Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Enwogion Cymreig.—XXV. Y Parch.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Enwogion Cymreig.—XXV. Y Parch. Josuah Pritchard Hughes, M.A. I ER y bu farw y diweddar Esgob Lewis o Landaf mawr ddyfalu sydd wedi bod pwy a benodid yn olynydd iddo. Enwyd nifer liosog o bersonau fel rhai teilwng i dderbyn yr anrhydedd, a mentrai y rhai a'u henwent brophwydo yn bur hyderus mai o'u plith hwy y gwneid y dewisiad. Yr oedd amryw o'r rhai a enwid yn dal swyddau uchel yn yr Eglwys yn barod, a diau y meddylid fod hynny yn rhoddi rhyw fath o hawl iddynt i ddyrchafiad mwy. Dywedir yn awr fod rhai o honynt wedi cael cynnyg yr anrhydedd, ac wedi ei wrthod am ryw resymau neu gilydd. Nis gwyddom a yw hynny yn ffaith neu beidio. Beth bynnag, nid neb a enwyd sydd wedi ei ethol i'r swydd. Syrthiodd y coelbren ar offeiriad plwyfol o fewn yr esgobaeth na thybiodd neb, hyd y gwyddom am dano, hyd nes y daeth yn hysbys mai efe a etholasid, ac y mae genym yr hyfrydwch o Toddi i'n darllenwyr yr wythnos hon ddarlun a braslun o'r Esgob etholedig-y Parch. Josuah Pritchard Hughes, Ficer Llantrisant. Cyn rhoddi unrhyw fanylion bywgraffyddol am yr Esgob newydd dymunwn ddadgan ein llawenydd am fod y Prif Weinidog wedi glynu wrth y drefn a sefydlwyd gan y diweddar Mr. Gladstone o bennodi Cymry i esgobaethau Cymreig. Cyn hynny Saeson, cwbl analluog i siarad ein hiaith ac i ddeall ein neillduolion a'n dyheuadau, a fu yn brif swyddogion yr Eglwys yng Nghymru am ganrifoedd. Ofnid gan rai, a gobeithid gan eraill, y buasai Mr. Balfour yn dychwelyd at yr hen drefn. A chwyna rhai hefyd yn awr am na wnaethai hynny, ac awgrymant fod gormod o bwys yn cael ei roddi ar wybod- aeth o'r iaith Gymraeg, a myntumiant nad yw 0 esgobaeth Llandaf yn Gymreig ond yn unig mewn enw, fod y mwyafrif mawr o'r bobl o fewn ei therfynau yn Saeson, neu o leiaf yn llawn mor hyddysg yn yr iaith Saesneg ag ydynt yn y Gymraeg. Unig ystyr y feirniadaeth hon ar y pennodiad ydyw fod yr hen ysbryd a fynnai sarnu ar iawnderau ein cenedl a'i chadw o dan draed estroniaid eto yn fyw. A llawenha. pob Cyrnro am fod y Prif Weinidog wedi dangos ysbryd amgenach. Yr ydym yn ddiolchgar iddo hefyd am appwyntio offeiriad plwyfol, un wedi cael mantais i ymgymysgu a'r bobl ac i ddeall sut yr edrychant hwy ar bethau. Credwn fod gormod o esgobion wedi eu pennodi i'r swydd ar gyfrif eu hysgolheigdod, neu ar gyfrif y medr a ddangosasarrt i gadw llywodraeth ar blant a llanclaumewnysgolion a cholegau. Y dyn sydd wedi bod yn offeiriad plwyfol ei hunan a ^yr yr anhawsderau y rhaid i weinidogion yr glwys yn gyffredinol eu gwynebu, ac efe a wyr beth yw y cymhwysderau angenrheidiol i wneyd gweinidog effeithiol a llwyddianus. Ac y mae hir brofiad yr Esgob etholedig o fewn esgobaeth Llandaf yn sicr o fod yn gynorthwy arbenig iddo i ddarparu ar gyfer angenion ysbrydol y boblog- aeth amrywiol a chynyddol. Mab ydyw y Parchedig-y Gwir Barchedig bellach—Josuah Pritchard Hughes i'r diweddar Esgob Josuah Hughes o Lanelwy, y Cymro cyntaf a godwyd i'r fainc esgobol gan Mr. Gladstone. Ganwyd ef yn nhref Llanym- ddyfri, lie yr oedd ei dad yn ficer, yn y flwyddyn 1847, a galwyd ef yn Josuah Pritchard ar ol ei dad ac ar ol "Hen Ficer" enwog y Llan. Derbyniodd ei addysg foreuol yn Ysgol Llan- jPhoto-. Durrant, ^Torquay, Parch. JOSUAH PRITCHARD HUGHES, M.A. ymddyfri, ac yn Ysgol y Mwythig, oedd y pryd hwnnw o dan ofal Dr. Kennedy. Yn yrysgolion hyn ennillodd y safleoedd uchaf a'r prif wobrwyon, a chyn diwedd ei dymhor yn y Mwythig cipiodd Ysgoloriaeth Powys oedd yn agored i holl Gymru. Dewisodd fyned gyda'i ysgoloriaeth i Goleg Baliol yn Rhydychain, a chymerodd radd y Brifysgol mewn anrhydedd yn y clasuron yn 1870. Y flwyddyn ddilynol cafodd Ei Ordeinio yn Ddiacon gan ei Dad, oedd erbyn hynny yn Esgob Llanelwy, ac aeth yn giwrad i Gastellnedd, o dan yr enwog Archddiacon Griffiths. Anhawdd dychmvgu am fantais a rhagorfraint uwch yn dod i ran clerigwr leuanc na chael dechreu ei fywyd o,weini gweinidogaethol o dan arolygiaeth y pregethwr efengylaidd a hyawdl, y gweithiwr difefl, a'r gwladgarwr twymgalon hwnnw, ac ni fu y Parch. Pritchard Hughes yn ol o wneyd y goreu o'i gyfleusdra. Mae amryw o brif ragoriaethau Rector Castellnedd yn amlwg ynddo yntau. Ymhen chwe' blynedd pennodwyd ef yn ficer Castellnewydd, gerllaw Penybont-ar-Ogwy, lie yr arosodd hyd 1884, pryd y dyrchafwyd ef i ficeriaeth bwysig Llantrisant. Bu yn gaplan i'w dad am rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth, ac wedi hynny llanwodd yr unrhyw swydd o dan y diweddar Esgob Lewis. Y mae wedi ennill enw iddo ei hun yn esgobaeth Llandaf fel gweithiwr, yn enwedig fel sefydlydd ac adeiladwr eglwysi newyddion. Dechreuodd wneyd hynny yng Nghastellnedd a Phenybont, ond ar ol myned i Lantrisant y cafodd y maes priodol i'w ynni a'i alluoedd. Yn ystod un-mlynedd-ar-hugain ei ficeriaeth mae wedi bod yn offerynol i adeiladu eglwysi plwyfol newyddion yn y Cymmer, Peny- graig, Trewilliam, Hafod, Dinas, Pontyclun, a Thonyrefail, heblaw amryw orsafoedd cenhadol. Ymgymerodd a'r Ilafur mawr oblegid fod poblog- aeth y plwyf yn cynnyddu mor gyflym, ac yntau yn awyddus am i Eglwys Loegr wneyd ei rhan mewn darparu ar gyfer angenion ysbrydol y bobl. Nid llai ymroddgar y bu drwy ei holl fywyd i Ddiwyllio a Dyrchafu Arferion a Moesau y werin-bobl y llafuria yn ei mysg. Ni cheidw ar wahan iddynt yn ol arfer rhai. Bu am flynyddau yn aelod o Fwrdd Ysgol Llantrisant, ac hefyd yn gadeirydd y Cyngor Plwy. Ni fedd Dirwest gefnogwr mwy egniol: efe yw Cadeirydd Cymdeithas Ddirwestol Esgobaeth Llandaf, a cheir yn Llantrisant Westy Dirwestol a Chlwb a sefydlwyd ganddo. 0 ran ei olygiadau eglwysig gwr cymedrol ydyw. Anhawdd gwybod pa un a'i i'r Blaid Efengylaidd neu i'r Blaid Lydan y perthyna agosaf. Nid yw wedi ymgyssylltu ag un- rhyw adran o'r Eglwys, ac ni fedd ddim cydymdeimlad a dynion eithafol ym mha adran bynnag y byddant. A'i farnu yn ol traddodiad ac yng ngoleuni ei hanes gor- phenol, y mae yn rhydd oddiwrth y rhag- farnau cryfion yn erbyn Ymneillduwyr ac Ymneillduaeth a ddengys rhai o esgobion y deyrnas. Hydera y daw yr anghytundeb ynghylch yr ysgolion i derfyn cyn bo hir, a siomir ni yn ddirfawr os na bydd i'w ddylanwad ef fyned yn ffafr dwyn yr anghydfod i ben ar linellau a fyddant yn uniawn a theg ynddynt eu hunain, ac yn gynorthwy i fywyd. Cymru ymddadblygu ac ymddiwyllio yng nghyfeiriad y cenedlaetholdeb puraf.