Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Byd y Gan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Byd y Gan. [Gan IDRIS.} YNG nghorff y dyddiau diweddaf yma y mae cerddoriaeth wedi bod ar ei huchelfannau ym mhob parth bron, ac y mae hyn yn profi fod y gelfyddyd ardderchog hon yn gwneyd i fyny ran helaeth o fywyd dynolryw drwy bedwar ban y byd. A'r hyn sydd yn ein cysuro yn fwy na dim yw fod yr arwyddion yn argoeli diwylliant yn gymaint a bod yr emyn cysegredig yn cael ei werthfawrogi i'r un graddau a'r opera wychaf a feddir. Yn ystod nosweithiau yr wythnos ceir prif gantorion y wlad, ie, y byd, yn canu yn felodaidd ar lwyfan yr opera ac yn cael eu talu Wrth y ca.inoedd o bunnau am hynny. Ond ar Y Sabboth gwelir rhai o honynt yn yr addoldai yn rhoddi eu gwasanaeth o lwyrfryd calon, ac megis yn "pyncio drwy ras." Dyna ydoedd hanes rhai o honynt y Sul diweddaf, a hoffem weled cantorion yr Hen Wlad yn dilyn esiampl y cewri yn hyn o beth. Y MAE y Music Halls, fel y rhagfynegwyd genym ychydig wythnosau yn ol, yn dechreu gwisgo gwedd mwy dyrchafedig. Beth amser yn ol ysgrifenodd boneddiges i'r Daily News ar y pwnc hwn gan daflu awgrymiadau drwy ba rai y gallesid ymddyrchafu ton y neuaddau cerddorol hyn, a thrwy hynny godi safon y cy- hoedd yn Llundain. Y canlyniad fu, pan drowyd hen chwareudy Syr Henry Irving (y Lyceum) yn Neuadd Gerddorol, i'r rheolwyr weled y gallasent fanteisio ar awgrymiadau y foneddiges dan sylw; ac agorasant y neuadd gyda rhaglen amrywiaethol gan roddi lie eang i gerddoriaeth ddyrchafedig. Sicrhawyd ganddynt enwogion cerddorol i gyflwyno un scene allan o opera bob nos, a chyflogwyd rhai Cymry hefyd i ganu triawdau a phedrodau, &c. TRODD yr anturiaeth hon allan y fath lwydd- iant yn y Lyceum fel y bu yn foddion i symbylu rheolwyr y Coliseum i fabwysiadu yr un cynllun a hynny gyda llwyddiant mawr. Ond y mae Perchenogion y lie hwn wedi myned gam ym ttihellach. Nid yn unig ceir ganddynt scene operataidd bob nos, eithr hefyd ceir canu cor- awl. Yno clywsom gor yn canu canigau a chyd- ganau. Yr oedd y ganig yn gyffredin yn y Neuaddau Cerddorol flynyddoedd yn ol, ac yn s!c.r bydd holl garwyr cerddoriaeth dda yn ym- sirioli wrth weled y gobaith lleiaf am adfywiad yn hanes y ganig swynol. CANU aruchel gafwyd yng nghyfarfodydd y Diwygiad yng Nghapel Charing Cross yr wyth- nos ddiweddaf. Anhawdd ydyw desgrifio canu 0 r natur yma. Diau y dywedai rhai mai canu yn ddeallus ydoedd, eraill a ddywedent canu ysbrydoledig, ac hwyrach y galwai rhai ef yn ganu nefolaidd. Ond credwn ni mai canu ydoedd yn cynwys yr holl bethau hyn wedi ymgorphori yn eu gilydd. Y mae cymaint wedi ei ddweyd yn ddiweddar am ganu y Diwygiad tel mai afraid ydyw ychwanegu dim yn y fan ynia rhagor na nodi fod rhyw nerth an- rhaethol ynddo. Fel y dywedasom o'r blaen, telyn ydyw yn nwylaw Duw. SONIASOM am y derbyniad gwresog roddwyd 1 Miss Gertrude Hughes yng Nghymru y dydd, Or blaen ym mherfformiad yr "Elijah." Fel yn y sieryd un newyddiadur am dam :—" Miss ertrude Hughes was responsible for the soprano Portion of the work and well did she execute that responsibility. It is very rarely that the soprano solo music is rendered so Effectively as was the case when Miss Hughes once more rnade her appearance before a Ruthin audience, fier singing was all that could be desired and er brilliant voice, intelligent conception and ramatIc instinct were prominent features of her remarkable capabilities. She was heard to Jr^y great advantage in What have I to do with nee,' an(j achieved a great triumph by her j rarna!-jp and beautiful rendering of Hear ye, DAN arweiniad Dr. Cowen, fel yr hysbyswyd yn flaenorol, chwareuwyd "Welsh Rhapsody" ein cydwladwr Mr. Edward German, yn y Queen's Hall, yr wythnos ddiweddaf. Dyddorol ydoedd darllen barn yr uwchfeirniaid yn y gwa- hanol newyddiaduron boreu dranoeth. Nid oedd gan yr un o honynt eiriau celyd i'w datgan, ond yr oedd gan lawer o honynt eiriau edmygol. Fel hyn y rhoddai "Lancelot" ddatganiad i'w deimladau yn y Referee The concert opened with a spirited rendering of Mr. Edward German's inspiring I Welsh Rhapsody' that made one feel with the poet, 'Life is real, life is earnest. Ar derfyn y chwareuad galwyd ein cydwladwr i'r llwyfan, a rhoddwyd iddo dder- byniad tywysogaidd. YR un noson yn neuadd fechan y Queen's Hall yr oedd cyngherdd arall yn myned ymlaen gan ein cydwladwr Mr. Vincent Davies, organ- ydd Eglwys Dewi Sant, Paddington. Yr oedd Mr. Davies wedi sicrhau nifer o gantorion pob- logaidd i gymeryd rhan, a deallwn iddynt roddi gwledd gerddorol i'r gwrandawyr. Hyderwn ddarfod i'r anturiaeth droi allan yn llwyddiant arianol yn ogystal a cherddorol. CYNHALIWYD cyngherdd urddasol yn yr Albert Hall y noson o'r blaen, er budd Clwb yr Union Jack, pryd yr oedd yn bresenol y Brenin, Tywysog Cymry, a llu o fawrion y wlad. Ym mysg y rhai a gymerasant ran yr oedd Madame Melba a Mr. Ben Davies. Hwn ydoedd ymddangosiad cyntaf y prima donna" yn Lloegr y tymhor hwn, a chaed ganddi ddadganiadau hynod fedrus a swynol. Canodd ein prif denorydd, yn ei hwyliau goreu, Onaway, awake beloved" (Coleridge Taylor), a In Sympathy (Leoni), ac mewn atebiad i ail-alwad canwyd ganddo yn swynol Songs of Araby." Y mae Mr. Davies yn dal i gadw enw ei wlad i fyny, drwy gadw ei le ar binacl y llwyfan cerddorol. WRTH son am Onaway, awake, beloved," nid anyddorol, feallai, i Gymry ieuainc y ddinas fyddai gair bach o barth i'r gystadleuaeth a ^ymerodd le yn ddiweddar mewn cysylltiad a Chapel y Wesleyaid Cymreig yn City Road, ar yr unawd hon. Fel y gwyddis, hi ydoedd testyn y gystadleuaeth i denoriaid yn Eisteddfod yr Albert Hall ychydig amser yn ol; ac fel y cofir, oherwydd prinder amser nid ymddangosodd ar y llwyfan y rhai a ddewiswyd i gystadlu, ond daeth un o honynt, sef Mr. Harding, i City Road. Yr oedd tri yn cystadlu, dau Gymro ac yntau, a chredwn na fu mwy o frwd- frydedd erioed hyd yn oed ynglyn a'r campau Olympaidd ag ydoedd gyda'r tri wyr hyn. Hen arwr ym mysg bechgyn Llundain aeth a'r gamp, sef Mr. Maldwyn Evans (Chelsea Boy). Yr oedd y brwdfrydedd yn uchel hefyd yng nghys- tadleuaeth Lead, Kindly Light" pan yr ennill- wyd y wobr gan Mr. Perkins, yr hwn a roddodd i ni ddadganiad da odieithol. Y MAE'R elfen eisteddfodol yn dod yn beth cyffredin ym mysg y Saeson. Yr wythnos ddi- weddaf caed Eisteddfod Dri Diwrnod ynglyn a siroedd Berks, Bucks ac Oxford, pryd y cawd cystadleuaethau corawl ac unawdol rhagorol. Terfynwyd yr wyl nos Sadwrn siyda chyngherdd ym mha un y cymerodd y corau unedig ran dan arweiniad Dr. C. Lloyd. Y MAE Mr. D. O. Evans, blaenor a chodwr canu yng Nghapel Beauchamp Road, Clapham Junction, yn symud yr wythnos hon i fyw yn Berkhampstead. Deallwn ei fod wedi cael ei apwyntio i swydd bwysig dan y Llyw- odraeth. Bydd ymadawiad Mr. Evans yn golled i'r Eglwys yn Beauchamp Road, ym mha le y llafuriodd lawer ynglyn a chaniadaeth y cyssegr, ac achosion eraill. NID yn ami iawn y dyddiau hyn y ceir y ddau Gymro cerddgar, Mri. Ben a Ffrangcon Davies, ar yr un llwyfan oddigerth mewn gwyliau cerddorol. Ond caed y ddau gyda'u gilydd ddydd Sadwrn diweddaf mewn cyngherdd priod- asol yn y Caxton Hall. Yr oedd amryw eraill yn cymeryd rhan, ond y ddau Gymro a Madame Sobrino oeddynt arwyr y cyngherdd. 0 CYMER y British Festival le. yn y Palas Grisial ar y 24ain o'r mis nesaf (ddydd Sadwrn) dan arweiniad Dr. Cowen. Cynwysa y rhaglen y darnau canlynol Blest Pair of Sirens (Syr Hubert Parry), Wedding Feast" (Coleridge Taylor), Old English Dances (Dr. Cowen), "Tarantelle" (Edward German), dernyn allan o King Olaf" (Syr Edward Elgar), a chaneuon allan o "Ivanhoe" (Sullivan). Yr enwogion canlynol fyddant yr unawdwyr :-Madame Agnes Nicholls, Madame Clara Butt, Madame Ada Crossley, a'r Mri. Ben Davies, Kennerley Rumford a Andrew Black. Dyma wledd gerdd- orol yn ein haros, a chan mai ar ddydd Sadwrn y'i cynhelir, diau yr aiff lliaws o'n cydwladwyr yno i glywed y gerddoriaeth uchod. CAFODD pobl ardal East Ham eu swyno gymaint yn y ddarlith a roddwyd yn Neuadd Drefol y rhanbarth gan y Cymro, Mr. Lloyd Edwards, ar Alawon Cymreig," fel y mae cais cyffredinol wedi ei wneyd ar iddo roddi ail-ad- roddiad o honi. Y mae yntau wedi cydsynio i wneyd hynny ar y 25am o'r mis hwn, ac er mwyn portreadu yr hen alawon yn ymarferol y mae'r darlithydd wedi sicrhau. yr unawdwyr canlynol i'w gynorthwyo :-Miss Maggie Evans, Miss Maggie Ellis, Mr. J. D. Evans a Mr. Dan Evans. Mae'n rhaid fod rhywbeth yn yr hen alawon swynol, os ydynt yn ennill serch y Saeson fel hyn Cawn glywed dwy o'r gemau hyn ar lwyfan yr opera yn fuan. Beth ddywed y Die Shon Dafyddion cerddorol am hyn tybed GWELSOM, y noson o'r blaen, Dr. Joachim, y crythor enwocaf yn y byd. Y mae golwg dda arno, ac y mae yn mwynhau ei ymweliad blyn- yddol a Llundain yn fawr. Yr oedd Arglwydd Farnwr Lloegr, un o edmygwyr puraf y crythor, yng nghyngherdd Pedwarawd Joachim y dydd o'r blaen. Dywed un gohebydd fod gwahan- iaeth mawr rhwng y Joachim a baentiwyd gan G. F. Watts flynyddoedd yn ol a'r hwn a geir mewn darlun gan S. Sargent, ond nid oes cym- aint o wahaniaeth rhwng ei alluoedd fel crythor yn awr i'r hyn ydoedd yr adeg hono. FEL hyn y siaradai Carmen Sylva, Brenhines farddonol Roumania, y dydd o'r blaen:- "Where speech ceases, there music begins. There are limits set to speech, while music spreads itself out in all directions, attaining to boundless heights and depths, and raising the weary soul on its strong pinions. There is perhaps no loftier mood than this, when thought comes to a standstill, and the soul, leaving the brain at rest, is free to soar alone." WRTH son am Opera Eidalaidd, geilw un ysgrifenydd i gof y teimlad drwg rhwng Handel a Bononcini fu'n foddion i ysbrydoli y bardd John Byrom i gyhoeddi'r rhigwm canlynol:— Some say, compared to Bononcini That Mynheer Handel's but a ninny Others say that he to Handel Is scarcely fit to hold a candle. DEALLWN fod Syr Alexander Mackenzie yn parotoi operetta o'r un hyd a The Knights of the Road," a bydd allan o'r wasg yn fuan.

Advertising