Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. YR ARLUNFA GENEDLAETHOL.—Yn ol barn y criticyddion, nid yw'r darluniau a ddangosir yn y Royal Academy eleni yn rhagori mewn un modd ar yr arddangosfeydd a gaed yn y blynyddoedd diweddaf. Mewn gair, cyffredin iawn yw'r safon eleni. GWRTHOD GWAITH CYMRo.-Mae un cerf- lunydd ieuanc o Gymro yn Bryste wedi derbyn enwogrwydd trwy i'w waith gael ei wrthod gan y beirniaid. Mae'r gerfddelw a anfonodd i fewn wedi cael croesaw cynes yn y New Gallery; a hysbysir fod camwri mawr wedi ei wneyd. Fel pob hen sefydliad, y mae perygl i'r Academy ddirywio drwy ei cheidwadaeth. CINIO'R MEDDYGON.—Y llynedd sefydlodd y meddygon Cymreig fath o gyfarfyddiad blyn- yddol drwy gael cinio mawr yn un o'n prif westdai. Trodd y gwaith allan mor llwyddianus fel y trefnir i gael y wledd eleni eto, a chynhelir hi ar y igeg o'r mis yn y Great Central Hotel, Marylebone. Mae nifer luosog wedi addaw cydgwrdd, a daw rhai o wyr blaenaf yr urdd yno am y noson. GWELL T A I.-Gwyr y Llundeinwyr yn dda gymaint mae'r Dr. D. L. Thomas wedi ei wneyd yn ddiweddar tuag at wella cyflwr iechydol Stepney, a gwelwn yn awr fod ei frawd —y Dr. D. J. Thomas —yr xhwn yw Swyddog Iechyd dros ranbarth Merthyr, yn condemnio y tai afiach sydd yn ardaloedd Merthyr a Dowlais. Wrth weled y fath gytiau yn cael eu defnyddio fel aneddleoedd yn ardaloedd y gweithfeyddd y mae'n syndod fod y bobl yn cael cystal iechyd. GWERTH Y DAFARN.—Yr unig adeiladau iachus mewn llawer i ardal yng Nghymru fel yn y dwyreinbarth o Lundain yw'r Dafarn. Gorfodir i'r rhai hyn gael eu cynllunio ar safonau iachusol i raddau, a'r canlyniad yw fod y bobl yn tyrru iddynt er mwyn cysur ac iechyd. Gwaith mawr y dyfodol fydd codi preswylfeydd a neu- addau a wrthweithiant ddylanwad y Dafarn, ond nid drwy areithiau dirwestol y gwneir hynny. GWELLA LLUNDAIN.-Graddol iawn y mae Llundain hefyd yn gwella cyflwr ei phreswyl- feydd. Mae'r tirfeddianwr yn ormod ei dra- chwant i ganiatau cyfnewidiadau, ac mae'r prydlesoedd mor gwta fel nad oes wiw disgwyl i'r man dyddynwyr i wastraffu eu hennillion ar gyfnewid y tai, fel nad oes dim am dani ond creu plaid gref yn Nhy'r Cyffredin a fyn well- iantau yn y cyfeiriadau hyn. Hyd yn awr y mae pob gwelliant a geir o Dy'r Cyffredin yn cyfoethogi mwy o'r cyfoethog nag yw o fen- dithio'r tylawd. I'R PRIF-FFYRDD A'R CAEAU.—Mae rhai o'r arweinwyr ymneillduol yn credu mai eu dyled- swydd o'r diwedd yw myned a'r efengyl allan i'r heolydd, gan nad yw'r cynulliadau yn cynyddu yn yr eglwysi ar waetha'r cenhadaethau diwyg- iadol a gynhelir yn ein mysg y misoedd hyn. Gwaith mawr, ond gwaith graddol, fydd ennill Llundain i Grist, a'r unig ffordd yw drwy i'r eglwysi oil uno a myned a'r efengyl ar ol y rhai sydd yn ei gwrthod ar y cynygion presenol. CHWAER SYR GEORGE.—Yr wythnos ddi- weddaf bu farw chwaer i'r diweddar Syr George Osborne Morgan. Preswyliai Miss Harriet E. Morgan yn Kensington ers blynyddau lawer, ac yn yr adeg yr oedd ei brawd yn aelod Seneddol gwelid hi mewn ami i gynulliad cymdeithasol Cymreig gydag ef. Yr oedd yn hoffus iawn o'r Cymry, a gwnai lawer dros hyrwyddo mudiadau daionus yr Hen Wlad. DUFF STREET, POPLAR.- Y mae yr Adfywiad yn myned ar gynnydd yma. Ceir cyfarfodydd bendigedig, tadau a mamau a meibion a merched yn gweddio ac yn tynu wrth raffau yr addewidion nes cael cawodau o fendithion i lawr. Cafwyd cyfarfod y cofir yn hir am dano nos Lun diweddaf. Does dim amheuaeth nad yw Cymanfa y Pasc wedi cyneu rhagor o dan yn y ddinas. Cerdd yn mlaen, nefol dan, cymer o honom feddiant glan." MEWN colofn arall gwelir hysbysiad yn galw sylw at oriaduron, gemau, &c., y Meistri Bowman a'u Cwmni. Mae y masnachwyr cyfrifol hyn yn dra adnabyddus i liaws o Gymry Llundain yn barod, a diau y byddant yn adnabyddus i lawer rhagor o hyn allan. FEL y gwelir oddiwrth hysbysiad mewn colofn arall, bwriedir cynal cyfres o wasan- aethau diwygiadol a chenhadol yn Eglwys Dewi Sant, Paddington, y Sul nesaf, pryd y pregethir gan y Parch. J. Martin Griffiths, Llansamlet, gynt o Aberaeron a Llanfihanghel. Deallwn fod yn mwriad Mr. Griffiths i'r gwasanaethau fod ar linellau y Diwygiad, a diau y ceir gweinidogaeth rymus ganddo, a bydd yn gaff- aeliad i Gymry Llundain gael gwrando gwr ag sydd yn llawn o'r tan diwygiadol—y tan sydd yn cyneu ac yn dal i ledaenu dros ein gwlad. Prydnawn Sul hefyd bydd yr emynau a'r Litani yn cael eu canu yn Gymraeg, a cheir preget h yn Saesneg gan un o brif enwogion y pulpud Seisnig, sef y Canon Hensley Henson, Ficer St. Margaret's, Westminster, a diau y ceir arlwy fras o wirioneddau gwerth eu gwrando ganddo. Caed cychwyniad da i'r Diwygiad yn Dewi Sant nos Sul diweddaf, a mawr hyderwn y bydd ffrwyth toreithiog yn dilyn ymdrechion y cen- hadon a ddisgwylir i bregethu. Parheir hefyd y gwasanaethau y Sul dilynol, manylion o ba rai a ymddengys yr wythnos nesaf.—J. W. CYMANFA GERDDOROL UNDEB YSGOLION ANNIBYNWYR CYMREIG LLUNDAIN. — Cyn- haliwyd yr uchod dydd Gwener y Groglith yn y Tabernacl, King's Cross. Cyfarfod y plant am 3 o'r gloch, o dan lywyddiaeth Mr. G. Jenkins, Brixton. Canwyd nifer o donau o Ganiedydd yr Ysgol Sul," o dan arweiniad galluog Mr. Harry Evans, Dowlais. Cyfeiliwyd gan Miss Jennie Jones, Boro', ac arholwyd y plant gan y Parch. E. Owen, B.A., Barrett's Grove. Gwobrwywyd y goreuon o'r gwahanol ysgolion. Gresyn fod mor ychydig o'r plant wedi cystadlu eleni. Dylasai fod mwy o un o'r ysgolion nag oedd o'r holl Undeb. Yr oedd cyfarfod yr hwyr o dan lywyddiaeth y Parch. E. Owen, B.A., Barrett's Grove, a than arweiniad poblog- aidd Mr. Harry Evans. Chwareuwyd yr organ yn fedrus gan Mr. Merlin Morgan, a chyn- orthwywyd gan nifer o offerynwyr. Cafwyd cymanfa nad anghofir yn fuan. Cafwyd hwyl neillduol gyda Bethesda," Henryd," Tref- hedyn," "Moab," a "Dies Irae" o'r Can- iedydd," a "Cartrefle," ton o waith yr arweinydd talentog. Dyblwyd a threblwyd hwynt drosodd a throsodd, a chanwyd "Moab" ddwywaith. Canwyd y corgan Froyte, ynghyd a dwy anthem, Pwy yw y rhai hyn ?" a Mi a orweddaf i lawr mewn hedd." Byddai yn welliant mawr i gael yr anthemau yn Llyfr y Gymanfa. Ceid canu llawer gwell a mwy cyffredinol arnynt, gan mai ychydig sydd yn dod a'r Caniedydd" gyda hwynt. Byddai hefyd yn welliant mawr i gael tocynau i'r can- torion, er mwyn eu cael gyda'u gilydd ar y gallery. Cafwyd anerchiadau yn ystod y cyfarfod gan y llywydd a'r Parch. J. Machreth Rees. Yr oedd hon yn un o'r cymanfaoedd goreu gafwyd yn Llundain, yr hyn a ddis- gwyliem, gan fod un sydd trwy gydsyniad cyffredinol wedi cyrhaedd y safle anrhydeddus o brif arweinydd Cymru yn arwain. Teimlir hefyd yn ddyledus iawn i'r is-arweinydd, Mr. Arthian Davies, Radnor Street, am ei waith rhagorol yn parotoi y cantorion y naill flwyddyn ar ol y llall, ac hefyd i'r ysgrifenydd, Mr. T. Davies, sydd yn gwneyd ei waith mor clda ar hyd y blynyddau. Gobeithiwn y bydd y gymanfa hon yn foddion i wella a dyrchafu caniadaeth y Cysegr.-MEIRIONFAB. CITY ROAD.—"Cartref oddi Cartref" y gelwid gwledd olaf cyfres y coffee suppers gyn- haliwyd yn y lie uchod brydnawn a nos Lun y Pasc, a chyda llawer o briodoldeb y gellid ei alw felly, am ei fod yn gyfleustra rhagorol i bobl ieuainc a chanol oed y ddinas i ddyfod ynghyd i gael gwledd ac ymgom ar faterion eu cenedl, eu gwlad, a'u crefydd. Rhoddir cyfleustra iddynt hefyd i ganu ac adrodd, a chystadlu, &c., ond na feddylied neb nad oes yma ddim yn cael ei wneyd ond gwledda a chanu. 0, na, y mae yma gyfranu hefyd, fel y gellir dweyd ein bod wedi sylweddoli yn agos i Z60 yn ystod y tymor tuagat anghenion yr achos. Ofnid gan rai na fyddai yr anturiaeth ddiweddaf yn troi yn llwyddiant, am fod cynifer o'r bobl allan o'r ddinas ar ddydd Gwyl y Bane. Siriolwyd y swyddogion yn fawr pan welwyd y fath dorf wedi dod ynghyd, a chredwn fod pawb wedi cael eu llwyr foddloni yn y wledd ac yn y cyngherdd. Cymerwyd y gadair gan Mr. Horace W. Davies, a gwnaeth ei waith yn rhagorol Cyfeiliwyd gan Miss Deborah Rees, R.C.M. Gwyr Cymry Llundain erbyn hyn am fedrusrwydd y ferch ieuanc hon gyda'r berdoneg. Yr oedd Mri. David Evans, R.A.M., A. Medicus, R.A.M., a Maldwyn Evans yn canu, ac mae enwi y rhai hyn yn brawf i bawb sydd yn eu hadnabod ein bod wedi cael canu da. Cymerwyd rhan hefyd gan Miss Ida Kahn, R.A.M., a Miss Maggie Isaac, am y tro cyntaf ar lwyfan City Road, a cha'nt groesaw eto yn sicr. Cafwyd cystadlu da ar y ddwy unawd, "Lead, Kindly Light" (i unrhyw lais), a "Awake, beloved" (i denor). Daeth nifer ymlaen i gystadlu am y wobr o ddwy gini. Gwobrwywyd Mr. Perkins, Caerphili, am y blaenaf, a Mr. Maldwyn Evans am yr olaf. Y beirniad oedd Mr. Munro Davidson, F.R.C.O. Cyflwynwyd diolchgarwch gwresog i Mri. Ebenezer Hughes ac Eddie Evans am eu gwasanaeth gwerthfawr drwy y tymhor. ac hefyd i'r Cadeirydd yn ogystal ag i'r cantorion a'r cantoresau a roddasant gymhorth mor sylweddol i gadw i fyny ddyddordeb y cyfarfodydd trwy y tymhor. Gwnaed hyn gan y Parch. Thomas Jones, ac eiliwyd gan Mr. Richard Morgan, Westminster. Ar ol i Mr. Hughes a'r Cadeirydd gael cyfle i gydnabod y diolch, terfynwyd cyfarfod olaf y tymhor gyda "Hen Wlad fy Nhadau." We notice by our advertisement columns that Mr. R. J. Lloyd, of Aberayron and Swansea, who is known to many London Welshmen, has retired from his practice as solicitor at Swansea, and has opened an office as estate and com- mercial agent in London. We have no doubt but that Mr. Lloyd, with his great experience of the law and of business matters generally, and his well known ability, will have a very success- ful career in London. Mr. H. G. Griffiths, Bristol Gardens, addressed a crowded meeting at the Orange Street English Congregational Church, St. Martin's Street, Leicester Square, on Thursday evening, the 27th inst., on the Welsh Revival. At intervals several hymns were sung, including "Jesu, lover of my soul," to the well known Welsh tune "Aberystwyth," which was sung with great enthusiasm.

Advertising

[No title]