Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
HENRY BOWN, HiGH-CLASS PHOTOGRAPHER, 43, NEW KENT ROAD (close to Falmouth Road); 298, CLAPHAM RD.; 31 & 33, JAMAICA RD. (Dockhead). Under personal supervision of the Proprietor. Cabinets from 7/6 per dozen. C.D.V.'s from 2/6 per dozen. Well recommended by Welshmen who have patronised me SPECIAL ATTENTION GIVEN TO COPYING AND ENLARGING. r
Colofn y Gan.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Colofn y Gan. DVDD Llun nesaf (Pasg), cynhelir Eisteddfod mewn cysylltiad ag Eglwys St. Mary, Camber- well, yn y Drill Hall, Flodden Road, yr hon sydd agos i'r Eglwys. Deallwn fod nifer dda o ymgeiswyr wedi anfon eu henwau i mewn. Gweler y manylion ynglyn a'r "prelim." &c. mewn colofn arall. AR yr un diwrnod (sef Llun y Pasg), bydd y cyfeillion ynglyn ag Eglwys Dewi Sant, Paddington, yn mwynhau eu hunain gyda the a chyngherdd-y te am dri yn y prydnawn, a'r cyngherdd i ddechreu am hanner awr wedi chwech yr hwyr. Un atdyniad i'r Cymry ieuainc cerddgar fydd cystadleuaeth y challenge solo am y wobr o ddwy gini. BYDD amser hwyliog hefyd yn ddiau gyda'r Wesleyaid yn City Road, ar yr un dydd, pryd y cynhelir Cartref oddi Cartref ganddynt. Yn ystod yr hwyr bydd dwy gystadleuaeth ddydd- orol-un i unrhyw lais ar Lead, kindly Light" (Pughe Evans), a'r llall i denor ar Onoway, awake, beloved (Coleridge Taylor). Cynygir gwobrau o ddwy gini am y dadganiad goreu o'r unawdau hyn. Y mae'n debyg y bydd cystad- leuaeth yr unawd tenor yn un boblogaidd. GYDA'R tri chyfarfod uchod ni raid i'r rhai hynny o'n cyd-ddinasyddion a fyddant adref ddydd Llun betruso pa le i fyned. Bydd City Road yn gyfleus i gyfeillion y gogleddbarth, Paddington i bobl y gorllewin, a Camberwell i'r deheuwyr. CANU da gaed yn y gymanfa yn Jewin nos Iau yr wythnos ddiweddaf. y, mae y gymanfa ganu bob amser yn ein cario yn ol i'r Fethel wledig a'i hadgofion melus. Y mae posibilrwydd mawr yn ymguddio y tu ol i'r gymanfa, a gresyn na roddem ni Gymry Llundain fwy o le iddi yn ein bywyd. Y mae y gymanfa yn un o'r tri sefydliadau sydd wedi profi megis colegau i'n cenedl. Ymhelaethwn maes o law ar yr adran hon o'r bywyd cerddorol Cymreig. Y MAE yn amlwg fod soprano enwog i Gymru yn codi yn y ferch ieuanc ydoedd fuddugol yn yr Albert Hall yn ddiweddar, sef Miss Jennie Ellis. Ymddengys iddi ganu "Lo, hear ye Israel yng nghyngherdd Clapham Junction yr wythnos ddiweddaf mewn dull addawol dros ben. Dymunwn i Miss Ellis bob llwydd i esgyn nes meistroli y gelfyddycl o swyno pobl a'i pheraidd lais. CYNGHERDD rhagorol oedd yr un a gynhaliwyd er budd gweddw a phlant Mr. Robert Griffith yn yr Holborn Town Hall nos Fawrth. Yr oedd cryn dipyn o newydd-deb ynglyn a'r cyngherdd hwn.
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0 a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, Paddington- 11.0 a 6.30, Parch. W. Richards. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road— 11.0 a 6 30, Parch. W. Davies. 7 Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- 11.0 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow— 11.0 a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 0.30,'Parchn. D. Lloyd Jones, M.A., Llandina D. Jones, Mardy. Charing Cross Rd. 6.30, Parch. Thos. Davies, Treorci. Wilton Square 6.30, Parch. H. H. Hughes, B.A., B.D., Ffestiniog. Falmouth Road 6.30, Parch. G. H. Havard, B.A., B.D. Mile End Road 6.30, Parch. J. Jenkins, Ceinewydd Holloway 6.30; Parch. D. Williams, Llanwnda Hammersmith 6.30, Parch. W. Richards, Briton Ferry. Clapham Junction 6.30, Parch. John Davies, Pandy. YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross- 11.0, Parch. D. C. Jones. 6.30, H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0, Parch. PL Elvet Lewis. 6.30, Parch. D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea— 11.0, Parch. E. Owen, B.A. 6.30, J. M. Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0, Parch. J. Machreth Rees. 6.30, E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove- 11.0 a 6.30, Mr. Meredith Davies, Coleg Hackney. Woolwich, Parson's Hill- 11.0 a 6.30, Mc H. Watkin. Battersea Town Hall- 11. o a 6.30, Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11.0 a 6.30, Mr. LIwchwr Jones, Coleg Bangor. Little Alie Street, Aldgate- 11.0 a 6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham-ILo a 6.30, Parch. W. Rees. Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sul. Y WESLEYAID. City Road- 11.0, Mr. E. Evans. 6.30, Parch. T. Jones. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. H. T. Barker. Poplar, Duff Street- 3.0. Parch. T. Jones. 6.30, Mr. E. Evans. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y' golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan bellaf
-Y DYFODOL
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y DYFODOL [Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon. ] 1905. Ebrill 24. Eglwys St. Mary, Camberwell. Eisteddfod Fawreddog. 21, 23, a 24. Cyfarfodydd Pregethu y Pasc. 24. Swper Goffi olaf y Tymhor yn City Road. 25. Pregeth—Parch. T. Davies, Treorci, yn East Ham. 25. Cyfarfod Diwygiadol yn Stratford. Mai 4. Swper Goffi Eglwys St. Padarn yn Emmanuel Mission Hall. (Gweler yr hysbysiad.) 4. Cyngherdd Cenhadaeth Eglwysig y Dwyrain yn South Place Institute, Finsbury. 6, 7, a 8. Cymanfa Bregethu Flynyddol Radnor Street, Chelsea. 11. Esgob Ty Ddewi yn conffirmio yn St. Benet. 14 a 15. Gwasanaethau Blynyddol St. Benet. 6, 7, a 8. Little Alie Street, Leman Street, Aid- gate. Cyfarfod Pregethu Blynyddol. 11. Barrett's Grove. Jiwbili Talu y Ddyled. 11. Cyngherdd Mr. T. Vincent Davies yn y Queen's Hall. „ 14 a 15. Cyfarfod Pregethu y Gothic Hall,Parch. T. O. Jones (Tryfan), Coedpoeth. > i 14 a 15. Cyfarfod Pregethu Blynyddol Barrett's Grove. 21 a 22. Cyfarfod Pregethu Blynyddol East Ham. 29. Cyngherdd Mawreddog y London Welsh Male Choir yn y Queen's Hall.
Pobl a Phethau yn Nghymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BVDD yn flin gan lawer ddeall fod Mr. Alfred Davies, A.S., yn bur wael ei iechyd y dyddiau hyn, ac wedi ei orfodi gan ei feddyg i orphwys dros Wyliau'r Pasg. Miss Ellenor Williams yw efengyles fawr Cymry'r America y dyddiau hyn. Yr oedd yn ardal y Wyoming yn ol yr hanesion diweddaf o'r wlad honno, ac yn cael cynulliadau mawrion i wrando ar ei chenhadaeth. MAE pobl Caerdydd yn dyfeisio pob cynllun er cael arian i gronfa'r Llyfrgell a'r Amgueddfa, a dydd Mercher trefnasant i gael gornest y bel droed er chwyddo eu rhestr. Ar ol dadblygu y traecl hwyrach y credant y gellir diwyllio y pen hefyd. SONIR am godi cofadail o ryw fath i arwres yr hen ddiwygiadau—Nansi Jones. Eithaf peth yw hyn, a gellir mynd ymlaen a chodi maen cof I ambell un arall o gymwynaswyr y cysegr— Morg an Rhys. Gwaith ardderchog i en wad yr Annibynwyr sydd a thipyn o arian wrth law gan- ddynt—oddiwrth y Caniedydd neu rywbeth arall—fuasai codi colofnau gweddus ar feddau ein henwogion crefyddol sy'n gorwedd hwnt ac yma mor ddigofnod. Dechreuer gyda Nansi Jones, Crugybar. MAE yr hen lenor cadarn, Dr. Pan Jones, wrthi yn ddiwyd drwy'r misoedd yn parotoi "album'' Coleg Caerfyrddin. Nid yw gwaith yn Hinder o gwbl i'r "Doctor," a diau y gwnaiff t, efe y cyfan yn fanwl a thrwyadl yn llyfr y gellir dibynu arno. Pa bryd y mae album Bala- Bangor i gael ei drefnu a'i gyhoeddi ? Bu dau weinidog—un ieuanc ac un mewn oed-yn son am ei gyd-ysgrifenu- y naill yn cynrychioli yr hen do o fyfyrwyr, a'r llall y to diweddar. Gyda llawer peth fel hyn, goreu po gyntaf i fynd ati, ZD cyn i'r defnyddiau fynd i golli, ac i'r ffeithiau gael eu hangofio. DISGWYLIR Dr. Llewelyn Bevan i'r wlad hon o Awstralia yn fuan. Brodor o Llanelli yw efe. Anrhegwyd Llyfrgell Rydd y dref honno a'i ddarlun mewn olew yn ddiweddar, ac y mae yn edrych yn rhagorol. WELE grynhodeb o gynllun addysg grefyddol Z) Sir £ organwg :—Yn y boreu: Emyn, gweddi'r Arglwydd, darllen rhan o'r Beibl gan yr athraw, gwers Feiblaidd, gweddi i orphen. Yn y pryd- nawn Emyn agoriadol, gweddi, emyn pryd- nawnol, a gweddi'r Arglwydd. Cymeradwywyd hefyd wers-len o hyfforddiant moesol a chref- yddol ar gyfer y gwahanol ddosbarthiadau. ID CEIR yn Seren Cymru ysgrif fywgraffyddol ar y Parch. John Thomas, M.A., Liverpool. Gan- Wyd Mr. Thomas yn Maesteg, dygwyd ef i fyny gyda'r Saeson, ond medr siarad ac ysgrifenu mewn Cymraeg da. Collodd ei dad pan yn I I eg oed, a gorfu iddo ddechreu ei oes yn y pwll glo i gynal ei fam a'r teulu ADEILEDIR dau gapel newydd yn Llandrin- dod,-un gyda y Methodistiaid, gwerth ^"3,300, un gan j Wesleyaid, gwerth dros £ 8,000. pisgwylir y bydd capel y Methodistiaid yn barod i'w agor ganol yr haf. Nid cyn diwedd Gorphenaf gellwch feddwl, oblegid nid yw ei do Wedi ei orphen eto. Y mae y capel ar yr hen slte, ac yn cynwys eisteddleoedd i 633.
Pobl a Phethau yn Nghymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BWRIADA y Bedyddwyr am eleni roddi tair colofn ychwanegol yn eu hystadegau yn cyfleu -( I) Nifer y dychweledigion newyddion oddiar gychwyniad y Diwygiad yn Nhachwedd, 1904, hyd ddiwedd Ebrill, 1905. (2) Nifer y gwrth- gilwyr dychweledig yn ystod yr un cyfnod. (3) Nifer y bedyddiadau yn ystod yr un cyfnod. ANOGA y Llafi yr Eglwyswyr i syrthio i mewn a pholisi Sir Gaernarfon gyda'r ysgolion Eglwysig, a chydweithio a'r Ymneillduwyr i 11 gorffori cytundeb felly mewn deddf seneddol. DYWEDIR fod graddau anrhydeddus Prifysgol Cymru i'w cyflwyno eleni i Arglwydd Tredegar, Arglwydd Rendel, a Dr. Gwenogfryn Evans, ac feallai rywrai eraill. PENODWYD Mr. Morgan Thomas yn brif gwnstabl Sir Frycheiniog. Cymro ydyw Mr. Thomas, wedi ei eni yn Sir Gaerfyrddin, yn siarad Cymraeg, ac yn cario arwyddair Cymraeg, —"Nid da lie y gellir gwell."