Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

Nodiadau Golygyddol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau Golygyddol. EVAN ROBERTS YN LERPWL. Mae'n ddiau fod meddyliau darllenwyr CYMRO LLUNDAIN wedi bod yn crwydro i Lerpwl yn fynych y dyddiau diweddaf hyn. Ac nid rhyfedd hynny. Y mae un o'r cymeriadau rhyfeddaf, ar lawer ystyr, ar ymweliad a'n dinas. Hyderwn y bydd i'n cydgenedl yn Llundain gael y mwynhad o'i weled a'i glywed yn fuan. Mae ei weled yn llawn mor bwysig fel amod ffurfio barn am dano ag yw ei glywed. Nid llais, nid tafod, yn unig ydyw. Rhaid ei weled a chael cyfle i sylwi ar ei wynebpryd, neu wylio ei wen swynol cyn gallu deall cyfaredd y dyn. Yn fuan daw i ni yr argyhoeddiad mai nid cynnwys ei anerchiadau, ac nid ei areithyddiaeth sydd yn cyfrif am ei ddylanwad cyfareddol ar dyrfa o bobl. Ar yr un pryd, rhaid i mi ychwanegu fy mod wedi cael fy mawr foddloni gan don ac ysbryd rhai o'i anerchiadau. Yr oeddynt yn iach, yn onest, yn ddidderbyn- wyneb, ac yn rhydd oddiwrth y sentimentality afiach sydd yn andwyo i mi waith rhai efengyl- yddion" poblogaidd. Baich ei genawdwri, ys dywed ein brodyr Wesleyaidd, yw ufudd-dod i'r Iesu, llwyr ymgyssegriad i'w wasanaeth, derbyn yr Ysbryd Glan, a chymeryd ein llywodraethu ganddo. Nid yw ochr ymarferol ddyngarol a moesol y bywyd crefyddol yn cael ei hanwybyddu ganddo. Ond prin y dyry gymaint o arbenigrwydd ar hyn ag a rodda ar ochr ddefosiynol crefydd. Y mae hyn yn gyfystyr a dweyd fod mwy o'r mystic ynddo nag o'r prophwyd. Ond y mae y naill a'r llall ynddo, er nad yn ogymaint feallai. Ond nid fy ngwaith yw beirniadu, ond desgrifio. Cuddiad ei gryfder a dirgelwch ei ddylanwad yw ei bersonoliaeth. Y mae hwnnw bob amser yn golygu rhywbeth unique-rhywbeth nas gellir ei ddainodi o herwydd y nodwedd a enwyd. Mae'n amlwg fod Mr. Evan Roberts yn byw mewn cymundeb agos iawn a Duw, ac fod Iesu yn rhyw reality anarferol iddo. Ymddengys i mi ei fod yn fwy sensitive i ddylanwad gweithgar yr Ysbryd Glan ynddo na nemor i Gristion yn ein hoes ni. Ymdorra ei lawenydd yn don o foddhad neu yn wen angylaidd dros ei wyneb- pryd. Ond pan y cenfydd arwyddion o anufudd-dod ar ran pechaduriaid, neu ddiffyg ffydd ar ran Cristionogion, neu ddiffyg cyd- ymdeimlad a'i genhadaeth ar ran gweinidogion, y mae ei holl gorph yn rbyw ymnyddu gan ing, a'i boenau yn dirdynu ei holl gyfansoddiad. Yn hyn oil y mae yn ddiau, i raddau helaeth, ar ei ben ei hun o ran divysUr ei deimladau. Adgofir ni yn barhaus o'r Gweddnewidiad ar y Mynydd, neu 0 Ardd Gethsemane, gan mor eithafol yw adweithiad ei ysbryd yn wyneb ei lawenydd neu ei dristwch. Dyma i mi sydd yn cyfansoddi ulÚqueness ei bersonoliaeth ac yn cyfrif am ei gyfaredd swynhudol un funud, a'i ing dychrynedig a brawychus y funud nesaf. Yr wyf wedi bod mewn pedwar o'i gyfarfodydcl yn Lerpwl. Yr oeddynt yn gwahaniaethu llawer oddiwrth eu gilydd. Mewn un yr oedd yn y dymher hapusaf— gwen foddhaus yn chwareu yn barhaus ar ei wyneb, a'i eiriau yn gymhleth o ddoethineb a phertrwydd. Prin y mae ei ddwyster yn caniatau humour, ond y mae ei atebion ffraethbert yn awgrymu fod yna humour yn nwfn ei natur pe bai'n cael caniatad i ymddangos. Bu rhai o'r cyfarfodydd yn frawychus os nid trychinebus eu nodwedd. Nid af i geisio eu beirniadu. Nid wyf am ei amddiffyn yn yr oil a wna, ac ni fynnwn y byd am ei gondemnio. Yn sicr nid yw Evan Roberts i gael ei farnu wrth y safonau ydym yn gymhwyso at bersonau cyffredin. Rhaid cael pwysau newyddion a thafol newydd cyn y gellir gwneyd hyn. Mewn geiriau eraill, rhaid i ni aros yn amyneddgar a sylwi ar ddylanwad ac effeithiau ymarferol ei genhadaeth cyn traddodi barn derfynol ar ei gynlluniau a'i ddulliau. Weithiau yr ydym yn ei gael mor salze ag\ yw o swynol ac mor gymhesur ag yw o ddwys. Brydiau eraill yr ydym yn ofni i'w deimladau o eiddigedd sanctaidd yn erbyn drwg i'w arwain i ysbryd dialedd cospawl. Ar adegau ofnwn i Moses a Sinai guddio Crist a Chalfaria o'n golwg. Mae'n amlwg ei fod yn gredwr diderfyn yn nylanwad cariad Duw yn Iesu Grist. Ac nid yw ei fygythion cospawl am anufudd-dod yn wyneb cariad mor fawr yn ddim ond gwedd arall ar ei anwyldeb at Iesu a'i Ysbryd. Fodd bynnag. yr ydym yn credu nad yw Evan Roberts yn cael Amen y bobl pan yn esgyn i ben Ebal i felldithio. Hwyrach mai diffyg casineb digonol at bechod ynom ni ac nid bai yn y Diwygiwr sydd yn cyfrif am hyn. Yr wyf yn cyfeirio ato fel mater o ffaith heb geisio penderfynu pwy sydd agosaf i ysbryd yr Iesu. Ond, o ran hynny, y mae Glanhau y Demi yn hanes Iesu yn ogystal a Gethsemane a Chalfaria Yn sicr y mae y ddwy arwedd yma yng nghymeriad Evan Roberts. Y mae yr elfen brophwydol neu raghysbysol ynddo yn ddyryswch mawr i'w edmygwyr ac i'w feirniaid. Y mae'n sicr ei fod yn medru deongli cymeriadau mewn modd rhyfedd iawn. Ei fod yn gallu rhagweled digwyddiadau yn ogystal sydd fater y dadleuir llawer yn ei gylch. Nid anturiwn draddodi barn ar fater sydd wedi ac yn cyflwyno anhawsder nad yw meddylegwyr ac ysbryd- egwyr hyd yn hyn yn gallu ei ddadrys. "Na fernwch ddim cyn yr amser" yw y cynghor goreu mewn amgylchiadau o'r fath. D. ADAMS.

Notes of the Week.