Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Notes from South Wales.

\ PICTURE POST CARDS.

[No title]

EISTEDDFOD CAMBERWELL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD CAMBERWELL. Yn ol disgwyliadau, ac yn wir ymhell uwchlaw disgwyliadau, trodd yr Eisteddfod uchod allan yn lwyddianus iawn. Fel y mae y rhan fwyaf o Gymry Llundain yn gwybod, yn y Drill Hall, yn gyfagos i'r Eglwys Gymraeg y cynhaliwyd hi, trwy ganiatad caredig y Milwriad Branston. Yr oedd yr hin yn hynod ffafriol, ychydig efallai yn ansefydlog fel ag i wneyd siwrnai i'r wlad gyfagos yn beth amheus, ac wrth gwrs, os heb fyned i'r wlad, y peth nesaf goreu oedd myned i'r 'Steddfod." Cynhaliwyd y Preliminary Tests yn ystafell yr eglwys am dri o'r gloch, ac aethpwyd trwy y gwaith mewn amser da. Y beirniaid cerddorol oeddynt y Meistri T. Aeron Davies a George Shinn, Mus. Bac., Cantab. Am haner awr wedi pump dechreuwyd yr Eisteddfod, a mawr oedd y brwdfrydedd ynghylch dewisiad y beirniaid yn y Preliminary. Cadeiriwyd gan y Prifathraw Thomas, Wood Green, ac yn absennoldeb anocheladwy y Parch. G. Hartwell Jones, bu y Prifathraw mor garedig ag ymgymeryd a'r gwaith o feirniadu yr adroddiadau, ac felly lanw dwy swydd. Oherwydd afiechyd yr arweinydd penodedig (y Parch. Morris Roberts) llanwyd ei le yn ddeheuig ddigon gan Gaplan yr eglwys (y Parch. Lewis Roderick). Yn ystod ei araeth rhoddodd y Cadeirydd i ni fraslun byr o hanes Eisteddfod y Cymry, a dywedodd ei fod cyn hyn wedi cael yr anrhydedd o gael ei urddo yn fardd mewn Eisteddfod Genedlaethol- Yngwyneb haul, llygad goleuni." Rhoddodd hefyd air neu ddau o glod digamsyniol i'r Caplan a'r rhai oedd yn ymdrechu cynhal Eglwys St. Mair ar ei thraed, a llongyfarchodd hwynt ar eu hantur gyntaf o gynhal Eisteddfod, ac un oedd a'i safon mor uchel. Prif ad-dyniad yr Eisteddfod oedd y gystadleu- aeth gcrawl ar y dernyn Sleep, gentle lady." Ni ddaeth ond dau gor ymlaen, sef cor Morley Hall a chor Eglwys St. Mair. Dyfarnwyd yr olaf yn oreu (arweinydd, Mr. W. Williams). Cafwyd cystadleuaeth ysblenydd ar y Challenge Solo, a daeth y cwpan arian yn eiddo i Miss- Annie Thomas, Morley Hall. A ganlyn ydyw rhestr y buddugwyr ereill :-Baritone solo, Mr. J. T. Jenkins, New Cross; unawd i blant, Miss Lala Thomas, Morley Hall; deuawd, Mri. Jones, King's Cross contralto, Miss Thomas, Camberwell; soprano, Miss Annie Thomas, Morley Hall; tenor, Mr. T. Davies, St. Benet's, a Mr. J Humphreys, Barrett's Grove: adrodd- iad, Mr. B. D. Jones, King's Cross adroddiad difyrus, Mr. D. M. Lewis, Camberwell; pedwar- awd, St. Mary's Reserves, dan arweiniad Mr. D. M. Archie Jones araeth ddifyfyr, Mr. Idris Jones, City Road. Ar ol canu yr Anthem Genedlaethol Gymraeg aeth pawb adref gan dystio mae da oedd iddynt fod yno.—CARDI.

Advertising