Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

---Y Sais.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Sais. Nid yw y Sais yn hollol ddiystyr o'r rhai a'i haadolant ac a offrymant iddo. Yr amod yw ymostwng yn llwyr a chydnabod ei benarglwydd- iaeth a'i fawredd. Gair pwysig yng ngeiriadur y Sais yw suzerainty. Er fod ei ddigoiaint fel tan ysol, gall y duw safnrwth hwn fod yn eitha haelfrydig wrth y rhai a benliniant ger ei fron ac a ufuddhant i'w orchymynion. Gwelwyd et yn ddigon rhydd ei galon, ar brydiau, i ddych- welyd rhan o'r offrwm a roddwyd iddo. Cyfrifir hyn yn haelioni ynddo gan ei wenieithwyr ac y maent hwy yn llu afrifed. Bron na ddywedwn mai hwn yw y mwyaf rhagrithiol yn mysg )r eilun-dduwiau ond y mae ef yn rhy bendew i wybod hynny. Cyflym odiaeth yw i ddarganfod brycheuyn yn llygad ei gymydog, ond ni wel byth mo'r trawst yn ei lygad ei hun. Onid efe yw y bod hunan-gyfiawn nad yw yn blino ar ddinoetni anudoniaeth yn y llysoedd yng Nghymru? Ond nid yw erioed wedi plymio eigion celwydd ei lysoedd ei hun. Nid yw wedi mesur y twyll sydd yn pydru ei fasnach, na'r aniweirdeb sydd yn edwino ei ddinasoedd, na'r ffieiddiwch sydd yn gwisgo'r enw ffasiwn yng nghylchoedd uchaf ei gymdeithas. Yr hyn a ystyria yn wladgarwch ynddo ei hun, trachwant a haerllugrwydd yw ym mhob cenedlddyn arall. Pan osododd ei fryd ar feddianu gwlad eang a chyfoethog y Boer, dywedai mai dyled- swydd a dyngarwch oedd yn ei symbylu. Pan ysbeiliodd yr Aipht oddiar yr Aiphtiaid, honnai mai cariad at drefn ac iawn-lywodraeth oedd y peth mwyaf yn ei olwg ond pan wel y "Russian Bear" yn dylyfu ei weflau uwchben Manchuria a Korea, gwaedda "Lleidr" nerth esgyrn ei ben. Pregethodd lawer wrth y Germaniaid a'r Rwssiaid am orthrymu'r Pol; ond ni weles fai arno ei hun am sarnu ar iawnderau y Gwyddel a'r Cymro a diystyru pobpeth sydd anwyl gan- ddynt. Dyma ddywed John Morley yn ei Life of Gladstone," am ymddygiad y Sais tuagat China yn 1840:- "British subjects insisted on smuggling opium into China in the teeth of Chinese law. The British agent on the spot began war against China for protecting herself against these malpractices. China was compelled to open four ports, to cede Hong Kong, and to pay an indemnity of six hundred thousand pounds. So true is it that statefmen have no concern with pater nosters, the Sermon on the Mount, or the vade mecum of the moralist. Dyma syniad y Sais am onestrwydd a chyfiawn- der. Dechreua ei foesgarwch pan lesteirir ei raib. Ni fedd ronyn o barch at deimladau pobl ereill. Lle bynag yr elo, disgwylia i bawb gyfaddasu eu hunain i'w arferion a'i fympwyon ef, heb ystyried am foment fod i bob cenedl ei neillduolion ei hun. Nid oes fawr ddim yn fwy atgas ganddo na'r iaith Gymraeg. Mae ei chyndynrwydd i fyw yn ddolur i'w falchder mae ei seiniau yn flinder i'w glust. Yn ei gylchgronau a'i bapyrau fe geir am bell sylw ar len-gwerin Ynysoedd Mor y De; ond nid eddyf fod y fath beth yn bod a Llenyddiaeth Gym- raeg. Serch ei fod yn hollol anwybodus o'n hiaith, ni phetrusa ddatgan mai pethau barbar- aidd yw cynyrchion ein hawduron goreu. Eto i gyd, dyma'r duw sydd fwyaf ei rwysg yn mysg holl eilun-dduwiau Cymru. Dywedaf eto mai ffaith ryfedd iawn yw hon yn ein hanes. Paham y gwnawn greadur mor drahaus, mor dra- chwantus, ac mor hurt, a "John Bull" yn wrthrych addoliad, sydd fwy nag allaf ei esbonio. Paham y rhoddwn weniaith am sarhad a siriol- deb am sen, sydd annodd i feddwl dynol ei ddirnad. Cablwn ef yn ei gefn; ond tynwn ein hetiau yn ei wyddfod. Gelwir y math hwn o eilun-addoliad yn Ddic Sion Dafyddiaeth." Y mae wedi mynd yn glwy cenedlaethol. Sudd- odd i gyfansoddiad yr Eisteddfod er's llawer dydd. Os byddwch yn aelod o'r pwyllgor llenyddol fo'n dewis testynau a phenodi beirn- iaid, wiw i chwi siarad Cymraeg na bydd rhywun yn eich cornio yn ebrwydd. Pan ddelo gwyr o wledydd tramor i'r wyl, gan ddisgwyl clywed araeth Gymraeg, fe gant eu siomi, achos Saeson neu Ddic Sion Dafyddion mingam fydd y llywyddion yn fwyaf cyffredin. Caneuon Seisnig hefyd genir bron yn ddieithriad yn y cyngherddau. Ceir ambell i gan Gymraeg, hwyrach, fel tamaid o encore a thyna'r cwbl. Yn Eisteddfod Llanelli fe godwyd cor i ddat- ganu Cantata Dewi Sant," gwaith Mr. D. Jenkins ond nid oedd y Gymraeg yn ddigon respectable,"—bu raid canu yn Saesneg. Druan o hen nawddsant Cymru n;d oedd neb yn ei adnabod mewn "evening dress." Saesneg, eto, yw y ffasiwn yn ein capelau,- fel y gwyddys yn dda ddigon yn Llundain yma. Fe wna'r Gymraeg y tro i'r bregeth, a'r weddi, a'r. emyn; ond gynted ag y bydd yr oedfa drosodd, How a-r-r youV glywir ar bob Ilaw. Mae y chwiw anwladgar hon wedi gafael hyd yn oed yn y cymdeithasau llenyddol a chenedlaethol. A welodd neb erioed olygfa ryfeddach na'r Conversazione Cymreig ? Y fath fursendod, y fath rodres, y fath ragrith! Pawb eisieu gwadu'r Gymraeg cyn hanner dysgu Saesneg. Ni fynwn fod yn Gymry, nis gallwn fod yn Saeson. A'r gwaethaf yw, gwneir y cwbl yn enw gwladgarwch. Yr ydym i gyd yn euog o'r gwrthuni hwn: nis gall neb ohonom daflu carreg at y llall. Dro yn ol, derbyniais gerdyn yn fy ngwahodd i rywbeth a elwid "inaugural meeting." Parodd dipyn o benbleth i mi; a holais gyfaill mwy cyfarwydd mewn pethau o'r fath na mi fy hun, beth allai fod. Ond Cwrdd Cychwynol y Cymru Fydd," atebodd yntau. "Paham y mae y gwahoddiad yn Saesneg?" holais wedyn. Nid Saesneg mono," ebai fy nghyfaill, eithr Cymraeg y Cymru Fydd. O'r Geninen am Ebrill.

"Y GENINEN" AM EBRILL.

Gohebiaethau.

CHWEDL AM HARRI'R WYTHFED.

Advertising