Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

PREQETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Advertising

Colofn y Gan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Colofn y Gan. Y PRIF gyngherdd yn ystod yr wythnos nesaf fydd yr un a gynhelir yn yr Holborn Town Hall nos Fawrth. Hyderwn yr aiff llu o'n cydwlad- wyr yno i gefnogi'r achos sydd mewn golwg gyda'r cyfeillion sy'n trefnu'r cyngherdd ac yn annibynol ar deilyngdod y symudiad fel un yn haeddu ein cefnogaeth mwyaf calonog, y mae rhaglen ardderchog o gerddoriaeth wedi ei pharotoi. UN newydd-deb ynglyn a'r cyngherdd hwn fydd "string band"o dan arweiniad Miss Jennie Jones, A.R.C.M. (merch Mr. D. R. Jones, Old Kent Road). Nid yw Miss Jones ond merch ieuanc iawn, ond y mae wedi gwneyd cynycld mawr yn y gelfyddyd gerddorol, ac yr ydym yn ei llongyfarch ar ei llwyddiant, gan ei hannog i fyned ymlaen gyda'r gelfyddyd. Nid ydym hyd yn hyn wedi cael y cyfleusdra i glywed y string band hwn, ond yr ydym yn llawenychu oher- wydd ei fodolaeth am ei fod yn torri tir newydd, oblegid yr ydym fel cenedl wedi mawr esgeuluso yr adran offerynol. PETH arall dyddorol yn y cyngherdd fydd cor merched Mrs. Frances Rees-Rowlands, ac fel y deallwn y maent yn canu gystal ag erioed. Ym mysg pethau eraill cenir ganddynt Llwyn Onn," ac fe wyr pawb nad oes neb all ganu yr hen alaw hon yn well na Chor y Kymric. Bydd yno gor meibion hefyd, ac unawdwyr o fri yn ogystal a Mrs. Tudor Rhys fel adroddes. I'R rhai hyny o'n cydwladwyr ag sydd yn byw yn ardal Holloway dyddorol feallai fydd ganddynt ddeall y bydd cyngherdd yn cael ei gynhal yn y Stanley Hall, Junction Road, heno (nos Sadwrn), yn mha un y cymerir rhan gan rai o'n cydwladwyr. CAED cyfarfod cystadleuol llwyddianus iawn yn Sibley Grove, East Ham, nos Tau yr wythnos ddiweddaf, ac yn ol tystiolaeth gohebydd lleol, yr oedd y cystadleuaethau unawdol o safon uchel. Amlygwyd talentau addawol iawn drwy y cyfarfod hwn a dyna lie y mae y cyrddau cystadleuol yma yn profi yn fanteisiol i ni. Er cymaint sydd wedi ei ddweyd yn erbyn y cyfar- fodydd cystadleuol hyn y mae peth daioni yn deilliaw drwyddynt wedi'r cwbl. CYNGHERDD da gafwyd yn Nghapel Little Alie Street, yr un noson, sef nos Tau. Cawsom fwynhad mawr wrth wrando ar y ddeuawd gan Mri. Ben Ivor a David Evans, ac yr oedd y ddau hyn yn bur dda hefyd gyda'r unawdau. Un o berlau y cyngherdd yn ddiau ydoedd Lo hear the gentle lark," gan Madame Eleanor Jones-Hudson, gyda "flute obligato" gan Mr. Eli Hudson. Miss Alice Maude Lewis hefyd oedd yn dda gyda "Chan y Weddw"; ac yr oedd Mrs. Tudor Rhys yn ei hwyliau arferol gyda'i hadroddiadau, a Miss Deborah Rees yn ddeheuig wrth y berdoneg. PRIF gyngherdd y tymhor, heb os nac onibai, fydd yr un a gynhelir yn y Queen's Hall ar y 29am o Fai, gan Gor Meibion a Chor Cymysg Cymry Llundain, dan arweiniad Mr. Merlin Morgan. Y mae bron bawb o'n cyd-ddinasydd- ion yn gwybod am allu y cor meibion hwn ac am yr enwogrwydd y maent wedi ennill yn ddi- weddar mewn cystadleuaethau mawr a thrwy hynny ennill anrhydedd nid bychan i ni Gymry Llundain, fel nad oes angen am ganmoliaeth arnynt ond yn unig nodi y bydd y cor yn y Queen's Hall yn hollol fel ag yr oedd yn yr Albert Hall yn ddiweddar. Heblaw y ddau gor enwog hyn, bydd y cantorion poblogaidd canlynol yn gwasanaethu :-Miss Maggie Davies, Miss Muriel Foster, Mr. William Green, Mr. D. Ffrangcon Davies a Mr. Hans Wessley. Gydag enwau fel hyn nid oes dim ar ffordd llwyddiant hollol i'r cyngherdd. Gellir cael tocynau oddiwrth aelodau y ddau gor, neu oddiwrth yr ysgrifenydd, Mr. E. T. Williams, 272, Gray's Inn Road, W.C.

Y DYFODOL

DARLITH AR GERDDORIAETH GYMRAEG.

Advertising