Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

UNIVERSITY COLLEGE OF NORTH…

Advertising

Notes of the Week.

Nodiadau Golygyddol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

atynt daethom i gyffyrddiad ag amryw yn ofni y dyfodol, ac o'r braidd nad oeddynt yn amhe ua fyddai effeithiau y Diwygiad mor ddaionus ag y tybid. Cydnabyddent oil fod y Deffroad wedi bod o fendith dirfawr. Ond dywedent fod y misoedd er dechreu y gauaf wedi bod yn fisoedd dilafur a diwaith bron ym mhob man. Rhodd- wyd cyfarfodydd darllen a chyfarfodydd diwylliadol heibio yn Ilwyr, ac ni welent nemawr arwyddion eu bod i gael eu hail- gychwyn yn fuan, a phryderent rhag i blant y Diwygiad dyfu i fynu yn weiniaid o feddwl ond yn gryf o deimlad. Nid oes un ddadl nad yw teimlad byw, effro, angerddol yn gofyn meddwl cryf i'w reoleiddio a'i gadw dan awdurdod. Mae gorfeithriniad teimladau i'w ochelyd lawn cymaint a gorfeithriniad y deall a'r rheswm. Mae'r hwn sydd yn galon i gyd," fel Dafydd ap Gwilym, yn agored i brofedigaethau lawn cyn waethed a'r profedigaethau y syrthia yr hwn na fedd fwy o galon na phaladr ia iddynt. A thra na fynem ysgrifenu hanner gair a allai roddi achlysur i neb iselu cyfarfod gweddi a chanu mawl, dylid cofio mai moddion ac nid amcan ydyw. Mae iachawdwriaeth yn golygu diwylliant a dadblygiad yr holl ddyn ym mhob cyfeiriad dichonadwy. A dynoliaeth wedi ei thyneru a'i nawseiddio yn nhan y Diwygiad yw yr hawsaf i'w diwyllio. Nid ar eglwysi Cymru yn unig y gorphwys y cyfrifoldeb y cyfeiriwn ato. Mae yn llawn cymaint o gyfrifoldeb ar eglwysi Cymreig Llun- dain. Ychydig ryfeddol sydd yma 0 leoedd dibrofedigaeth i'r rhai y gall pobl ieuainc droi i mewn yn eu horiau hamddenol. Mae yr ystafelloedd darllen yn y llyfrgelloedd cyhoeddus yn hynod o anghartrefol, ac, fel y dywedwyd eisoes, ni roesawant neb ond darllenwyr. Hyd yn nod pe caem sefydliad Gymreig megis Exeter Hall mewn rhyw fan canolog, byddai allan o gyrhaedd y lliaws lie bynag y'i gosodid. Dylai fod rhywfan ym mhob dosbarth o'r Brif- ddinas lie y ceir Cymry, i'r hwn y gallent droi i mewn a theimlo yn berffaith gartrefol ynddo, naill ai i ymddiddan, darllen, ysgrifenu, neu yniddifyru yn ddiniwed. Ac ni fedrwn weled fod yn bosibl darparu manau felly ond drwy i'r eglwysi gymeryd y mater i fynu o ddifrif. Na adawer i ragfarnau sefyll ar v ffordd. Yr ydym yn apelio yn arbenig at y rhai a feddant gartrefi clyd i dreulio oriau min nos ynddynt, ar iddynt beidio gwrthwynebu taflu yr ystafelloedd ynglyn a'r capelau yn agored bob nos. Mae cadw Cymry ieuainc na feddant gartrefi yn y Brif- ddinas rhag myned yn aberth i'r profedigaethau a esyd y gelyn o'u blaen yn werth rhoi heibio bob rhagfarn a phob traddodiad o eiddo y tadau 0 r neilldu er ei fwyn.