Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Byd y Gan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Byd y Gan. "CENWCH FAWL YN DDEALLUS." Ami iawn mae tymhor canu yn llawer byrach na thymhor bywyd. Mae y plentyn deuddeg 'oed yn addasach at y gorchwyl hyfryd hwn na'r hen wr deg a thriugain. Anaml yr elai per-ganiedydd Israel" i fugeilio heb ei delyn a'i lyfr tonau. Medrai ganu pan yn ieuanc nes dychrynu cythreuliaid a phan flinai ysbryd drwg Saul, yr unig ffordd i gael llonydd ganddo oedd cael Dafydd i ganu telyn a'i ddwylaw. Ac ebai'r caniedydd hwn Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i'r Brenin, cen- wch. Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus." Cenwch, medd Natur. Elfenau cyntaf pob ton a genir yw llais ac ,awyr. Heb lais nis gellir canu, ac heb awyr nis gellir lleisio. Pan y mae dyn yn cyfansoddi ton, ni wna ond dethol a phlethu y notes a'r .cords a wnaed gan Dduw. Y mae Efe fel pe wedi gwneyd holl natur yn delyn, ac yn cadw ei thannau bob amser mewn hwyl. Mae yr awyr o'n hamgylch yn llawn peroriaeth ond cael rhywbeth i'w dynu allan. Mae'r ystorm weithiau fel pe yn ymaflyd yn y delyn-y gwynt, y gwlaw, y taranau a'r dyfroedd yn chwareu pawb ei lais. Bryd arall mae y llew, yr arth, &c., yn rhuo canu yn eu ffordd hwy. Y mae'r cor asgellog hefyd yn defnyddio yr un delyn, a phynciant yn rhagorach nag uh dosbarth o'r creaduriaid afresymol. Darlunir concert ywig gan y prydydd,- Yr adar drwy'r wig dery gan A dawns wrth ei chyngan y dail. Pan mae dyn yn canu, nid yw yntau ddim ond ,chwareu telyn natur. Nid yw Duw am i'w delyn ef fod yn segur. Caiff pawb ei benthyg, o'r asyn aflafar hyd yr eos fwyn, ac oddiyno hyd yr Handel enwoccaf. Rhoddodd y Crewr mawr rywbeth ym mhawb a phob peth sydd yn hoffi peroriaeth. Gwir nad oes gwers neillduol i'r meddwl, na bwyd na diod i'r corff, yn sain yr organ, mwy nag yn ysgrechian olwynion hen beiriant; etto, mae rhyw ddifyrwch nas gellir rhoddi cyfrif am dano yn nisgyniad notes cerdd- ,oriaeth ar beiriannau y clywed. Cenwch, ynte, medd Natur. Cenwch, medd Crefydd. Mae cerddoriaeth yn ddarn o grefydd. Maent wedi eu priodi er cyn y diluw. Buont ynghyd yn ) r anialwch, y Tabernacl, a'r deml yn amser brenhinoedd Israel, yn enwedig Dafydd. Haf ■ar ganu ac ar grefydd oedd teyrnasiad mab Jesse. Nid rhyfedd i'r canu flodeuo pan gefn- ogid ef gan frenin y cantorion. Aeth crefydd a cherddoriaeth gyda'u gilydd i Babilon. Buont yn edrych ar eu gilydd lawer tro, a llond eu lIygaid o ddagrau, bron ymollwng i farw gol yn nghol. Pa fodd y canwn gerdd yr Ar- .glwydd mewn gwlad ddieithr?" ebai'r caniedydd. Daethant gyda'u gilydd o Fabilon; a phan adfywiodd crefydd yn amser adeiladu'r deml, •adfywiodd y canu. Buont ynghyd wedi hynny mewn llawer caethiwed. Daethant law yn law o Rufain yn amser y Diwygiad Protestanaidd. Luther, Diwygiwr mawr yr Almaen, dros dri ,chant o flynyddoedd yn ol, a gyfansoddodd yr Hen Ganfed "—ton sydd wedi bod mewn bri •drwy'r oesau. Mae crefydd a chtrddoriaeth gyda'u gilydd mewn adfyd yn ogystal ag mewn hawddfyd. Nid ydym yn credu y rhai a ddad- teuant na ddylid canu ond testynau llawenydd. na, Canaf am drugaredd a barn." Y ffordd -oreu i wneyd a gofidiau yw eu canu ymaith. Cenwch, ynte, medd crefydd, ym mhob am- -gylchiad. Cenwch, medd y Byd. ? Mae Duw fel pe byddai wedi taflu ei donau a 1 del) n yn gipris rhwng Sion a'r byd. A'r •gwirionedd yw fod cerddoriaeth rhai gwledydd, raddau mawr, yng ngwasanaeth pechod. Bu yn natur yng Nghymru ar yr helyg am hir .aroser, ond erbyn hyn y mae ieuenctyd ein gwlad wedi ei thynu i lawr a'i chysegru i Grist. Efe bia'r delyn, ei choed, a'i thannau, yr awyr lie seinia a'r cwbl pe cai degwch. Angylion yn ein Cymhell. Mae genym hanes angylion yn canu dwy gan neillduol, sef un wrth sylfaenu y ddaear, a'r Hall wrth sylfaenu trefn achub, pan oedd gyda'r angel liaws o lu nefol." Angylion ganodd gyntaf yn awyr ein byd ni, dan yr enw ser y boreu," pan oedd pob peth yn ddistaw, plant natur heb godi, neb yn gwrando ond Duw. Mae peror- iaeth yn hollol nefol o ran ei tharddiad. Fry y clywyd y don gyntaf. Angylion a estynodd y gelfyddyd i lawr i ddynion. Wrth weddio yr ydym yn ceisio gan Dduw, wrth ganu yr ydym yn rhoddi i Dduw.—J. R. (I'w barhau.)

EDWARD GERMAN'S "WELSH RHAPSODY."

- SEISNIGYDDIAETH.