Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Mr. Merlin Morgan, Conductor of the London Welsh Male Choir. Conductor of the London Welsh Musical Society. Organist and Choirmaster of Charing Cross Welsh Chapel. Challen Gold Medallist of the R.C.M. Professor of Pianoforte, Organ and Singing at the L.C.M. Lessons given in Pianoforte playing, Organ playing, Accompanying and Singing. Exceptional opportunities for Organ practice given to Organ pupils Engagements accepted as Solo Pianist, Accompanist, and for Organ Recitals. Also as Adjudicator for Eisteddfodau. For terms and vacant dates, apply to- 6, Colville Mansions, Bayswater, W. Teaching Rooms- 136, Shaftesbury Avenue, W.
Pobl a Phethau yn Nghymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pobl a Phethau yn Nghymru. HYSBYSIR am nofel newydd eto o waith yr awdures Gymreig, Allen Raine. Mae ei gweilhiau blaenorol yn parhau i gael gwerthiant mawr yn y byd Seisnig. A VDYW dyddiau'r rheilffyrdd ysgafn wedi eu rhifo ? Y mae llawer o siarad y dyddiau hyn am sefydlu nifer o deithiau ar draws Cymru yn ystod yr haf drwy gymorth y car modur. 0 dipyn i beth daw yr hen brif-ffyrdd mor fywiog ag yn nyddiau y "coacll mawr." CREDIR mai'r Cymro yw'r goreu am gadw ei achau, ac nid yn ami y digwydd i ystad 0 Gymru gael ei chipio gan y Llywodraeth o ddiffyg etifedd. Yr wythnos ddiweddaf hysbysir fod ciddo y diweddar Dr. Lloyd Williams, o Ffestiniog, heb yr un etifedd i'w hawlio, ac felly cymer y Llywod- raeth feddiant o'r cyfan. Gadawodd ar ei 01 dros fil o bunnau. MEIRIADOG yw'r bardd hynaf sydd yn fyw yn awr, a ganwyd ef yn y Queen's Head, Llanrwst, ar y 24ain o Ebrill, 1813. Bydd felly yn 92 mlwydd oed ddiwedd y mis hwn. Yr oedd Meiriadog yn ysgrifenydd cyson i Seren Gomer yn gynar yn y ganrif o'r blaen, ac y mae erS dros driugain mlynedd wedi bod yn cymeryd rhan flaenllaw ynglyn a'r Eisteddfod. Argraffydd yw wrth ei alwedigaeth, ac y mae wedi ysgrifenu llawer yn ei ddydd ar bynciau llenyddol Cymreig. CYHOEDDIR argraffiad arbenig o weithiau b b Henry Vaughan, y Siluriad, wedi ei dethol gan Mr. W. A. Lewis, Llydaw, un o'r dyddiau nesaf yng ngyfres y Mri. Blackie a adwaenir wrth y Red Letter Library."
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Square ac yn y Tabernacl, King's Cross. Yn y lie olaf siaradwyd gan Mr. J. H. Davies, M.A., y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., a'r Parch. H. Elvet Lewis. Ac ar ol yr areithiau hyn nis gellid gwrthwynebu hawliau y dref honno. CYNORTHWY LI.EOL.—Ar gynygiad Mr. J. T. Lewis, y cyfreithiwr, a Mr. T. J. Evans pender- fynWyd mai tref Aberystwyth ddylai gael cefnogaeth Cymry Llundain yn y mudiad presenol, a chariwyd hyny gyda brwdfrydedd hefyd. Hysbysodd Mr. J. H. Davies fod symiau rhagorol wedi eu haddaw eisoes, ac fod saith cant o bunau wedi eu casglu yn y cyfar- fodydd hyn. Disgwylir cyn diwedd Mai i sicrhau dros ddwy fil o bunau yn Llundain yn unig. DIRWEsT.-Caed cyfarfod tra brwdfrydig o blaid yr achos dirwestol yn Nghapel Castle Street nos Lun diweddaf, a chan fod nifer o'r aelodau Seneddol yno daeth torf barchus ynghyd i wrando arnynt. Ar y cyfan, gwanaidd iawn yw'r achos dirwestol ymysg Cymry'r ddinas, ond hyderwn y daw gwell agwedd ar y mudiad fel ffrwyth y don ddiwygiadol bresenol. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mrs. Green, a'r prif siaradwyr oeddent Mr. W. Jones, A.S., a Mr. Lief Jones, A.S. Y DIWYGIAD.—Gan fod angen am seibiant ar Mr. Evan Roberts, ni ofynir iddo ddod i Lundain cyn y Sulgwyn. Er hyny, y mae yn mryd rhai o'n harweinwyr crefyddol i roddi gwahoddiad taer iddo ymweled a'r ddinas mor fuan ag y caniata ei ymrwymiadau a sefyllfa ei iechyd. Ar yr un pryd, credwn mai doeth fai gohirio y cyfan hyd yr Hydref nesaf, gan fod y bywyd Cymreig mor ansefydlog yn Llundain yn misoedd yr haf. YR AELODAU.—Ar y cyfan, y mae'r aelodau Seneddol wedi bod yn bur ffyddlon i'w dyled- swyddau yn ystod y tymor sydd ar orphen. Cafodd Mr. Lloyd-George lawer o galedwaith yn ystod yr wythnosau diweddaf yma ynglyn ag achos Meirion, a disgwylir y bydd yn abl i godi dadl bwysig ar y mater mor fuan ag y cyferfydd y Ty a? ol gwyliau'r Pasg. Nid yw iechyd rhai o'r hynafgwyr mor dda ag y gellid dymuno, ac mae hyny wedi cyfrif am absenoldeb amryw o honynt. EILUN-ADDOLIAETH.-Mae ysgrif alluog gan ein cyd-drefwr Elphin yn y rhifyn presenol o'r Geninen ar eilun-dduwiau'r Cymry, a darllena yn draethiad lied finiog hefyd ar ein gwendidau. Cofus genym i Elphin draddodi sylwedd yr ysgrif o flaen Cymdeithas y Cymry Fyddion beth amser yn ol, ond gan fod aelodau y Gym- deithas honno wedi llwyr anghofio'r gwersi a roddodd iddynt, bydd yn ddyddorol iddynt ddeall fod y genadwri i'w gweled bellach ar dudalenau arosol ein cyhoeddiad cenedlaethol. ELPHIN A'R CYMMRODORION.—Rywfodd neu gilydd mae gan y beirniad Elphin y ddawn o droi pobpeth bron i'r Gymraeg, a llwyddodd yr wythnos ddiweddaf i droi'r Cymmrodorion yn Gymry am unwaith. Yr oedd Mr. William Jones, A.S., yn Gymroaidd iawn yn y gadair hefyd, a llwyddwyd i brofi, rhwng y ddau, fod gwreiddyn y mater cenedlaethol ac ieithgarol yn aros yn yr hen Gymdeithas o hyd. 0 dipyn i beth mae Y Finsent yn llwyddo i wella'r
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cymmrodorion, a daw ymhen tipyn yn un o binaclau ein bywyd Cymreig wedi'r cyfan yn y ddinas yma. BARDD COLLEDIG.—Mae blynyddau bellach oddiar yr aeth Gwilym Eryri ar goll o Borth- madog. Efe oedd y bardd cadeiriol yn Nghaer- narfon yn 1877. Diflanodd o'i gartref yn 1896, ac nid oes gair o'i hanes wedi ei gael byth oddiar hynny. William Roberts oedd ei enw bedydd, a brawd iddo yw Mr. Roberts, sydd yn geidwad Capel Jewin Newydd. Y DON SEISNIG.-Nid y cantorion yn unig sydd yn awr yn rhedeg i eithafion ar ol y Sais yn ei beth all mwyaf cyffredin. Ceir yr un gwendid yn amryw o'n cymdeithasau yn ogystal ag yn y pulpud Cymreig. 0 dipyn i beth fe leddir y naws Cymreig yn hollol yn ein mysg, ac yna ffarwel am wir genedlaetholdeb. Y CYMMRODORION.—Bu raid i'r Gymdeithas hon roddi ei Seisnigrwydd o'r neilldu am dro nos Iau diweddaf, oherwydd bu'r bardd Elphin yn anerch yr aelodau ac fe wyddis am draeth- iadau criticyddol y bargyfreithiwr poblogaidd o lan y Fenai. Byddai meddwl am dano ef yn troi yn Sais yn ddigon i dynu gwg holl alluoedd yr uchelderau. PEN BLWYDD.—Dydd Sul cyn y diweddaf bu'r Parch. H. Elvet Lewis a'r gynulleidfa yn y Tabernacl yn dathlu pen blwydd y flwyddyn gyntaf o'u cysylltiad fel bugail a phraidd. Nid oedd llawer yn gwybod am yr amgylchiad, gan na roed ond ychydig o gyhoeddusrwydd i'r wyl, a'r canlyniad oedd i'r cynulliadau fod yn dra theneu drwy y dydd. ORGANYDD NEWYDD.—Yn mherson Mr. D. Richards, organydd newydd y Tabernacl, caed talent newydd i blith Cymry Llundain ddydd Sul diweddaf. Dechreuodd ar ei waith y Sul hwn, a rhoed croesaw cynes iddo y nos Iau dilynol mewn cwrdd cymdeithasol o'r aelodau. Yn yr un cynulliad rhoed tysteb amserol i Miss Mathias am ei gwasanaeth ar organ y Tabernacl am y ddwy flynedd sydd newydd orphen. PROTEST Y LLAETHWYR.—Mae llaethwyr y ddinas mewn cyffro y dyddiau hyn oherwydd fod cais yn cael ei wneyd i godi llaethdai gwrth- ymgeisiol ar draul y trethoedd. Amcenir gan y Cynghorau Sirol i sefydlu nifer o laethdai, yn y rhai y gellir cael llaeth pur am bris rhesymol. Y rheswm a roddir dros y mudiad yw, nad yw yn bosibl i bobl dylawd gael llaeth priodol yn eu cartrefi er mwyn magu eu babanod. Nis gwyddom pwy sydd gyfrifol am yr awgrym, ond credwn ei fod yn amhosibl fel y mae yn awr. CYFARFOD MAWR.—Caed cyfarfod lluosog o wyr y fasnach laeth yn yr Holborn Restaurant nos Iau yr wythnos ddiweddaf, pryd y pasiwyd penderfyniad cryf dros wrthwynebu y cynllun hyd eithaf eu gallu. Mae gan y llaethwyr fath o Undeb Masnachol, ond hyd yn hyn ychydig iawn sydd yn perthyn iddo. Hyd nes y ceir ganddynt i uno yn gadarn er amddiffyn eu hawliau, ofer disgwyl am lwyddiant, oherwydd does yr un adran a all siarad gydag awdurdod yn awr dros y fasnach fel cyfangorff. CLAPHAM JUNCTION.—Eel y crybwyllwyd yn ein rhifyn diweddaf, cynhaliwyd cyngherdd blynyddol y lie uchod nos Fercher, y I 2 fed cyfisol, a chawsom gyngherdd ardderchog—yn wir, y goreu yr ydym wedi ei gael yma etc. Y cantorion ydoedd Miss Jennie Ellis, yr hon oedd yn fuddugol yn eisteddfod yr Albert Hall yn Chwefror. Yr oedd mewn hwyl ardderchog, a chawsom ddatganiad swynol, yn enwedig yn Hear, ye Israel." Yr oedd Miss Margaret Lewys hefyd yn dda. Mr. Dan Richards a Mr. Walter Clyde oedd y ddau gantwr arall. Y mae y cyntaf yn adnabyddus i Gymry Llundain, a chafodd wrandawiad da. Ymddengys mai Cymro hefyd- brodor o Llanelli-yw yr olaf, ond ei fod yn myned o dan y ffugenw Walter Clyde." Canocld yn gampus. Yn y gystad- leuaeth ar yr adroddiad, Arwerthiant y Caethwas," y goreu oedd Mr. D. Esmond' Evans, Shirland Road, gyda Mr. Eddie Evans, City Road, yn ail. Cyfeiliwyd gan Mr. Sidney Jones (Ap Caeralaw). Y cadeirydd ydoedd Mr. T. H. Holloway (o'r firm Holloway Brothers, builders), yn cael ei gynorthwyo gan Mr. O. T. I on, Williams. Llongyfarchwn yr ysgrifenyddion, Mr. T. L. Davies, Huntsmoor Road, a Mr. D. J. Jones, Falcon Road, am eu llafur diflino i ddwyn i ben gyfarfod mor llwyddianus a hwn. -L. Nos Iau, Ebrill 6ed, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol mawreddog yn Nghapel Cymreig Sibley Grove, East Ham. Yr oedd nifer luosog o gystadleuwyr wedi anfon eu henwau i fewn, a chafwyd gwledd ardderchog mewn canu, adrodd, &c. Cymerwyd y gadair gan Mr. Thomas Davies, London Road, ac yn ei anerchiad i'r cyfarfod rhoddodd lawer o awgrymiadau o fantais i gystadleuwyr, ac i'r rhai hyny sydd yn bwriadu bod yn gystadleuwyr mewn amser i ddod. Beirniadwyd y gerddoriaeth gan Mr. Madoc Davies, A.R.C.M., y traethodau a'r adroddiadau gan y Parch. J. Machreth Rees. a'r unawd ar y berdoneg gan Mr. Lloyd Edwards, yr hwn hefyd oedd y cyfeilydd am y noson. Yr ymgeiswyr buddugol oeddent :— Soprano, Miss Marian Winfield, Ilford tenor, Mr. B. D. Jones, King's Cross; bass neu baritone, rhanwyd y wobr rhwng Mr. Claude Dyer, Forest Gate, a Mr. Cecil Best, Leyton- stone; deuawd, Miss E. Simpson a Miss J. Larkins, Barking Road; traethawd, rhanwyd y wobr rhwng Mr. Hughes, Upton Park, a Mr. Dan Thomas, King's Cross; adroddiad, Mr. B. D. Jones, King's Cross unawd ar y ber- doneg, Miss Edith A. Baird, Ilford. Ar ddiwedd y cyfarfod cynygiwyd y diolchgarwch gwresocaf i'r cadeirydd gan Mr. J. O. Jones, Manor Park, yn cael ei eilio gan weinidog parchus yr eglwys, y Parch. Llewelyn Bowyer, ac wrth ymadael canwyd Hen Wlad fy Nhadau," yr unawd yn cael ei chanu gan y cerddor a'r cadeirydd am y noson, Mr. Thomas Davies.