Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

dau Golygyddol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CENEDL A PHLAID. YR ydym wedi cael ein hunain yn gofyn droion yn ddiweddar, Pa un ai pynciau cenedl neu bynciau plaid yw y pynciau sydd yn cyffroi Cymru heddyw ? Yn ol cwrs naturiol pethau daw yr etholiad cyffredinol cyn pen hir iawn, a chredwn ei bod yn bur bwysig i Gymru ddeall yn weddol glir pa safle a gymer yr adeg honno. Hyd yn hyn prin y gellir dweyd fod cenedlaeth- oldeb wedi cael nemawr o sylw ar adegau felly. Ymrestrai yr etholwyr o dan faner un o'r ddwy blaid yn Nhy y Cyffredin, a galwent eu hunain yn ddilynwyr i'r naill neu y llall o arweinwyr y pleidiau hynny. Buwydyn son droion am Blaid Gymreig Annibynol yn y Senedd, ond nid aeth y peth yn ddim pellach na son. Fel Rhyddfryd- wyr neu Undebwyr y dychwelwyd yr holl aelodau o Gymru, a disgwylid iddynt ufuddhau i alwadau eu plaid. Gwir fod pynciau yn dal perthynas a Chymru wedi eu trin a'u trafod, ond fel pynciau plaid yn fwy nag fel pynciau cenedl yr edrychid arnynt bron i gyd. Nid un blaid yn unig sydd wedi rhoddi i'n gwlad a'n cenedl y mesurau a'r sefydliadau a gawsom; o'u cydymgais hwy i ennill ffafr ac ychwanegu cefnogwyr, yr ydym ninnau wedi elwa cryn dipyn. Ond nid yw gwrando ar lais Cymru fel Cymru wedi ei wneyd hyd yma yn amod cefnogaeth ein cynrychiolwyr i unrhyw un o'r pleidiau. Gwnaed ymgais i osod amod felly i lawr ryw ddeuddeg mlynedd yn ol, ond ni bu yn Uwyddianus, ac er hynny nid oes fawr o son wedi bod am amod o'r fath. Sut y mae i fod yn y dyfodol ? A yw cynrychiolwyr Cymru i gael eu hethol i'r Senedd oblegid eu bod yn cydsynio a rhaglen Mr. Balfour neu a rhaglen Syr Henry Campbell-Bannerman, neu a ydynt i gael eu hanfon yno yn gyntaf ac yn benaf i ddadleu hawliau Cymru yn nglyn a'i phynciau arbenig hi ei hun, ac i gefnogi unrhyw arweinydd gwleid- yddol a ymgymer a deddfu ar y pynci iu hynny yn unol a dymuniad ac a llais y genedl ? Y Cymry eu hunain sydd i ateb y ( westlwn, a goreu po gyntaf iddynt wneyd eu meddyliau i fynu yn ei gylch. Ymddengys i ni y byddai yn fantais aruthrol pe codid pynciau Cymreig allan o awyr- gylch plaid yn gyfangwbl, a phe cymerai yr aelodau Cymreig safle annibynol. Ni olygwn iddynt fod yn ddifater ynghylch pynciau a berthynai i'r holl Deyrnas ac i'r Ymherodraeth. Dyna gamsyniad mwyafrif cynrychiolwyr y Werddon. Ond paham y rhaid i syniadau dyn ynghylch Masnach Rydd neu Wleidyddiaeth Dramor neu Hawliau Llafur benderfynu pa fodd y pleidleisia yn Nhy y Cyffredin ynglyn a mesurau yn ymdrin ac Addysg, neu yr Eglwys Sefydledig, neu gau y Tafarnau yng Nghymru ? Gallwn ddeall paham i ryw fesur yn achos yr Undebwyr sydd yn wrthwynebol i ddeddfwriaeth arbenig ar gyfer unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol, ond yn ein byw y medrwn ei ddeall yn achos y rhai a gredant y dylid cydnabod gwahaniaethau cenhedlaethol cyn y gellir deddfu yn uniawn a Uwyddianus. Y prif bwnc sydd yn cyffroi Cymru heddyw yw pwnc Addysg. Hwn yn ddiau fydd pwnc penaf yr etholiad yn y Dywysogaeth oni ddeuir i ryw gyd-ddealltwriaeth cyn hynny. Ai fel pwnc cenedl neu fel pwnc plaid yr ydys yn edrych arno ac yn bwriadu ei drin ? Yn ol ein barn ni, y mae plaid wedi bod yn rhy amlwg yh hanes pob trafodaeth arno hyd yma. Mae un dosbarth wedi edrych arno o safbwynt Caer- gaint; mae y dosbarth arall wedi edrych arno o safbwyni: y Memorial Hall. Onicl allai yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr yng Nghymru droi Caergaint a'r Memorial Hall o'r neilldu, a chytuno i'w ystyried o safbwynt Cymreig ? Ynglyn a hyn eto yr ydym yn awyddus i sicrhau sylw gwrthwynebwyr Deddf Addysg 1902. Gwrthwynebwyd y Ddeddf honno yn etholiadau y Cynghorau Sir nid o safbwynt Ymneillduol', ond o safbwynt cenedlaethol, a llwyddwyd drwy hynny i sicrhau cydweithrediad lliaws o Eglwyswyr a Cheidwadwyr. Dadganwyd yn glir yn y Gynadledd Genedlaethol yng Nghaerfyrddin mai p Jisi cenedlaethol, ac nid polisi Ymneillduol, ydoedd y pclisi a fabwysiadwyd. Ac yr oeddym yn cyd- fyned yn hollol ar dadganiad hwnnw. Ond rhaid i ni ddweyd, os mai ar linellau cenedl- aethol y bwriedir i'r pwnc gael ei benderfynu fod braidd ormod o amlygrwydd wedi ei roddi iddo yng nghynadledd yr Eglwysi Rhyddion yn Man- chester yr wythnos diweddaf. Nis gall y Saeson, pa un bynnag ai i Eglwysi Rhyddion neu Eglwysi Sefydledig y perthynant byth ddeall y teimlad Cymreig yn iawn, nag amgyffred ychwaith y dyheuadau sydd yn cymhell egnion ein cenedl. Nid yr un yw Ymneillduaeth yn Lloegr ag yng Nghymru. Mae'r mwyafrif o ymneillduwyr yng Nghymru yn ddigon mawr, sut bynag y rhifid, i alw'r genedl yn genedl ymneillduol, nid oes unrhyw gyfrif posibl yn cyfiawnhau galw'r Saeson yn genedl felly. A gallwn yn hawdd dybied cytundeb a fyddai ) n ddigon teg yn y naill achos yn eithafol o anheg yn yr achos arall. Yr ydym yn teimlo yn hollol yr un fath gyda golwg ar Ddadgysylltiad hefyd, eithr nid oes ofod i ymhelaethu ar hynny yn awr. Ond dymunwn gyflwyno i sylw arbenig Cymru yn yr argyfwng pwysig presenoi, oni fyddai o fantais iddi wneyd ei meddwl i fynu ar ba linellau y gellir penderfynu pwnc Addysg yn fwyaf man teisiol iddi hi heb ymholi gormod beth feddylia unrhyw adran o Saeson o'r llinellau hynny. Oblegid wedi'r cwbl y mae perthynas agosach cydrhwng Ymneillduwr ac Eglwyswr Cymreig a'u gilydd am eu bod ill dau o'r un genedl nag sydd rhwng y -mill na'r llall o honynt ag unrhyw blaid Seisnig, boed Eglwysig neu wleidyddol.

Notes of the Week.

Advertising