Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y CORACHOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CORACHOD. Ca Prydeinwyr gyfle yn fuan i gael golwg ar wir gorachod. Bu y Cyrnol J. J. Harrison yn teithio am fisoedd yng nghoedwig fawr y Congo, lie y trigant, a llwyddodd i ddenu nifer o honynt i'w ddilyn. Mae wedi cael caniatad y Swyddfa Dramor i'w dwyn drosodd i'r wlad hon. Diau nad annyddorol i'n darllenwyr fydd y desgrifiad canlynol a ddyry y Cyrnol o honynt:— Wedi i mi unwaith ennill eu hymddiriedaeth, yr oeddynt yn dra chyfeillgar; a darfu i chwech o honynt—pedwar dyn a dwy ddynes-addo dyfod gyda mi i Brydain. Pobl ryfedd ydynt; ar ol bod yn eu mysg yn y goedwig am dair wythnos daethum i ddeall tipyn o'u hanes. Yn rhydd iawn yr arweiniasant fi i'w pentrefi bychain, ac yn y nos codasant adeilad deilog i mi i gysgu. Pobl o radd isel o ddealltwriaeth ydynt, ac ni wyddant ddim am yr hyn sydd yn myned yn mlaen o'u cylch. Ymddengys nad oes ganddynt reddfau crefyddol, ac ni feddant syniad am fod dwyfol. Eu taldra ar gyfartaledd ydyw o bedwar troedfedd i bedwar troedfedd a hanner; a dyna sydd yn rhyfedd, fel rheol y mae'r merched yn dalach na'r dynion. Y mae y merched hefyd yn meddu gwell dadblygiad corphorol. Ym- ddangosai y dynion i mi fel yn newynu. Ffynai peswch dychrynllyd yn eu mysg, mewn canlyniad, hwyrach, i leithder yr awyr. Blinid y corachod gan beswch yn y nos, fel yr oedd yn anodd cysgu. Disgwyliais y buaswn yn eu cael yn dioddef oddiwrth afiechyd yr ysgyfaint, ond deallais wedi hyn fod eu hysgyfaint yn iach. Mewn un pentref bychan cefais gan rai o'r corachod i ddyfod i'm gwersyll i ddawnsio, a gallant wneyd hyn am oriau heb ddiffygio. "Un o nodweddion arbenig y corachod yw eu bod yn bobl ddistaw. Eisteddant am oriau heb yngan gair. Pobl grwydrol ydynt, a'u hunig gyfoeth ydyw gwaewffyn. Y mae rhif y gwaew- ffyn yn penderfynu rhif y gwragedd y medr dynion eu cynhal. Bron nad yd)nt yn noeth. Ychydig o ddail yn unig yw gwisg y merched, tra mai darn o groen a wisg y dynion o gylch y wasg. Eu holl eiddo personol ydyw un neu ddau o waewffyn wedi eu trochi mewn gwenwyn a rhyw hen lestr pridd i goginio. Arfera y merched gario eu babanod ar draws eu hochrau. Helwyr diofn ydynt, ac ymosodant yn hyf ar eliffant, gan ei drywanu gyda'r gwaew- ffyn gwenwynedig. Pobl ryfelgar hefyd ydynt. Ychydig cyn i mi gyrhaedd y goedwig, yr oedd- ynt wedi lladd dau ar bymtheg o bersonau perthynol i garafan Belgaidd. Bwyty y corachod fel anifeiliaid, a hyd yn nod cnoant esgyrn eu hysglyfaeth. Pan ddelir anifail ganddynt, bydd- ant yn eu dori, drwy y croen a'r cwbl, ac yn ei roddi yn y llestr pridd. Bywyd blin anghyffredin sydd yn y goedwig. Bob amser yn wyll. Ni threiddia yr haul drwy y doraeth o ddail, a gwlawia am naw mis yn y flwyddyn."

PREQETHWYR Y SABBOTH NESAF.

[No title]

Y DIWYGIAD YN INDIA.

MARWOLAETH DAFYDD MORGANWG.

MARWOLAETH MR. R. LLEWELYN…