Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BATTERSEA TOWN HALL.-Edrychir yn mlaen am gyfarfod hwyliog yn y neuadd uchod nos Fercher nesaf. Bydd yr adran gerddorol ac adroddiadol, heb son am y cystadleuaethau eraill gymer Ie, yn ddyddorol. Mae'n wybyddus 1 ran fwyaf o Gymry Llundain fod yr eglwys leuanc hon wedi myned o dan faich trwm yn ddiweddar. Modd bynag, hyderir y ceir bagad o bobl i'r lie y noswaith yma. Yr ydys wedi sicrhau cadeirydd o'r iawn ryw—Mr. W. Davies, Y.H. Apeliwn at gyfoethogion y brifddinas i daflu hatling i'r Building Fund. Mewn undeb mae nerth. Mae'r cyfarfodydd a gynhaliwyd o dro i dro yn y lie yn y gorphenol wedi troi allan yn llwyddianus. Ac y mae yma wragedd a merched ieuainc nad oes eu bath am gwpanaid o de, a choffi hefyd. Dewch yn llu, a chewch eich talu yn dda am ddyfod. Bydd y cyfarfod yn cychwyn am chwech o'r gloch. Dywed yr ysgrifenyddion wrthym fod amryw o gantorion eisoes wedi anfon eu henwau i mewn, ac y mae y rhagolygon yn addawol am gystadleuaethau da ar yr oil o'r testynau.—B. E. D. CLAPHAM JUNCTION. — Yn ein nodyn yr wythnos ddiweddaf yr oeddem yn gobeithio y buasem yn clywed Mrs. R. G. Davies, Pont- ardulais, yn canu unwaith yn rhagor cyn ei dychweliad yn ol i Gymru. Daeth ein dymuniad ni i ben nos Sul, pryd y cawsom ddatganiad prydferth o'r hen emyn, "0, Iesu mawr, rho'th anian bur," ar yr hen don Genevieve," yr hon sydd mewn bri mawr yn Neheudir Cymru ar hyn o bryd. Gresyn yw nad ydym yn cael ychwaneg o unawdau yn ystod y gwasanaeth ar nos Suliau. Y mae yn yr eglwys nifer dda o chwiorydd gyda lleisiau ardderchog, a dylid rhoddi iddynt bob mantais fel ag y gallent ddod allan yn fwy amlwg yn y byd cerddorol. Nid ydym yn eu clywed ond yn rhy anaml. Gobeithio y bydd i'r swyddogion gymeryd awgrymiad fel hyn yn garedig.-L. THE LONDON KVMRIC LADIES' CHOIR.— This choir held a grand evening concert on the 6th inst. at the Kingsland Congregational Church, N.E. Although the weather was ex- tremely rough, a huge crowd assembled to hear the singing, which was of the usual high standard, and greatly appreciated. Almost every item was encored, while the choruses were received with deafening applause. The takings were added to the Building Fund.- BRYTHON.

CWMNI'R PRUDENTIAL.

I..Colofn y Gan.

LONDON WOMEN'S TEMPERANCE…

THE GREAT WHEAT CENTRE OF…

Advertising