Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. Y GWYLIAU.—Gyda dyfodiad y Pasc mae'r cyfarfodydd Cymreig yn dirwyn i ben. Yr wythnos nesaf gwelir fod dau neu dri o gynull- iadau pwysig i gymeryd lie cyn yr ymwahanu i bellafoedd y wlad. CYMANFA'R PASG.—Mae parotoadau mawr gogyfer a'r cyfarfodydd eleni yn Llundain, a disgwylir i'r Gymanfa fod yn adlewyrchiad o'r hyn a welir yn Nghymru yn y dyddiau presenol. Y LLYFRFA GENEDLAETHOL.-Mae gornest galed cydrhwng Aberystwyth a Chaerdydd am leoliad y sefydliad hwn, a hysbysir y bydd nifer o gyfarfodydd ymysg Cymry'r ddinas i ymdrin a'r mater yn ystod y dyddiau nesaf yma. EVAN ROBERTS. Gan fod Mr. Evan Roberts wedi mynd am dro i Lerpwl, disgwylir gan rai y gellir ei ddenu i Lundain cyn adeg gwyliau'r haf. Hyderwn, er hyny, y rhoddir tipyn o seibiant iddo yn awr, ac yna ei wahodd erbyn yr Hydref nesaf. BUDD GYNGHERDD.- Y mae genym i gyd- nabod gyda diolchgarwch y symiau a ganlyn tuag at gronfa cyngherdd er budd gweddw y diweddar Mr. R. Griffith :—Mr. T. H. W. Idris, L.C.C., 10s. 6c. Mr. Robert Williams, F.R.I.B.A., 10S.; Mr. Pritchard Jones, 2IS.; Mr. R. O. Davies, Y.H., 2IS.; Mr. N. J. Evans, 20s. Mr. Rowland Rees, IOS. Da genym ddeall fod rhagolygon addawol iawn am gyngherdd llwyddianus. Gellir cael tocynau ond anfon at Mr. E. H. Owen, o'r swyddfa hon, neu at Mr. W. Jones, 68, Whitecross-street, E.C. ENw¡'R SEFYDLIADAU.—Beth yw'r Gymraeg am museum a library ? Mewn cyfarfod y nos o'r blaen, yr oedd y gwahanol siaradwyr yn son am "greirfa," "cywreinfa," "ar- ddangosfa," "llyfrfa," "llyfrgell," "llenfa," "darllenfa." Dyna ddigon o enwau ar y sefydliadau beth bynag, ond beth dal siarad, nid yw'r enwau yn haner digon o'u cyfrif a'r trefi sydd yn ymgeisio am danynt. COR Y KYMRIC.—Un o atdyniadau y cyfarfod a gaed yn y City Temple ynglyn a'r Diwygiad yn Nghymru oedd presenoldeb Cor Merched y Kymric, yr hwn a roddodd ddetholiad addas dros ben o emynau y Diwygiad. Ychydig amser yn ol arweiniai y cor mewn cwrdd gwleidyddol yn y Queen's Hall, ac wele hwy etc mewn cwrdd crefyddol yn gwneyd gwasan- aeth da. Rhyfedd y dylanwad sydd gan ferched cerddgar-yn enwedig os yn Gymreig- esau. YR ENGLYN.—Dim ond pedair llinell yw yr > englyn, ond rhyfedd mor bwysig ydynt. Mae'r I Prifathro John Rhys, o Rydychen, newydcl gyhoeddi hanes tarddiad yr englyn, a gwna ei draethawd gyfrol drwchus o yn agos i ddau cant o dudalenau. Cyhoeddir y cyfan yn y Cymmrodor," o dan nawdd Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, ac mae'n eglur y ceir ami i feirniadaeth ar ffeithiau a damcan- iaethau y prifathro gan wyr a honnant eu bod yn awdurdodau ar englynion o bob math. BLIN genym orfod cofnodi marwolaeth Mr. Alfred Williams, 74, Farringdon Road, yr hyn gymerodd le yn St. Bartholomew's Hospital yr wythnos ddiweddaf ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, o'r pneumonia. Nid oedd ond 39 mlwydd oed, a brodor o ardal Caergybi. Gadawodd wraig a thri o rai bach i alaru eu colled. Yr oedd yn aelod parchus o eglwys Jewin, ac yn hoffus iawn gan bawb a'i hadwaenai. ( DymuNWN longyfarch Mr. John Richards, Redburn Street, Chelsea, ar ei etholiad diwrth- wynebiad yn un o warcheidwaid y fwrdeisdref honno. Mae Mr. Richards yn Gymro aiddgar, yn un o ddiaconiaid Eglwys Gymraeg Radnor Street, ac yn Werinwr a Radical o argyhoeddiad. Ni chaiff y tlodion unrhyw gam oddiar ei law ef. DRWG genym gofnodi marwolaeth merch fechan, ond 5 mlwydd oed, Mr. a Mrs. Davies, Mayfield Road, Dalston, yr hyn gymerodd le ddydd Llun, y 27ain cynfisol. Y mae y rhieni yn aelodau parchus o'r eglwys yn Bridge Street, Bow, ac y mae cydymdeimlad llwyraf yr eglwys a llu o gydnabod a hwy yn eu profedigaeth chwerw. Claddwyd hi y dydd Gwener dilynol yn Manor Park, y Parchn. J. Crowle Ellis a H. Watkins, B.A., yn gwasanaethu. EISTEDDFOD EGLWVS ST. PADARN.—Cynhal- iwyd yr eisteddfod hon yn Myddelton Hall, Islington, nos Iau wythnos i'r diweddaf, a bu yno gystadlu rhagorol. Y llywydd oedd y Parch. Morris Roberts, Poplar, a beirniaid y canu oedd Mr. Vincent Davies, Dewi Sant, a'r adroddiadau, Mr. Tom Jenkins. Gwobrwywyd y rhai canlynol :—Pianoforte solo, Miss Jennie Jones, Jewin; soprano solo, Miss Annie Thomas, Morley Hall; tenor solo, Mr. John Pugh, King's Cross baritone solo, Llew Caron deuawd, Llew Caron a J. Pugh, King's Cross; adroddiad, Mr. W. D. George, Jewin traethawd, Mr. Jones, Clapham Junction parti meibion, Welsh Meister Glee Singers, arweinydd Mr. Sydney Jones (Ap Caeralaw). Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau," Mr. Maldwyn Evans yn arwain.—CYMRO. WOOLWICH.-Nos Lun, Ebrill 3, cafwyd y fraint o glywed Eynon Davies yn y Capel Cymraeg uchod yn traddodi ei ddarlith beni- gamp ar "The Possibilities under a Shabby Coat." Yr oedd hyawdledd y siaradwr galluog fel arfer yn dylifo yn rhwydd tros y wefus mor naturiol a'r ffrwd risialaidd o got y mynydd, ac yr oedd y ddarlith nid yn unig yn llawn dyddordeb, ond yn un o'r rhai mwyaf adeiladol a glywsom ganddo erioed. Sicr yr erys ar gof pawb oedd yn bresenol. Buwyd yn ffortunus iawn i gael cadeirydd campus ym mherson Mr. B. J. Rees, Carthusian Street. SHIRLAND ROAD.—Cynhaliwyd y chweched eisteddfod flynyddol o dan nawdd Ysgol Sabbothol Shirland Road a'r canghenau nos Iau, Mawrth 30am. Yr oedd nifer luosog o gystadleuwyr, a'r gerddoriaeth a'r adroddiadau o radd uchel a chanmoladwy, a chafodd yr ym- geiswyr am y gwobrwyau ar y traethodau, &c., ganmoliaeth uchel gan y beirniaid. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. Howell J. Williams, L.C.C., yr hwn sydd gefnogwr aiddgar i'r eisteddfod, ac yn ei anerchiad gwnaeth sylw fod y genedl Gymreig mewn mwy o ddyled i'r sefydliad hwn nac un sefydliad arall, ac eithrio yr Ysgol Sul. Arweiniwyd y cyfarfod gan Mr. R. H. Davies, un o flaenoriaid yr eglwys, yn ol ei arfer, mewn modd deheuig a boddhaol i'r gynulleidfa. Y beirniaid oeddynt:- Traethodau, Parch. J- Wilson Roberts y farddoniaeth a'r adroddiadau, Parch. F. Knoyle, B.A. cyfieithiadau a'r llaw- ysgrifau, Mr. O. T. Williams; arholiadau ysgrifenedig a'r crynodeb,' Parch. J. Tudno Williams, M.A.; arholiadau ar lafar, ysgrifen- iadau, a'r llythyr, Mr. H. P. Rees tea cloth a'r prize bag, Mrs. Dr. Williams drawings, Miss M. Williams; y gerddoriaeth, Pedr Alaw, Mus. Bac. Cyfeiliwyd gan Miss Myfanwy Jones, L.R.A.M.

[No title]

Y DYFODOL

Advertising

Notes of the Week.