Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y CORACHOD.

PREQETHWYR Y SABBOTH NESAF.

[No title]

Y DIWYGIAD YN INDIA.

MARWOLAETH DAFYDD MORGANWG.

MARWOLAETH MR. R. LLEWELYN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH MR. R. LLEWELYN JONES, Y.H., RHYL. Cyffrowyd tref Rhyl drwyddi boreu Sul gan y newydd fod y Cynghorwr R. Llewelyn Jones, Cadeirydd Pwyllgor Addysg sir Callestr, wedi marw yn hynod o sydyn o glefyd y galon. Ni fu yn wael fwy nag ychydig oriau. Yr oedd Mr. Jones yn un o'r dynion mwyaf amlwg yn sir Callestr-yn gadeirydd y Pwyllgor Unedig Arosol, Cwrdd Gwarcheidwaid Llanelwy, Rheol- wyr Ysgol Ganolraddol Rhyl, &c. Ond ynglyn a Phwyllgor Addysg y sir y gwnaeth ei waith penaf, ac er yn wrthwynebwr cryf i'r Ddeddf, eto lhvyddodd i roddi y ddeddf mewn ymarferiad heb i hynny achosi ond ychydig wrth-darawiad. Pan fu Rhyddfrydwyr Bwrdeisdrefi Callestr yn dewis ymgeisydd Seneddol yn lie Mr. Herbert Lewis, A.S., yr oedd enw Mr. Llewelyn Jones yn un o'r enwau ger eu bron, a rhyngddo ef a Mr. Howel Idris, yr hwn a fabwysiadwyd, y bu y bleidlais derfynol. Cariai fusnes helaeth ymlaen, mewn cysylltiad a'i frawd, fel coed- fasnachydd, ac yr oedd yn aelod gweithgar o Eglwys Seisnig y Methodistiaid yn Rhyl.