Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

PREQETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Advertising

Colofn y Gan.

Y DYFODOL

DARLITH AR GERDDORIAETH GYMRAEG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DARLITH AR GERDDORIAETH GYMRAEG. Nos Iau diweddaf, yn East Ham Town Hall, rhoddodd Mr. Lloyd Edwards ddarlith ar y testyn dyddorol hwn. Cynorthwyid ef gan Miss Thomas, Miss Maggie Evans, Miss Maggie Ellis, Mr. J. D. Evans, a Mr. Dan Evans. Da genym allu dweyd ddarfod i'r darlithydd a'r cantorion wneyd eu rhan yn bur ganmoladwy, ac y oedd y Saeson a'r Cymry yn mwynhau y canu yn fawr. Canwyd a chwareuwyd tua 29 o ddarnau, fel y gwelir y cafwyd nifer dda o engreifftiau o alawon ein gwlad. Yr oedd y rhaglen gerddorol mor faith fel y bu'r ddar- lithydd yn ddoeth i gwneyd sylwadau meithion ar y darnau. Fel arfer, rhoddai bwys ar ber- ffeithrwydd boreu yr alawon Cymreig, ond, fel y gwyddir, nid oes brawf digonol i'w gael fod cymaint ag un o'r alawon henaf mor hen ag y dywedir yn gyffredin. Ond wedi'r cyfan, nid yw hyn o bwys; y meddiant o'r gemau cer- ddorol hyn sydd bwysig ac sydd hefyd yn beth i ymfalchio ynddo. Cadeiriwyd gan Mr. Alderman Savage yn ystod rhan o'r cyfarfod, a dilynwyd ef gan Mr. J. O. Jones, "y Bane," Manor Park. Y mae pob ymgais i godi'r Hen Wlad yn beth i'w edmygu, a mawr lwydd a ddilyno ymdrechion tebyg i'r eiddo Mr. Lloyd Edwards, yr hwn, er yn llafurio gyda cher- ddoriaeth ym mhlith y Saeson, na thybiodd hi yn iselhad i gyflwyno detholiad o'r alawon Cymreig i'n cymydogion, a'r hwn hefyd sydd yn cadw'r hen iaith yn loyw o hyd.—EXEL.

Advertising