Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. DA genym ddeall fod Mr. W. Jones, A.S., wedi addaw cymeryd y gadair yn mudd-gyngherdd Mrs. R. Griffith, nos Fawrth nesaf, ac fod Mr. Lloyd-George yn bwriadu bod yno i'w gefnogi. BETH YW'R Acnes ?—Beth ydyw yr achos fod y Cymmrodorion mor ddistaw yn y blynydd- oedd hyn, ac yn enwedig felly yn ystod y tymhor sydd ar ddarfod ? Y mae'r darlithoedd a geir yn ei chyfarfodydd mor addysgiadol ac mor dda fel mai trueni yw eu bod mor ychydig o ran nifer. Ai gormod gofyn am ddwsin o gyfarfyddiadau bob tymhor rhag llaw? CYMDEITHASAU DIWAITH.-Y mae genym eisoes ddigon o fan gymdeithasau heb lawer o fywyd ynglyn a hwy heb eisieu ychwanegu y Cymmrodorion at y rhes. Dyna Gymdeithas yr Undebwyr Cymreig. Ychydig o waith a wna rhagor na chyfarfod yn awr ac eilwaith i ganmol eu gilydd. Eto, dacw'r Cymry Fyddion wedi troi i fod yn gymdeithas i ddiwallu'r anghenog yn unig, oherwydd un giniaw fawr yw holl ymdrech yr urdd. Nid yw Undeb y Cymdeith- asau ychwaith wedi bod mor fywiog ag arfer, nac hyd yn oed y Brythonwyr cystal ag y disgwylid. Mae'n rhaid cael diwygiad yn wir. Y LLYFRGELL.—Brwydr fawr y Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa sydd yn mynd a sylw rhai o Gymry'r ddinas y dyddiau hyn, ac mae'n eglur fod cryn frwdfrydedd yn mysg gwyr Ceredigion a Meirion, heb son am siroedd eraill, am sicrhau yr adeilad cenedlaethol hwn yn Aberystwyth. Deallwn fod eisoes lawer iawn o addewidion wedi dod i law, ac y ceir cynorthwy tra chalonogol gan Gymry'r ddinas at gronfa Aberystwyth. CYFARFOD YN JEWIN.—Yn fuan ar ol cael anerchiad Mr. J. H. Davies, M.A., o flaen y Brythonwyr, penderfynwyd i gynhal cyfres o gyfarfodydd mewn rhanau eraill o'r ddinas, a nos Wener yr wythnos ddiweddaf caed y cyn- ulliad cyntaf yn neuadd Capel Jewin, a chwrdd rhagorol ydoedd hefyd. Cadeiriwyd gan Mr. Herbert Lewis, A.S., a siaradwyd gan Syr John Williams, Mr. J. H. Davies, ac eraill, a phen- derfynwyd yn unfarn i gefnogi cais tref y brif- ysgol gyntaf o flaen yr awdurdodau pan ddel y mater ym mlaen. CYNORTHWY.—Er na ddaeth ond rhyw ddeu- cant a hanner ynghyd, yr oedd amryw yn barod y nos honno i gefnogi eu pleidlais gydag addewidion arianol ar raddfa haelfrydig dros ben. Yn y cwrdd hwn caed yn agos i ddau cant o bunnau, ac os ceir gan bawb i gyfranu fel yna ni ddylid bod yn hir cyn codi Llyfrgell Aberystwyth-Llywodraeth a'i chynorthwy neu beidio. ———— CRONFA R. GRIFFITH."—Yn ychwanegol at y symiau a gydnabyddwyd genym yr wythnos ddiweddaf, y mae genym i ddiolch ein care- digion eto yr wythnos hon am y symiau can- lynol tuag at gronfa i gynorthwyo gweddw a phlant y diweddar Robert Griffith :-Mr. Samuel Smith, A.S., 20s y Parch. G. Hartwell Jones, 5s. PRIODAS.—Dydd Iau diweddaf priodwyd Miss Lydia M. Pierce, merch ieuengaf Mr. Thomas Pierce, un o flaenoriaid parchus eglwys y Tabernacl Cymreig, a Mr. Lacon E. Allin, yn Eglwys St. George, Hart Street, Bloomsbury. Gan fod rhieni y ferch ieuanc yn adnabyddus i gylch eang o Gymry'r ddinas, daeth torf luosog ynghyd i ddymuno yn dda i'r ddeuddyn hapu ar yr uniad. Ar ol rhoddi croesawiad i'r gwahoddedigion yn yr Abbotsford Hotel, aethant i Wlad yr Haf i dreulio eu mis mel. DATHLIAD A CHROESAWIAD. — Nos Iau diweddaf bu cwrdd arbenig yn ystafell y Tabernacl i ddathlu penblwydd gweinidogaeth Elfed yn y lie, ac i roddi croesaw cymdeithasol i'r organydd newydd, Mr. Richards. Ar yr un adeg manteisiwyd ar y cyfle i gyflwyno anrheg hardd i Miss Marion Mathias am ei gwasanaeth ffyddlo'n am ddwy flynedd yn chwareu yr organ yn y capel hyd nes y penodwyd Mr. Richards. CLAPHAM JUNCTION.—Oherwydd prinder gofod nis gallwn ond roddi crynhoad byr o'r cyngherdd blynycldol a gymerodd le mewn cysylltiad a'r eglwys yn y lie uchod nos Fercher diweddaf. Nid oes dim angen dweyd ddarfod i'r cantorion foddio pawb, a'u bod oil mewn hwyliau da. Prif atdyniad y cyngherdd oedd cystadleuaeth ar yr adroddiad "Arwerthiant y Caethwas," a chafwyd cystadleuaeth campus. Cadeirwydyn ddeheuig gan Mr. T. H. Holloway, Cedar's Road.—L. BARRETT'S GROVE. — Y mae'r brodyr a'r chwiorydd yn yr eglwys hon yn gweithio yn egniol iawn i gael gwared o'r ddyled.sydd ar yr addoldy. Nid gorchwyl hawdd yw casglu ^1,000, ar ol talu eisoes dros Z4,000, ond y maent yn bur obeithiol y cant glirio'r cyfan erbyn Mai, a dod i fyny ag amodau Mr. Williams, Allen Road-sydd yn cynnyg £300 ar yr amod fod y cyfan yn cael ei dalu. Y mae Cyfarfod y Jubilee "wedi ei drefnu i fod nos Iau, Mai lIeg. Nid yw'r trefniadau yn gyflawn eto, ond disgwylir cyfarfod lliosog a brwdfrydig o dan lywyddiaeth Mr. Josiah Thomas, Lerpwl, cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig, pryd y bydd nifer o enwogion o bell ac agos yn annerch y cyfarfod. Ceir rhagor o fanylion etc. YN ystod y chwe' mis diweddaf y mae y Parch. Arberth Evans, gweinidog Capel Moor- fields, wedi talu ymweliad a'r Hen Wlad ddwy waith. Y tro cyntaf bu yn y De, pryd y clywodd Evan Roberts, y Diwygiwr. Newydd ddych- welyd y mae y tro hwn o'r Gogledd, lie y bu yng nghymde;thas Mrs. Jones, Egryn. Yn ystod ei arhosiad yn y Gogledd bu yn llygad- dyst o'r goleuni hwnnw sydd wedi syfrdanu y wlad y misoedd diweddaf. Dyddorol iawn oedd ei glywed nos Sul yn rhoddi braslun o'r hyn a welodd ac a glywodd. Y mae Mr. Evans yn llafurio yn galed ym mysg Bedyddwyr Dwyreinbarth Llundain. MOORFIELDS, LITTLE ALIE STREET.—Cyn haliwyd cyngherdd mewn cysylltiad a'r achos yn y lie nos Iau, Ebrill y 6ed. Cymerwyd rhan ynddo gan rai o brif gantorion Cymreig Llundain—Madame Jones Hudson, Miss Alice Maude Lewis, Mr. Ben Ivor, Mr. David Evans;

Advertising

Notes of the Week.