid can' punt, fel y dywed awdwr Methodistiaeth Cymru." Cyhoeddwyd hanes y treial, ynghyda'r holl lythyrau caru, gan Gymdeithas y Gwyneddigion er gwaradwyddo y Methodistiaid ac hefyd gan wawdlyd o waith John Jones, neu "Jack Glanygors," ar y mesur Mentra Gwen." Darllenais y llyfryn hwn dro yn ol. Nid oedd neb yn Llundain a feiddiai weinyddu disgyblaeth ar Edward Jones, a daeth y Parchedigion John Elias a John Roberts, Llangwm, yma yn un swydd i'r perwyl. Triniwyd ei achos mewn amryw gyfarfodydd tra chyn- hyrfus, a'r diwedd fu ei droi oddiwrth bregethu. Ond ni wnai efe ymostwng i'w hawdurdod hwy, gan haeru mai nid ganddynt hwy y galwyd ef i bregethu. Profodd fod ganddo rywfodd hawl gyfreithiol yn y capel, a chadwodd feddiant o honno, gan fygwth y neb a feiddiai ddweyd gair yn ei erbyn, ag esgymundod. Penderfynodd yr eglwys ymadael, a chymerwyd ystafell arall yn Bunhill Row, lie yr aethant i gyd ond deuddeg, ac felly y bu am rai misoedd. Golygfa ddigon hyll-y gynulleidfa mewn un man, a'r pregethwr mewn man arall; cynulleidfa heb gapel, a phregethwr heb gynulleidfa Yn y cyfwng yma daeth gwr mawr o'r Deheudir i fyny yn ei gylch i bregethu, yr hwn a lwyddodd i ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ac i ddyfod i delerau. Parhaodd Edward Jones yn aelod, ond addawodd roddi heibio bregethu a llywod- raethu yn yr eglwys. Bu cystal a'i air, er ei bod yn anhawdd iawn ei gadw ef yn ddistaw lawer gwaith. Ym mhen ychydig o flynyddoedd efe a symudodd o Lundain i Gymru i fyw, ac yno y bu farw. Bu llwyddiant mawr ar yr achos ar ol ei ymadawiad, ac ail-adeiladwyd Capel Wilder- ness Row yn y flwyddyn 1806. Er ei holl wendidau y mae coffadwriaeth Edward Jones yn haeddu teyrnged o barch oddiar law Methodistiaid Llundain. Helynt y Petition (o'r Goleuad, 1828). Yn rhai o bapurau newyddion Llundain dywedwyd fod Erfyniad (Petition) wedi cael ei gyflwyno i'r Senedd o blaid cais y Pabyddion oddiwrth gynulleidfa y Trefnyddion Calfinaidd yn Jewin Street, Llundain. Ond y mae yr eglwys honno wedi gwrthdystio yn gyhoeddus yn y papurau newyddion, ac yn awyddus i wneuthur y peth mor hysbys ag y byddo modd, nad oedd ganddynt hwy, fel eglwys, un llaw mewn ffurfio na chyflwyno y cyfryw Erfyniad, na gwybyddiaeth am dano. Hysbyswyd hyn hefyd mewn modd cyhoeddus allan o'r pwlpud yn eu haddoldy ar y Sabbath, Mehefin I sfed." Taith Pregethwr i Lundain Gant ag Ugain o Flynyddoedd yn ol. Yn y flwyddyn 1779 fe aeth pregethwr o Ogledd Cymru i Lundain. Mewn llythyr at gyfaill yn Stf Ddinbych rhydd hanes ei daith, yr hyn a welodd ac a glywodd yma-, ynghyda byr grybwylliad am y Cymry. Ni wyddis yn sicr pwy oedd y pregethwr hwn, ond bernir mai Robert Jones, Rhoslan, awdwr Lleftrydd yr Asyn a Drych yr Amseroedd," ydoedd efe. Dyma ychydig frawddegau o'r llythyr :— "Garedig Frawd,—Mrddyliais mai fy nyled- swydd oedd gwneuthur i eraill fel y dymunwn iddynt wneuthur i minnau. Tebygwn eich bod yn llawn awyddus bellach i newyddion, yn enwedig o ardal mor bell. Ni wn a fyddai yn werth amser chwi a'i peidio ddarllen fy hanes yn myned i'r ddinas fawr. Yn fy nghychwyniad o Gaerlleon fe'm cipiwyd i ben rhyw anferth gerbyd olwynog, a lliaws o feirch porthiantus yn ei lusgo yn chwidr, heb ymaros, tnvy wledydd a threfi, anialwch a choed) del, dinasoedd a phentrefi heb rif, heb gael aruser I graffu ar ddim yn y byd gan mor gyflym yr oedd y creaduriaid pedwar carnol yn fy arwain. Trwst a swn yr olwynion oedd ddychrynllyd, fel pe buasai Cader Idris a'r W)ddfa yn ymaflyd codwm. [Beth a ddywedai yr hen frawd am ager-gerbydau y dyddiau hyn ?] I bob ardal yr aem yr oedd y trigolion mor ami, yn enwedig yn. y trefi, a'r morgrug ar ddiwrnod teg o haf, ac mor hawdd eu deall yn siarad a'r baboons yn Affrica. Ni wn i am ddim a rvdd well dar- luniad o'm trafferthus daith na thaflu golwg ar y Bardd Cwsg yn ngwinedd y Tylwyth Teg. Ond pa fodd bynag, daethum o'r diwedd i'r dinas ddihenydd, bedlam fawr yr holl ddaear, cysgod o uffern ei hun. Am y rhan grefyddol o'r ddinas, mae golwg dlawd a salw ar y rhan fwyaf, os edrychir yn is na'r croen. Oddiallan y maent yn wych dros ben. Adeiladau eglwysig godidog, capeli mor harddwych braidd a llys y Grand Signior; pregethwyr mor hardded, prin y gwisg- wyd Solomon yn ei ogoniant fel un o'r rhai hyn. Nid ydym ni yng Nghymru ond fel dylluan y diffaethwch wrth y paun i'n cymharu iddynt. Llesg ddigon yw y Cymry ond y maent i gyd heb gwbl dynu eu llygaid, a cholli rhyw faint o chwant dyfod yn ol. Pessimist iawn oedd yr hen bregethwr hwn, pwy bynag ydoedd. Nid oes enw wrth y llythyr. Cofnodion am rai o'r Hen Grefyddwyr. JOHN JOEL, yr hwn oedd frodoro Geredigion. Bu yn flaenor o'r eglwys yn Jewin Crescent am rai blynyddoedd. Bu farw Hydref 30am, 1830. JOSIAH DAVJES.—Genedigol ydoedd y gwr hwn o Llanbrynmair. Ar ei briodas yno yn y flwyddyn 1815, daeth i Lundain, ac aeth i breswylio yn nhy Capel Wilderness Row; a phan. orphenwyd adeiladu Capel Jewin Crescent yn y flwyddyn 1822, symudodd yntau a'i briod yno i fyw, i "weinii gyfreidiau y saint," a'r gweini- dogion a lafurient yn eu plith. Dyn o gymeriad disglaer ydoedd, a defnyddiol gyda'r achos am 9 b 15 mlynedd Bu farw yn orfoleddus yn y flwyddyn 1830, a chladdwyd ef yn Bunhill Fields, City Road, y Parch. James Hughes yn gweini. Traddodwyd pregeth angladdol ar ei ol yn ei hen ardal, 1-lanbrynmair, gan y Parch. Samuel Roberts. Parhaodd ei weddw, Eleanor Davies, i gadw ty'r Capel hyd ddiwedd y flwyddyn 1833, pryd y bu hithau farw. Dynes nodedig am ei duwioldeb oedd hi. Gwelais lythyr Cym- raeg yn ddiweddar yn Sir Drefaldwyn, wedi ei ysgrifenu gan ddyn ieuanc—aelod o'r eglwys— at ei dad, yn rhoddi cymeradwyaeth uchel iddi hi am ei charedigrwydd, a'i gofal mawr am y bobl ieuanc perthynol i'r Capel. Amser a ballai i mi fynegi am John Jones, yr argraffydd Lewis Williams, y seryddwr; John Thomas, wedi hynny o dref Aberteifi Hugh. Hughes, yr artist (neu y limner, fel ei gelwid) Griffith Davies, yr accountant; Thomas Edwards (Caerfallwch), y geiriadurwr; ynghyd a lliaws o ser, mwy neu lai disglaer yn ffurfafen yr eglwys. yma. (I barhau).