BUDD-QYNQHERDD R. GRIFFITH. Cynnulliad Mawr. Does neb fel Cymry Llundain am gefnogi achosion dyngarol," meddai'r aelod tros Arfon y nos o'r blaen, a dangoswyd hyny yn eglur yn y cynulliad mawr a gaed yn Holborn Town Hall nos Fawrth. Pan osodasom yr achos haeddianol ger bron ein cydwladwyr, profasant ar unwaith eu bod yn teimlo yn rhwymedig i gynorthwyo y rhai a adawyd mor ddiamddiffyn, ac ni phrynwyd tocynau gyda mwy o barod- rwydd at unrhyw achos nag a wnaed ar yr amgylchiad presennol. Fel y cofir, bu Mr. R. Griffith farw yng nghanol ei ddyddiau ar ol byr gystudd, gan adael gweddw a phump o blant bychain ar ddechreu cael eu magu ac heb ddim ar eu cyfer ond enillion wythnosol y tad pan yn fyw. Er mWyn rhoddi help llaw iddynt ar yr achlysur annisgwyliadwy, penderfynodd ei gydweithwyr ar y WELSHMAN i gael budd-gyngherdd, a dang- osodd v cynnulliad eu bod wedi trefnu yn ddoeth ac yn unol a barn ein cyd-ddinasyddion. Yn gynar yn yr hwyr dechreuai y bobl dyrru tua'r neuadd, ac erbyn adeg dechreu yr oedd y lie yn gysurus o lawn, a chyn pen hanner awr wedyn yr oedd torf fawr yn llanw pob cwr o'r adeilad. Da.eth y cantorion yno yn ol eu haddewid, ac nid yn ami y caed gwell gwledd gerddorol nag a drefnwyd ar y noson hon. Y datgeiniaid oeddent Miss Gertrude Hughes (soprano), Miss Margaret Lewys (con- tralto), Mr. Herbert Emlyn (tenor),, a Mr. David Evans (bass). Yr oedd y pedwar hyn mewn lleisiau rhagoroi, a chymaint oedd eu dylanwad ar y dorf fel bu raid iddynt ail ganu bron bob tro. Yn ychwanegol at hyn, caed gan Mrs. Tudor Rhys i roddi detholiad adroddiadol yn ei dull meistrolgar, a bu raid iddi hithau ateb i ail alwad. Gwr arall a roes gryn hwyl i'r cynulliad oedd Ap Caeralaw drwy ei Musical Sketch" ddigrif, a sicr y ca'r gwr hwn lawer o Waith pan ddaw'r cyhoedd i sylweddoli ei dalentau disglaer a'i ddonioldeb naturiol. Caed fri o bartion cerddgar hefyd i roddi eu gwasan- aeth yn y cyngherdd. Yn gyntaf dylid enwi y cor ieuanc o offerynwyr o dan arweiniad Miss Jennie Jones, a mawr foddhawyd y dorf gan eu chwareu tlws a soniarus. Yna caed detholiadau gan Gor Merched y Kymric, o dan arweiniad deheuig Mrs. Frances Rees-Rowlands, a chan fod y cor hyn bellach yn dod yn un o brif bethau ein bywyd cerddorol yn Llundain, afraid yw son am dano yma. Digon i ni ei fod wedi cadw i fynu ei urddas y tro hwn, a phrofodd fod y merched yn dod yn fwy poblogaidd bob tro yr ymddangosant o flaen y cyhoedd. Yn olaf dylid enwi y cor meibion o dan arweiniad Mr. Owen o'r Swyddfa hon, a chanasant yn wir gelfgar a galluog. Am y berdoneg gofalodd Mr. Merlin Morgan gyda'i fedr arferol, a chwareuwr campus yw efe, fel y gwyddis, a syrthiodd y rhan drymaf ar ei ysgwyddau, neu yn hytrach i'w fysedd ef am y noson. Mr. Tudor Rhys oedd trefnydd y llwyfan, ac nid oedd yn bosibl i'r pwyllgor gael gwasanaeth gwr a wyr yn well sut i redeg cynulliad o'r fath, ac yn unol a'i reol aeth pob peth fel peirian- waith o'r dechreu i'r diwedd. Ar ganol y cwrdd caed anerchiad hapus gan Mr. William Jones, A.S., yr aelod tros Arfon, a dywedai ei fod yn llawenhau wrth weled parod- rwydd ei gydwladwyr i gynorthwyo pob achos teilwng. Diolchai yn garedig i'r pwyllgor am drefnu y cwrdd ac i'r cantorion am wasanaethu Syda'r fath barodrwydd. Yna diolchodd y dorf *ddo am gadeirio ar gynygiad y Parch. Machreth Rees. Yr oedd yn awr wedi hwyrhau cyn terfyn y cyfarfod, ond barn unol yr oil o'r gwrandawyr oedd mai cyngherdd ardderchog a Saed, ac mae ein dyled ni fel trefnwyr yn fawr i °t> un a gynorthwyasant mor galonog i wneyd y cyfan yn llwyddiant.
Tua'r Sowth.—Aeth torf fawr o wyr Llun- dain tua'r DeheulWh ar adeg y Pasc er mwyn Spd o hyd i swyn y Diwygiad. Nid oedd Mr. Van Roberts yno, eto mewn nifer o'r prif drefi caed cyfarfodydd hynod o frwdfrydig.
YR ADFYWIAD CREFYDDOL. EI DDYLANWAD YN LLUNDAIN. Ystadegau y Flwyddyn. Tymhor y cyfrifon yw tymhor y Pasc. Mae'r holl Eglwysi yn Llundain yn cyhoeddi eu ffigyrau blynyddol erbyn yr adeg yma o'r flwyddyn, a rhydd hyn fantais i ni daflu cipolwg ar waith y gorphenol. Nid yw ffigyrau, feallai, bob amser ) n ddatganiad cywir o sefyllfa gref- yddol ein gwahanol eglwysi, ond ar yr un pryd y mae iddynt eu gwersi arbenig i ni yn Llundain. Dangosant, yn un peth, yr aberth a'r gweithgar wch dyngarol yn ein plith, a phan fo'r broffes yn frwd a'r teimladau yn bybyr dros achos y Gwaredwr rhaid o ganlyniad fod y gweithred- oedd yn cyfatteb i hynny os yw'r broffes i fod o unrhyw werth. Nid yw'r ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ond dros y flwyddyn 1904: a chan mai tuag adeg y Nadolig y caed y brwdaniaeth diwyg- iadol yn Llundain nid teg yw disgwyl llawer o'r canlyniadau yn yr hyn a gyhoeddir. Ond y mae'r hyn sydd eisoes ar law yn dangos fod cryn gynydd ym mhob adran yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Mae'r Cyfundeb Methodistaidd yn cyhoeddi adroddiad cyflawn erbyn adeg y Pasg, ac mae'r hyn a osodir ganddynt ger bron eleni yn brawf fod gweithgarwch mawr wedi ei ddangos ynglyn a'r gwahanol achosion yn ystod y tymhor. Er nad yw cynydd cyfanrif yr aelodau ond 23, y mae hyny wedi ei gael ar adeg pan oedd marweidd-dra mawr i'w deimlo ym mhob cangen o fasnach, yr hyn o ganlyniad a yrrai lu mawr o'r bobl ieuainc i drefi ereill i chwilio am waith ac arosfan. Yr eglwysi sydd wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ydynt: Hammersmith 24, Wilton Square 14, Willesden Green 13, Hollo- way 7, Tottenham 9, Walthamstow 6, Mile End Road, 4, a Falmouth Road 3. Dengys Eglwys Stratford o'r ochr arall leihad 0 25, Clapham Junction a Shirland Road 11 yr un, Jewin 10, Lewisham 9, Charing Cross 8, a Walham Green 6. Mae c) fanrif y casgliadau arianol ym mhell uwchlaw deng mil o bunau, yr hyn a weithia allan yn rhyw 49s. y pen am bob un o'r 4,238 aelodau sydd yn perthyn i'r Cyfundeb. Ar hyn o bryd mae gwerth yr eiddo Method- istaidd yn agos i gan' mil o bunnau, tra nad oes yn aros ond prin ddeugain mil o ddyled ar y gwahanol gapelau. Gydag ychydig o ymroad a gweithgarwch dylid lleihau y ddyled yn fawr yn ystod y pum' mlynedd dyfodol, a hyderwn y gwneir hyny oherwydd y mae angen eto am helaethu'r terfynau a chodi achosion mewn mannau lie nad oes addoldai Cymreig yn awr. Ynglyn a'r Annibynwyr y mae'r hanes yn debyg yr un fath. Dengys Eglwys y Tabernacl gynydd o 46, tra y saif y rhai eraill yn agos i'r hyn oeddent y flwyddyn flaenorol. Yr oedd casgliadau y Tabernacl hefyd yn dangos cryn welliant, ond hwyrach y dylid priodoli hynny yn benaf i'r ffaith fod bugail newydd ar y lie, oherwydd mai ar ol y Nadolig y caed y gwres diwygiad'ol yn yr eglwys hon. Yn absenoldeb bugail ar Eglwys Castle Street nid yw'r achos mor llewyrchus ag y disgwylid, ond deallwn fod ychydig gynnydd i'w ganfod ym Moorfields; ac mae'r Wesleyaid, hwythau, yn aros yn lied dawel am y flwyddyn. Erbyn diwedd y flwyddyn bresenol hyderwn y ceir gweled cryn gynnydd mewn amryw gyfeir- iadau, yn enwedig yng nghyfraniadau y bobl ieuainc a'r masnachwyr llwyddianus. Y merched gweini ydynt gefnogwyr goreu y gwahanol achos- ion, yn ol yr herwydd, ar hyn o bryd ac mae eu cyfraniadau yn cydfyned a'r dwysder ys- brydol a deimlir yn eu gweddiau yng nghyfar- fodydd y Diwygiad. Pe caem ragor o'r nod- wedd hunanaberthol hon yn ein masnachwyr llwyddianus eto, yn enwedig y rhai sydd yn gorfod cadw eu lleoedd yn agored g) fran o'r dydd Sabboth ei hunan, yna byddai gwedd lawer mwy llewyrchus ar ein heglwysi trwy'r ddinas i gyd. Prysured y dydd pan y bo'r weithred yn cydateb i'r broffes a gydnabyddir genym ni blant yr efengyl.
ELPHIN A'R ARWRGERDDWYR. Nos Iau cynhaliwyd cyfarfod o Gymdeithas y Cymmrodorion o dan lywyddiaeth Mr. William Jones, A.S., pryd y traddododd Mr. R. A. Griffith (Elphin) anerchiad ar "Yr Arwrgerdd Gymreig." Cymerodd dair arwrgerdd goronog i'w beirniadu, Gwenhwyfar," Llew Llwyfo, a wobrwywyd yn Merthyr yn 1859; Madog ap Owen Gwynedd," Cadfan, a wobrwywyd yn Lerpwl yn 1884 a Dewi Sant," Iolo Caernar- fon, a fu yn fuddugol yn y Rhyl yn 1892. Rhoddodd ddadelfeniad beirniadol 0 bob un o honynt, gan ddyfynu yn helaeth i gadarnhau ei sylwadau. Yr oedd ef yn dod i'r casgliad nad oedd y pethau hyn a elwid yn arwrgerddi amgen na dynwaredion egwan. Benthyciedig yw yr oil o werth sydd ynddynt, ac ni fedd yr hyn sydd newydd unrhyw werth llenyddol. Ddeugain mlynedd yn ol croesawid "Gwenhwyfar" fel seren fore barddoniaeth arwrol Cymru. Eithr dangosai cydnabyddiaeth fanylach a hi nad oedd ond swp o anaddfedrwydd. Ym Madog ap Owen Gwynedd" ceid dadblygiad diwedd- arach o'r arwrgerdd Gymreig. Benthyciodd yr awdwr oddiar Virgil a Homer. Gwnai ddinystr ar chwedloniaeth, camddesgrifiai y duwiesau, a lluniai asyn arwrol ganrifoedd cyn bod yr asyn cyffredin yn adnabyddus yng Nghymru. Wrth ymdrin a ffurfiau diweddaraf yr arwrgerdd dy- wedai Elphin fod awdwr Dewi Sant" wedi diystyru y dyn o 'gnawd ac esgyrn a laddai ddynion ac a anwylid gan ferched, ac wedi tynu ei ysbrydiaeth o rajoriaethau ysbrydol yr apostol a'r mynach. Dichon fod hyn yn oddefol mewn oes ddi-arwriaeth, ond amheuai yn fawr a ydoedd yn arwrol. Cafodd Dewi Sant Gymru yn gors, fe'i trodd (yn ol y bardd) yn baradwys flodeuog. Yn anffodus gadawodd ynddi ormod o esgobion a beirdd, y rhai fu yn achos o'r rhan fwyaf o'i thrafferthion. Yn ei arddull yr oedd awdwr Dewi Sant" wedi efelychu Milton, ond yr oedd y gwahaniaeth cydrhwng y ddau yn gyffelyb i'r gwahaniaeth rhwng derwen ir a darn o goedyn marw. Daethai yr arwrgerdd i Gymru yn rhy ddiweddar. Dichon nad oedd yn gydnaws a'r athrylith Gymreig, bethbynag gwrthodai wreiddio yn naear Cymru. Gwir arwr yr arwrgerdd Gym- reig ydoedd y bardd coronog. Yr oedd ei addurniadau ef yn rhoddi mwynhad i'r tyrfaoedd eisteddfodol, ond ni chyfoethogent lenyddiaeth Cymru. O'r ochr arall, yr oedd dwyn i mewn ddullweddau estronol wedi llesteirio talent Gymreig am hanner canrif. Ei hangen penaf ydoedd synwyr, naturioldeb, ac amgyffrediad cywir o'r hyn ydyw celf.
Wear WALTON'S Good Clothes. Our evincible" "Two-Year" SERGE is far and away the most SERGE economical to buy. M LOUN"'t 501* Made to Measure. 1. WILL STAND 2 years' > JEL HARD wear. Keep its JmA deep rich colour, anJ look jjM& — TsW well all the time. Write for sample or call and see the Cloth. ISAAC WALTON & CO., LTD., 97, 99 & 101, NEWINGTON CAUSEWAY, S.E. 1, 3t 5* 7 & 9, LUDGATE HILL, E.C. 518,520 & 522, BRIXTON ROAD, S.W. 442, 444 & 446, HOLLO WAYjRO AD,JN.