Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MR. EVAN ROBERTS YN LERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR. EVAN ROBERTS YN LERPWL. Yr Hyn a Ddywed Idriswyn am Dano. CYFARFOD LLIOSOG A BRWDFRYDIG. Fel y canlyn yr ysgrifena Idriswyn am fynediad y Diwygiwr o Gasllwchwr i Lerpwl:- Er yr holl fan-broffwydi sydd wedi bod wrthi yn ystod y mis diweddaf yn darogan drygfyd i Evan Roberts, y mae y Diwygiwr ieuanc nid yn unig a'i draed yn rhyddion, ond yn mynd a dod i ble bynag a fyno heb fod neb yn meiddio nac yn dychmygu ymyraeth mewn un modd. Y mae mor naturiol ag un amser; yn byw ac yn gweithredu fel ei arfer ond y mae'n amlwg yn cynyddu ac yn ymddadblygu i fod yn un o gymeriadau rhyfeddaf yr oes hon. Nid yw'n proffesu dim nac yn hawlio fod un rhagoriaeth ynddo; ni fyn glywed son am ddirgelwch; y cwbl a hona ydyw ei fod wedi rhoddi ei hunan i fyny yn gyfangwbl i Dduw a'i waith; bod yr Ysbryd Glan yn ei arwain; ei fod yntau yn ei ddilyn heb ofyn cwestiynau nac ymgynghori a chig a gwaed; ac mai gwobr am yr ufudd-dod hwn yw y cyfan a ystyrir gan lawer o bobl yn ddirgelwch yn ei gymeriad. "TALU DYLED CAPEL. Llawer o siarad ac ysgrifenu sydd wedi bod yn ystod y misoedd diweddaf yng nghylch yr arian a dderbynia Evan Roberts am ei wasan- aeth yn y gwahanol ardaloedd y bu ar ymweliad a hwy. Taerai rhai yn ddigon haerllug mai gwneyd arian oedd y prif amcan, a bod y Diwygiwr yn gwneyd ei ffortiwn yn gyflym, er ei bod yn ffaith hysbys i bawb nad oedd yr un casgliad yn cael ei wneyd yn un o'r cyfarfodydd ac nad oedd tal penodol yn cael ei godi yn unman, a bod yr eglwysi wrth gyfranu at y treuliau yn gwneyd hynny yn hollol wirfoddol. Nid oedd un angenrheidrwydd arnynt i roddi un gydnabyddiaeth iddo ond nid oedd eglwysi Cymru mor anniolchgar a chrintachlyd nad oedd yn dda ganddynt gyfranu at dreuliau teithio gwr Duw' trwy'r wlad. Nid oedd neb yn gwybod faint y symiau a roddid i Evan Roberts yn y gwahanol fanau yr ymwelodd a hwy y cwbl a wyddys ydyw nad ymddygwyd ato yn grintachlyd yn awr, fe'i derbyniwyd gyda breichiau agored gan holl eglwysi ein trefi a'n hardaloedd gweithfaol, a thalwyd yn lied an- rhydeddus at dreuliau y genhadaeth, yn ol pob tebyg, yn mhob man. O'r hyn lleiaf, ymddengys fod arian yng ngweddill ar ol talu'r holl dreuliau -eiddo ysgrifenydd, y Farch. Mardy Davies, y Diwygiwr ei hunan, a'r efengylesau oedd yn ei gynorthwyo-a bod Evan Roberts yn mynd i wneyd iawn ddefnydd o honynt. Brydnawn dydd Sul diweddaf, ar ol yr ysgol yng nghapel Pisgatb—canghen o Eglwys Moriah, Casllwchwr -aeth Dan Roberts a'i chwaer, Mary Roberts, yn mlaen at y set fawr a chyflwynasant, dros eu brawd, Evan Roberts, gan' punt yr un, mewn pedwar nodyn gwerth hanner can' punt i'r eglwys i glirio y ddyled a arhosai ar y capel; ac, wrth gwrs, yr oedd yno lawenydd mawr a

Advertising

CANIADAU'R DIWYGIAD.

A CAREER FOR YOUNG MEN.

MR. EVAN ROBERTS YN LERPWL.