Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0, Parch. J. Crowle Ellis. v 6.30, Lewis Hughes, M.A. Eglwys Dewi Sant, Paddington— 11. o a 6.30, Parch. W. Richards. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road- 11,0 a 6 30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- 11.0 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- 11.0, Parch. Howell Watkins, B.A. 6.30, J. Crowle Ellis. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Parch. J. E. Davies, M.A. 6.30, R. O. Williams. Charing Cross Rd. 10.45, Parch. J. T. Edwards, Merthyr. 6.30, John Thickens, Aber- aeron. Wilton Square 10.30, Parch. G. H. Havard, M.A. tT 6.30, Falmouth Road 10.45, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, J. T. Williams, M.A. Mile End Road 11.0, Parch. D. Oliver. 6.30, Mr. D. Phillips, M.A., St. Andrews. Shirland Road, 10.45 a 6.30, Parch. Teifi Davies, Trefecca. Holloway 10.30, Parch. R. O. Williams. 6.30, J. E. Davies, M.A. Hammersmith 11.0, Parch. F. Knoyle, B.A. 6.30, LI. Edwards, M.A. Stratford 11.0, Parch. J. Wilson Roberts. 6.30, Supply Wood Green. Clapham Jmiciion 11.0, Mr. D. Phillips, M.A., St. Andrews. 6.30, Parch. D. Oliver. Walham Green. 11.0, Parch. J. Tudno Williams, M.A. 6.30, S. E. Prytherch. Willesden Green 11.0, Parch. John Thickens, Aber- aeron. 6.30, „ J. T. Edwards, Merthyr. Lewisham 11.0, 6.30, Parch. G. H. Havard, M.A. Tottenham, i i. o a 6.30, Parch. J. Garnon Owen. Walthamstow 11.0, Parch. LI. Edwards, M.A. 6.30, F. Knoyle, B.A. Wood Green 11.0, 6.30, Parch. J. Wilson Roberts. YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross- 11.° a 6.3°, Parch. H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0, Parch. J. Machreth Rees. I 6.30, D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea- 11.0, Parch. E. Owen, B.A. 6.30, J. M. Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0, Parch. D. C. Jones. 6.30, E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove— 11.0 a 6.30, Mr. Caradog Jones. Woolwich, Parson's Hill- 11.0 a 6.30, Parch. Llewelyn Bowyer. Battersea Town Hall— l LOa 6.30, Parch. J. M. Prytherch, Llanarth. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- n.o a 6.30, Parch. E. W. Davies, Ton. Little Alie Street, Aldgate— n.o a 6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham-—11.o a 6.30, Parch. W. Rees. ■Gorman Hall, 252, Harrow Road— 3, Y sgol S111. Y WESLEYALD. City Road— 11.0, Mr. J. Ii. Edwards. 6.30, Mr. PI. Watkin. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.—N 11.0, Parch. T. Jones. n 6.30, Mr. J. Griffith. "oplar, Duff Street— T 3.0 a 6.30, Parch. T. Jones. -L'ymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon §ael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan bellaf
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
HENRY BOWN, HiGH-CLASS PHOTOGRAPHER, 43, NEW KENT ROAD (close to Falmouth Road); 298, CLAPHAM RD.; 31 & 33, JAMAICA RD. (Docfchead). Under personal supervision of the Proprietor. Cabinets from 7/6 per dozen. C.D.V.'s from 2/6 per dozen. Well recommended by Welshmen who have patronised me SPECIAL ATTENTION GIVEN TO COPYING AND ENLARGING.
Lien a Chan.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Lien a Chan. William Ryle Davies. Gan y Parch. R. Humphreys, Liverpool. Dyma gyfrol fechan er coffadwriaeth am wr da a defnyddiol, gwr a fu yn gymeriad pur amlwg mewn cylchoedd crefyddol Cymreig yn Llundain am lawer blwyddyn, a gwr y teimla y rhai a ddaethant i gysylltiadau agos ag ef lawer o hiraeth am dano. A.r un olwg gorchwyl hawdd oedd ysgrifenu cofiant i Mr. Ryle Davies, oblegid yr oedd ynddo neillduolion na cheid yn odid neb arall. Ond ar olwg arall gorchwyl anhawdd ydoedd, gan fod perygl i'r awdwr roddi gormod o le i neillduolion nes i'r hanes fod yn fwy o wawdlun nag o fywgraffiad. Llon- gyfarchwn y Parch. Richard Humphreys yn wresog ar ei lwyddiant yn vsgrifenu llyfr sydd yn bortread pur ffyddlon a chyflawn o Mr. Ryle Davies. Teimlwn mai efe ei hun sydd ger ein bron, yn ei nerth a'i wendid, ei ragoriaethau a'i ddiffygion. Olrheinir ei hanes o'i enedigaeth ym Mhen yr Inclen, rhwng Clwtybont a Dinor- wig, drwy y chwarel, yr ysgolion a'r colegau, a thrwy amrywiol feusydd ei weinidogaeth hyd nes y cymerwyd ef adref at ei wobr yn 1901, yn ddwyarbymtheg-a-deugain mlwydd oed. Gwr penderfynol a didroi-yn-ol ydoedd Ryle. Gwyddem hynny o'r blaen, ond y mae yr argraff honno wedi ei dyfnhau wrth ddarllen y cofiant. Bu raid iddo frwydro ag anhawsderau, nid oedd ei iechyd yn rhy gryf ar y goreu, beth bynnag er's llawer o flynyddoedd, cyfarfyddodd a rhai ystormydd geirwon a phrofedigaethau llymion. Gwelodd amryw o'i blant a'i briod yn cael eu cymeryd ymaith oddigerbron ei lygaid. Ond drwy y cwbl daliodd ei ffydd yn ddisigl, a chyflawnodd ei waith gyda dewrder ac ym- roddiad hyd y diwedd. Yr oedd Mr. Davies wedi meddwl i gofiant iddo gael ei ysgrifenu. Parotoisai ar gyfer hynny drwy gadw cofnodion gweddol fanwl a chyflawn o brif ddigwyddiadau ei fywyd, a thrwy gadw dydd-lyfr yn bur gyson am amryw flynyddoedd. Ac y mae y cofnodion hyn yn rhyfedd o ddydd- orol, a buont o help dirfawr i'w gofiantydd dynnu portread o honno. Yn wir, yn y rhannau hyn y ceir golwg gywir arno, ac wrth ddarllen ami gofnod, a llawer adolygiad ar hanes blwyddyn cawn ein hunain yn ymson gyda Ryle Davies. Cymerer engraifft neu ddwy :— Heddyw gwelais y tri pheth canlynol o fewn ychydig funudau i'w gilydd-gwraig yn wylo wrth gael ei hannog i ddyfod i'r Eglwys bachgen ieuanc yn agoshau tua'r glyn a theulu yn gofyn am symud y cyfarfod eglwysig er mwyn cyfleusdra masnachol. Achlysurodd y pethau hyn ystyriaethau ynof pur wahanol, fel y gallesid disgwyl. Caed engraifft heddyw o dueddiad boreu plant i bechu-plentyn wedi lladratta dau wy; ei holi, ei gael yn euog, ei rybuddio, a hysbysu ei rieni p'i ddrygioni." Y mae y cofnodion o'r dyddiau pan oedd Mrs. Davies yn y glyn yn galonrwygol o brudd- aidd, ac eto yn dangos ymostyngiad llawn i ewyllys y Goruchaf. Anhawdd, amhosibl yn wir, eu darllen gyda llygaid sych. Mae y llyfr drwyddo o duedd ddyrchafol, a gwna les i galon yn ogystal ag i ben y neb a'i darlleno. Mantais fawr yw dod i gyffyrddiad a chymeriad mor bendant, mor unplyg, mor hawdd ei amgyffred a'r eiddo y diweddar Mr. Ryle Davies Harmsworth Encyclopaedia. London: The Amalgamated Press, Limited, and Thomas Nelson and Sons. Parts 1 3. The three parts of this new Encyclopaedia are now before us, and we will say at once that we are highly pleased with them. Certainly one might have thought that the numerous books of this character already in the field made the appearance of another a superfluity. And had it been of the same kind as the others that would have been the case undoubtedly. But it is not. It is a compact, concise, up-to-date book of reference for the busy man of limited means, who cannot afford to buy one of the larger encyclopaedias and who, even if he could afford to buy, could not afford the time to read long and minute articles. Here the ordinary man will find all the required information on all subjects, especially those subjects that pertain to present-day life. The get-up of the work is in every respect quite worthy of the eminent firm that issue it. The maps and illustrations are a great addition to the value of the encyclopaedia, and, as far as we have been able to test both maps and letterpress, we have found no fault to point out Five hundred contributors were employed in the preparation of the work, all of them experts in their different branches.
Gohebiaethau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gohebiaethau. [Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol ohebwyr.] JEWIN EISTEDDFOD. At Olygydd y "LONDON WELSHMAN." ANWYL SYR,—Goddefwch i mi le yn eich papyr i ddatgan fy marn o berthynas i lythyr ymddangosodd ynddo yr wythnos ddiweddaf o eiddo "Eisteddfodwr," parthed i gyfarfod cystadleuol gynhaliwyd yn Jewin yn ddiweddar. Deallaf mai cyfarfod mewn cysylltiad ag Ysgol Sul Morley Hall oedd hwnnw. Mi hoffem yn fawr i holl ddarllenwyr CYMRO LLUNDAIN i gadw mewn cof pwy oedd yn beirniadu y rhan gerddorol yn y cyfarfod a nodwyd-dau frawd sydd yn bur adnabyddus i holl Gymry Llundain, sef Mr. J. Sackville Evans a Mr. R. O. Jones, Wilton Square. Dianghenriaid ydyw dweyd yr un gair am y naill na'r Hall o honynl-" Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt." Gwyr pawb a'u hadnabyddant eu bod yn ddau ddyn ieuanc egwyddorol a straightforward, a'u bod wedi gwneyd, ac yn parhau i wneyd, daioni mawr mewn llawer cylch. Wrth eu clywed yn rhoddi eu beirniadaethau mor ddeheuig ac mor glir ag eglur, yr oeddwn yn barod iawn i longyfarch y cyfeillion yn Morley Hall ar eu llwyddiant o gael gwas- anaeth dau frawd o'r safle yma. Yr wyf yn deall mai at y parti Pluen Wen o Eira Glan y mae "Eistedd- fodwr yn cyfeirio, ac nad ydyw wedi cael ei foddloni a'r feirnadaeth, oherwydd inconsistency. Feallai ei fod wedi meddwl gormod am gario cyn dod, ac felly yr oedd pobpeth oedd yn groes i'r peth dymunol hynny yn suito ei archwaeth, ac felly yn rhy anhawdd ei ddigesto. Dau barti oedd yn y gystadleuaeth, sef parti o Eglwys St. Mary's, Camberwell, a parti Morley Hall. Rhaid cyfaddef fod y parti cyntaf wedi canu yn dda, ond yn ol y feirniadaeth yr oeddynt yn canu'n llawer iawn yn rhy gyflym, ac felly yn niweidio yr effaith, ac hefyd yr oedd y donyddiaeth yn amhur mewn un neu ddau o fanau ond yr oedd amseriad yr ail barti yn un ag ydoedd y beirniaid am gael, ac yn un a fuasent yn gymeryd pe yn arwain parti ar y darn eu hunain, ac hefyd yr oedd yn eglur fod y lleisiau yn llawer mwy cyfoethog yn y parti hwn. ac yn cydsymud yn well. Nid wyf yn gwybod lie cafodd y syniad am out of tune am yr ail barti: fe grybwyllwyd hynny am y parti cyntaf yn unig. Gall Eisteddfodwr fod yn berffaith hapus fod cyfiawnder wedi ei wneyd y tro hwn, a bod y cyfan yn consistent. Gobeithio y bydd iddo foddloni ar yr uchod, ac na wnaiff dori ei galon a pheidio cystadlu mwyach feallai mai y tro nesaf y daw allan yn fwy na choncwerwr. Yr eiddoch yn bur, CYSTADLEUWR. Y DIWYGIAD A'l DDYLANWAD. At Olygyddy LONDON WELSHMAN." ANWYL SYR,—Caniatewch i mi ychydig o'ch gofod mewn atebiad i lythyr "J." yn y LONDON WELSHMAN, Mawrth 18fed. Yr oedd "J." yn dweyd yn ei lythyr fod y Cymry yn myned i eithafion gyda chrefydd. Ond hyn sydd yn ryfedd, chwi ellwch fynd i eithafion gyda phob peth arall, ac fod pob peth yn iawn ac heb fod allan o'i Ie, megis y bel droed, &c. Ond gwae chwi os ewch dipyn yn frwdfrydig gyda chrefydd-y mae rhyw- beth allan o'i le yn union. Hefyd dywed "J." yn erbyn troi heibio cyngherddau a phethau cyffelyb, y cyfarfodydd hynny sydd a'u tuedd i lesoli y rhai sydd yn eu mynyclm. ■ Tra yr ydwyf yn addef hynny, pa faint mwy y cyfarfod gweddi ? Nid wyf yn credu y buasai yn ysgrifenu yn yr ysbryd yna be buasai ychydig o gariad yn ei galon tuagat yr Arglwydd Iesu Grist. A fy ngweddi yw, ar iddo gael ychydig o'r cariad hwnnw— y cariad sydd yn ffynonell pob cariad arall. 6, Barrett Street, W. DANIEL JONES. ANSWERS TO CORRESPONDENTS. ECONOMY.—We do not know of any boarding-houses in Brighton or Hastings that we can recommend to you. Buy the local newspaper. No doubt there are many advertised. EASTER.—If you write either to Paddington (Great Western Railway) or Euston (the London and North Western Railway) you can obtain information about the Easter excursions to Wales. We have not seen any announced. PUBLICITY.—Your letter is in the nature of an advertisement, so must refer you to our Advertisement Department. J. G. E.—No newsagent surely has refused t" obtain a copy of THE LONDON WELSHMAN to order. Give him your order for three months, and he will obtain a copy for you each week. Perhaps you ordered a copy only for one week.