Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y Diwygiad.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Diwygiad. CYFARFODYDD RHYFEDD YN LERPWL. Yn Lerpwl y llafuria y Diwygiwr Evan Roberts y dyddiau hyn, ac y mae y cyfarfodydd a gynhelir yno y rhai rhyfeddaf fu erioed yn nghylchoedd Cymreig y ddinas mewn mwy nag un ystyr. Dyma fel y desgrifia gohebydd un o honynt Cyfarfod Nos Wener. Cyfarfod i bobl ieuainc oedd hwn yn y Sun Hall, bernid fod tua chwe mil yn bresenol, llawer o honynt yn oedranus. Daeth Arglwydd Faer y ddinas yno, yr hwn a roisai wledd i'r Diwygiwr yn gynarach yn y dydd. Dechreuodd y cyfarfod cyn i Evan Roberts gyrhaedd, ac yr oedd y dyrfa fawr yn canu pan y daeth i mewn. Pan ddechreuodd siarad yr oedd yn amlwg fod yr hen elyn yn ei flino, -anufudd-dod y gynulleidfa. Ofn sydd yn teyrnasu yma," meddai; pe byddai yma fwy o dan byddai mwy o ryddid a mwy o ogoniant." Yna aeth ym mlaen yn ei ddull arferol i siarad ar y pwysigrwydd o ufudd-dod a gwasanaeth, hyd nes torodd amryw allan i ganu a gweddio, ac eisteddodd yntau i lawr a'i ben cydrhwng ei ddwylaw. Cyn pen hir cyfododd drachefn, ac ychwanegodd fod ugeiniau eto yn anufuddhau. Yr oedd yno ganoedd, meddai, yn rhwystro yr Ysbryd. Rhwystrodd y canu, gan dywedyd fod yno yn gyntaf waith chwilio. Ar 01 gweddi gan y Parch. Griffith Ellis, Bootle, cymerodd digwyddiad rhyfedd Ie. Yr oedd Evan Roberts ar ei draed, a dywedodd yn Saesneg, mewn llais uchel, There is an English friend in this meeting trying to hypnotize me." Yna trodd i Gymraeg, a dywedodd wrth y gynulleidfa am ofyn i'r Arglwydd faddeu iddo neu ei daro oddiar wyneb y ddaear. "Maddeu, maddeu, 0 Dduw llefai ugeiniau yn uchel, ac ychwanegodd Mr. Roberts fod chwareu hefo pethau mor gysegredig yn beth ofnadwy. "Dyfod yma i addoli yr ydym," meddai, ac aeth y lie yn ferw o weddiau. I cannot ask God to save him," meddai y Diwygiwr, yn codi ei ben drachefn, can you ? I can ask God to bend him or strike him off the earth." Ym mhellach, ar ol distawrwydd mawr, gofynodd i'r person hwn, pwy bynnag oedd, ofyn am faddeuant yn fuan neu fyned allan. This person is not a member," meddai, ac ychwan- egodd ei fod wedi gweled pobl yn cyfodi yn erbyn Duw o'r blaen. Aeth y gwaith ym mlaen yn ddigyffro am ysbaid ym mhellach,-y gweddiau a'r canu yn dilyn'eu gilydd mewn hwyl dda. Adeg bleserus i'r rhan fwyaf ydyw adeg profi y cyfarfod beth bynnag na all dyn ei wneyd yn gyhoeddus, gall gyfodi ei law a chwilio am eraill sydd heb wneyd, a cheisio eu perswadio. Gofynwyd am yr arwydd drachefn a thrachefn, ac yr oedd rhywun o'r newydd yn dyfod bob tro. Yr Achwynwr. Ond yn awr torodd yr ystorm. Cyfododd Evan Roberts braidd yn gynhyrfus, a dywedodd fod rhywun wedi grwgnach-neu achwyn—am ei fod wedi gorfod rhoddi arwydd. Nid oedd neb yn ateb. Unwaith eto dywedodd Mr. Roberts' fod y peth wedi digwydd, a chan gerdded yn ol a blaen hyd y llwyfan galwodd ar yr euog i gyfodi yn ei le a chyffesu, "onide," meddai bydd yn ystorom ofnadwy yn ei enaid. Nid yn ami y mae Duw yn gofyn peth fel hyn, ond yn awr mae yn rhaid i hwn gyfodi a chyffesu." Na," meddai wrth ryw ferch oedd yn amcanu gweddio, dim gweddio yn awr. Nid yw Duw yn caniatau gweddio yn awr. Cyffeswch yn fuan, os gwelwch yn dda." Nid oedd neb yn ateb, a bu distawrwydd mawr a gorlethol am yspaid deng mynud. Yna, er syndod i bawb, a braw i lawer, dywedodd Evan Roberts mai nid Sais oedd y grwgnachwr ond Cymro; nid blaenor ac nid pregethwr, ond gweinidog, a'i fod ar y llwyfan yr amser honno. Yr oedd wedi dywedyd cynts pan awgrymodd rhywun nad oedd pawb yn deall, Mae yr hwn wyf fi yn ei feddwl yn deall yn eithaf da. Mae ystorom yn ei enaid yn awr. Na ryfedded pe bai ei law wedi gwywo cyn iddo fyned allan o'r cyfarfod heno, a bydded hynny yn arwydd arno byth." Yr oedd teimladau pawb erbyn hyn yn lied gyffrous a chymysglyd, ac yr oedd distawrwydd i'w deimlo yn nghorph y gynulleidfa. Torwyd ar y distawrwydd gan rywun yn gofyn a oedd y grwgnachwr wedi dywedyd wrth rhywun arall. Do," meddai Mr. Roberts. Cyffeswch yn fuan, neu bydd raid i mi ymadael." Cyfododd y Parch. H. R. Roberts, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a gofynodd i Mr. Roberts roddi yr enw, oherwydd yr oedd yno ymosodiad ar yr holl weinidogion. Os yw eich cydwybod chwi yn dawel," oedd yr ateb, "pabam yr ydych yn poeni ?" Yna cyfododd y Parch. O. L. Roberts, gweinidog capel Annibynol y Tabernacl, a dywedodd ei Tod yn weinidog yn y ddinas ers wyth mlynedd, a'i fod yn cydymdeimlo yn hollol a'r hyn ddywedwyd gan ei gyfaill. Eisteddwch i lawr," meddai Evan Roberts. Na," atebai y gweinidog, mae genyf hawl i fyned yn mlaen O frawd. frawd meddai y Diwygiwr a gadawodd y llwyfan yn frysiog, a chanlynwyd ef gan ei chwaer a Miss Annie Davies. Y Diwedd. Cyn torri y cyfarfod i fyny rhoddodd Mr. John Williams anogaeth i'r dyrfa ymdawelu. Peth difrifol," meddai, oedd holi Mr. Evan Roberts." "Nid yw ond dyn, Mr. Williams," meddai rhywun; ond aeth Mr. Williams yn mlaen. Nid oedd yn honni fod gan Mr. Roberts alluoedd goruwch-naturiol, ond yr oedd yn ffaith ryfedd fod yr hyn ddywedwyd ganddo yn mhob man wedi troi allan yn wirionedd. Mewn distawrwydd dwfn dywedwyd Gweddi yr Arglwydd, a thorrwyd y cyfarfod i fyny a'r unig beth wyf yn deimlo yn glir am dano ydyw mai siomedig oedd fel cyfarfod i bobl ieuainc. Nid wyf yn dewis dweyd dim yn mhellach hyd yn nod pe gallwn. Yr ydym yn sefyll gerbron dirgelwch. s

Y DIWYGIWR MEWN ENBYDRWYDD.

Am Gymry Llundain.