Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Pobl a Phethau yn Nghymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pobl a Phethau yn Nghymru. MAE maes y Diwygiad wedi ei eangu i Lerpwl yr wythnos hon, ac mae Evan Roberts yn cael cyfarfodydd mawr iawn yno. YN ol adroddiad y Parch. Evan Phillips, Castell-newydd-Emlyn, yr oedd y bobl yn fwy cywrain am weled y Diwygiwr pan fu yn y dref honno yn ddiweddar, nag oeddent am brofi o nerthoedd yr Ysbryd Glan. AR ol pwrcasu ei docyn i Lerpwl y dydd o'r blaen, gadawodd Mr. Evan Roberts ei arian i gyd ar ol. Yr oedd yn digwydd bod ganddo 30s. yn ei logell ar ol codi'r tocyn, ond rhoddodd hwy i hen wreigen oedd ar yr orsaf, cyn myned i'w daith. YN ol honiad y Diwygiwr yng ngwrdd yr afradloniaid nos Sadwrn, y pregethwyr yw'r pechaduriaid penaf. Yr oedd rhai o'r rheiny, meddir, yn genfigenllyd wrtho, a bygythiodd enwi tri o'r rhai oeddynt yn bresenol yn y cwrdd oni phlygent i'r Ysbryd. BRWYDR Addysg Meirion fydd yn mynd a sylw y byd gwleidyddol yn ystod yr wythnosau nesaf yma, ac mae'n amlwg y bydd yn un o'r gornestau rhyfeddaf a gaed yng Nghymru ers talm. BVDD amryw o'r aelodau Seneddol ar ym- weliad a Chymru ar adeg y Pasg, a disgwylir ami i gyfarfod gwleidyddol yn yr etholaethau yr adeg honno. BWRIADA pobl Ceredigion a Chaerfyrddin godi Noddfa iechyd i bobl yn dioddef oddiwrth y darfodedigaeth, a gosodir y sylfeini dydd Mer- cher wedi'r Pasc. Yn ardal Llanybydder y codir y sefydliad, a disgwylir rhai o'r teulu brenhinol yno ar yr amgylchiad. GWEITHIA Aberystwyth yn egniol y dyddiau hyn dros ennill y cyhoedd o'i phlaid yn ei chais am y Llyfrfa Genedlaethol. Ond ni waeth i ba adeilad y rhydd y Llywodraeth yr arian, gyda phobl Aberystwyth yr erys y casgliad goreu o Lyfrau Cymreig wedi'r holl siarad. Os nad yw hynny yn ddigon i sicrhau cefnogaeth y Llywod- raeth, wel nis gwyddom beth a wna. Bu efrydesau Coleg Aberystwyth mewn peth perygl boreu dydd Mawrth diweddaf. Caed fod yr adeilad, yn yr hwn y llettyent, ar dan, ond darganfyddwyd ef yn ddigon cynar i'w galluogi i gael y goreu arno cyn i lawer o niwed gael ei wneyd. MAE arwyddion o'r gwanwyn i'w weled yng Nghymru y dyddiau hyn, ac yn rhai o gymoedd cynhesaf bro Morganwg y mae'r wenol eisoes wedi gwneyd ei hymddangosiad. Ni fydd yr hif yn hir mwyach. MAE'R hen fardd Meiriadog yn dal yn bur dda ei iechyd o hyd, er ei fod wedi cyrhaedd ei 95 mlwydd o'i oedran. Preswylia yn ardal Llanfair Caereinion, a gwelir ei ysgrifau yn awr ac eilwaith ar dudalenau Gwalia." Boed iddo gael blwyddi lawer eto i ymhyfrydu yn ngheinion awen y Cymry.

Advertising

BRWYDR Y LLEOLIAD.

Colofn y Gan.

Pobl a Phethau yn Nghymru.