Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

-.-----____._n_--Nodiadau…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

.n_ Nodiadau Golygyddol. CYNHADLEDD Y BALA. Y DIGWYDDIAD pwysicaf yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diweddaf yn ddiddadl ydoedd y gynhadledd a gynhaliwyd yn y Bala dydd Mawrth i ystyried y sefyllfa yn wyneb fod Deddf Gorthrech wedi ei rhoddi mewn grym ym Meirionydd. Chwe' mis yn ol y bu y gynhadledd yng Nghaerdydd, pryd y mabwys- iadwyd y polisi cenedlaet'hol. Ond y mae llawer o bethau yn cymeryd lie yn ystod hanneri blwyddyn, a daroganai rhywrai fod Cymru wedi newid ei syniad ynghylch y ffordd briodol i wrthwynebu y Ddeddf Addysg. Rhaid i ny ddweyd nad oedd dim arwyddion o hynny yn Bala. Yn hytrach fel arall. Daeth tua saith carit o gynrychiolwyr ynghyd o bob cwrr o'r Dywysogaeth, yn aelodau seneddol, pregethwyr, masnachwyr, amaethwyr, athrawon, chwarelwyr, a glowyr. Nodweddid yr holl weithrediadau 'gan yr unfrydedd a'r brwdfrydedd mwyaf. Dadganwyd ymlyniad diysgog wrth y polisi a fabwysiadwyd yng Nghaerdydd, a phenderfyniad i estyn pob cynorthwy i Sir Feirionydd yn ei gwrthsafiad yn erbyn .anghyfiawnder y Ddeddf yn gystal ag yn erbyn Deddf Gorthrech. Pen- derfynwyd hefyd fod trefniadau i gael eu gwneyd i dynu plant yr Ymneillduvvyr allan o'r ysgolion enwadol ym mhob man ym Meirionydd. Hysbyswyd fod yn y sir 24 o'r cyfryw ysgolion, a bod o leiaf un rhan o dair o'r plant a'u mynychant yn Ymneillduwvr. Bwriedir eu cymeryd i ysgolion y Cyngor ym mhob plwyf lie y mae ysgolion felly, a lie nad oes agorir ysgolion arbenig ar eu cyfer.