Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

PENNODAU YN HANES METHODISTIAETH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENNODAU YN HANES METHODISTIAETH YN LLUNDAIN. Gan y diweddar Mr. T. Hamer Jones. Dirwest. Ceir y nodiad canlynol am sefydliad Cym- deithas Ddirwestol Gymreig Llundain yn y Drysorfa, Gorphenaf, 1838 :— Sefydlwyd y Gymdeithas hon ar y iaf o Fai, 1837, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghapel Jewin Crescent, pan yr arwyddwyd yr ardystiad gan chwech o bersonau. Erbyn heddyw y mae nifer yr aelodau yn 286, am yr hyn yr ydym yn dymuno cydnabod daioni Duw. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol cyntaf y Gymdeithas yn y capel uchod ar y 24ain o Fai diweddaf. Trefn y cyfarfod ydoedd fel hyn Am bedwar o'r gloch cyfranogodd yngylch 150 o'n cyfeillion o de a ddarparwyd iddynt yn vestry y capel. Am hanner awr wedi chwech cymerwyd y gadair gan William Bulkeley Hughes, Ysw., Aelod o'r Senedd, Llywydd y Gymdeithas, yr hwn a anerchodd y cyfarfod yn selog mewn modd tra chymhwys i'r achlysur ac ar ei ol ef areithiodd John Hull, Ysw. y Parch. John Davies, Caer- fyrddin; Mr. Rickman, Reading; y Parch. James Sherman, Surrey Chapel; H. V. German, Ysw., meddyg, Bow; a Dr. Oxley. Yr oedd y cyfarfod yn lluosog, a'r areithwyr yn hyawdl; ac yn y diwedd arwyddodd dau-ar- bymtheg yr ardystiad. Ym mhlith yr aelodau y mae yn llawenydd mawr genym allu rhifo dau weinidog, y Parch. D. Davies, Annibynwr, a'r Parch. W. Williams, Trefniedydd Calfinaidd. Ydym, yr eiddoch, etc., liuGH ^Owen, } Ysgrifenyddion." Y Qenhadaeth Dramor (o'r Diysorfa, 1842). FFURFIAD CANGEN GYNORTHWYOL.—Nos lau, y 3ydd o Fawrth, 1842, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Jewin Crescent i ffurfio cangen gynorthwyol o Gymdeithas Genhadol y Trefnyddion Calfinaidd Cymreig. Dechreu- wyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. David Roberts, Abertawe, a dewiswyd y Parch. William Williams, Llundain, yn gadeirydd, yn absenoldeb y Parch. James Hughes (oherwydd gwaelder iechyd). i. Cynygiwyd gan Mr. R. Roberts, achefnog- wyd gan Mr. Lemuel Pierce, 'Ein bod yn llawenychu yn sefydliad unrhyw foddion a fyddo yn debyg o brysuro pregethiad yr Efengyl drwy yr holl fyd.' 2. Cynygiodd y Parch. D. Roberts, a chefnog- wyd gan Mr. J. Jehu, 'Gan fod y Trefnyddion Calfinaidd wedi sefydlu Cymdeithas Genhadol Dramor yn eu plith eu hunain, yr ydym ni o hyn allan yn penderfynu cydweitHredu a'r Gym- deithas honno; ac yn awr yn ffurfio ein hunain yn gangen gynorthwyol o honi.' 3. Cynygiodd Mr. W. Williams, a chefnogwyd gan Mr. E. Rowlands, Fod y personau a enwyd i fod yn swyddogion y Gymdeithas.' "4. Cynygiodd Mr. E. Williams (mab-yng- nghyfraith John Elias), a chefnogodd Mr. W. Lloyd, 'Wrth ystyried gymaint sydd etto o'r byd heb i oleuni mawr yr Efengyl gyrhaeddyd iddo, dylai pob Cristion fod yn ddiflino ym mhob ymdrech i anfon allan weision y Duw Goruchaf i fynegu i'w cyd-greaduriaid ffordd iachawdwriaeth.' Yr oedd yr areithiau yn fywiog, a'r annog- aethau yn wresog, i fod yn haelionus ac ym- drechgar o blaid y Gymdeithas newydd; ac yr -=

Advertising

ESGOB NEWYDD LLANDAF.

LLANRHY5TYD.

PENNODAU YN HANES METHODISTIAETH…