Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
WALES IN PLYMOUTH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WALES IN PLYMOUTH. The Welsh residents in Plymouth concluded their winter series of vernacular services on Sun- day evening, when the Rev. Joseph Jones, Vicar of St. Saviour's, Plymouth, preached to a con- gregation of about a hundred. The service was conducted by the Rev. Rhys Harries (Congrega- tional), once of Narberth, and a Welsh sacred solo of his own composition, entitled "Af yn Mlaen," was sung by Mr. Afanfryn Hill, a Welsh tenor, who is becoming very popular in the west -Country. The services have been held under the direction of a committee, of which the Rev. Maurice Jones, S.C.F., is chairman, and Mr. S. R. John, secretary.
ALAWON CYMRU YN LLYDAW.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ALAWON CYMRU YN LLYDAW. Dyma fel yr ysgrifena gohebydd o Lydaw attorn, ac mae ei Gymraeg yn well nag ami i nodyn a ddaw ini o ganol Cymru Gymreig :— "Cynhaliwyd yn Saint Brienc, Llydaw, gyng- herdd rhagorol, dydd Sadwrn, y chweched o'r -mis, a chwareuwyd gyda llwyddiant mawr ddetholiad o alawon Cymreig, yn enwedig Bugeilio'r Gwenith Gwyn," Dros y Gareg," £ t Llwyn Onn," a Mentra Gwen." Awdwr y detholiad oedd Mr. Bourgault Duesudray, Llydawiad, prif-athraw yn y Conservatoire National," Paris. Y mae yn fyd-enwog am ei weithiau ar gerddoriaeth Lydaweg, ac wedi dylanwadu yn fawr ar i'w gyd-wladwyr feithrin mwy ar alawon a cherddoriaeth eu gwlad. Y mae yn awr yn peri i'r Llydawiaid ymgydnabyddu ag alawon Cymru. Gobeithir y bydd hyny o ryw fantais i undeb a diwygiad y byd Celtaidd.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DAVID RICHARDS, A.R.C.O., ORGANIST OF KING'S CROSS TABERNACLE, PIANIST TO MADAME PATTI (BARONESS CEDERSTROM). Emons Given on Piatto and Organ. n For Terms apply- '8, MORNINGTON RD., RECENT'S PARK, N.W.
JIWBILI BARRETT'S GROVE, .'LLUNDAIN.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JIWBILI BARRETT'S GROVE, LLUNDAIN. I Cynhaliwyd cyfarfod jiwbili yr uchod nos lau, Mai i ieg, 1905. Sefydlwyd yr eglwys yn y Tabernacl yn Aldersgate Street, Mai iofed, 1846, gan y Parch. W. Rees (Gwilym Hiraethog) a'r Parch. D. Price, Dinbych, dau o gewri yr enwad. Yr oedd Hiraethog yn gawr y cewri. Nid oedd yr un achos Cymreig gan yr Annibynwyr cyn hyn yn y rhan ogleddol o Lun- dain yr oedd dau yr ochr ddeheuol, sef y Boro a Woolwich. Yr oedd cryn anfoddlonrwydd ymhlith y rhai oedd yn byw yr ochr ogleddol i'r afon eisieu cael cychwyn achos, ond yr oedd cryn anfoddlonrwydd i wneyd hynny. Ond rhaid i bob un teg a rhesymol gydnabod fod gwir angen gwneyd. Mae y rhai fu yn gwrth- wynebu a'r rhai a gychwynodd i gyd wedi mynd at y mwyafrif erbyn hyn, ac ni fynwn er dim ddweyd yr un gair i gymylu y teimlad rhagorol sydd rhwng yr eglwysi ar hyn o bryd. Yr oeddwn yn adnabod y rhan fwyaf o'r rhai gychwynodd yn Aldersgate, ac yr oedd amryw o honynt yn ddynion rhagorol. Fe gydnebydd pawb oedd yn adnabod Mr. Richards, Islington, ei fod yn un o'r dynion goreu yn hanes ein henwad yn Llundain, Mr. William Hughes, Rheidol Terrace, ac eraill, a bu yno rai ddaeth yn gymeriadau cenedlaethol, fel Gohebydd, Ieuan Gwynedd, a'r Prifathraw Dewi Mon, Aberhonddu. Yr enwog Caledfryn, prif feirniad barddonol ei oes, oedd y gweinidog cyntaf ar yr eglwys. Ac y mae rhai o eglwysi Llundain wedi cael prif feirdd ar hyd y blynyddoedd-yr Arch- dderwydd Hwfa Mon yn Fetter Lane, Machreth yn Radnor Street, ac yma yr ymddadblygodd ef yn brif fardd cenedlaethol, a'r bardd swynol, Elfed, yn King's Cross-Pantycelyn yr Ail. Yr ail weinidog yn Aldersgate oedd yr enwog J. R., ac yr oedd yn ei ddyddiau goreu pan yn Llundain. Yr oedd yn ddychmygwr diail "pregethwr dychmygion y galwai rhai ef; ond fel y dywedai Dr. Owen Evans yn y Dysgedydd, ers ychydig yn ol wrth son am dano, buasai llawer un yn falch o fod yn feddianol ar ei allu dychmygol. Gwnaeth J. R. waith da tra yn Aldersgate. Cliriodd ryw £ 600 o ddyled oedd ar y lie. Cychwynodd ddau achos newydd, un yn y West End (Radnor-street yn bresenol) ac un yn Poplar, ac aelodau o Aldersgate yn benaf aeth i gychwyn y ddau Ie. Yr wyf yn cofio y rhan fwyaf o honynt-Mr. a Mrs. D. Griffith, Mr. a Mrs. Wm. Rees, a'i chwiorydd, Misses Mary a Margaret Rees, Mrs Ellis, ac eraill. Maent wedi myned at y mwyafrif i gyd ond Mrs. Wm. Rees, ac y mae hithau erbyn hyn yn hen a methedig. I gychwyn Poplar aeth Mri. David a William Evans, Mr. a Mrs. Aubrey, Mr. a Mrs. Moore, Mr. Williams, ac eraill. Ond yn anffodus daeth dyn o'r enw Fairclough, a dinystriodd yr eglwys fechan yn Poplar, ac yn y cyfwng cychwynwyd yno achos gan enwad arall, ac y mae hono yn eglwys lewyrchus erbyn hyn. Yr oedd J. R. yn credu mewn cael achosion ami mewn gwahanol fanau, wedi ei fagu yn Llan- brynmair lie 'roedd ei enwog dad wedi codi ysgoldai ym mhob cwm a phentref. Cefais fy magu yn yr ardal nesaf o un cyfeiriad, yr hon oedd wedi ei meddianu bron yn llwyr gan yr Annibynwyr trwy yr un moddion. Pan ddaeth y diweddar Barch. W. Hughes i'r Dinas, yn nechreu y ganrif ddiweddaf, darfu iddo efelychu ei gymydog enwog o Lanbrynmair, ac y mae ffrwyth llafur y ddau yn aros yn yr ardaloedd hyd heddyw. Y trydydd gweinidog oedd y Parch. William Lloyd, o'r Wern cyn hynny, a Chaergybi wedi hynny. Yr oedd Mr. Lloyd yn ddyn rhagorol er nad mor boblogaidd a'r ddau fu o'i flaen. Efe oedd gweinidog yr eglwys pan ymunodd Mrs. Jones a minnau a hi ddeugain mlynedd i'r flwyddyn hon, ac nid oes ond dau enw ar lyfr yr eglwys oedd yno yr adeg honno, sef Mr. a Mrs. Samuel Evans, ac nid oes ond pump yn aelodau yn yr eglwys yn bresenol fu yn Aldersgate, sef hwy eu dau, a ninau, a Mr. Evans, Old Ford. Oherwydd hen gysylltiadau teuluaidd, bu tair chwaer i mi yn aelodau ar wahanol adegau. Yr oedd yr henaf o honynt (mam Mrs. Hugh Griffiths, Towyn) yn un o'r rhai aeth o'r Boro i gychwyn Aldersgate, felly rhaid oedd i ni fynd i berthyn i'r eglwys pan ddaethom i Lundain. Yn y flwyddyn 1870 daeth lease y capel i ben, a chan ei fod mor agos i Fetter Lane pender- fynwyd symud i rywle lie 'roedd mwy o angen am gapel Cymreig. Yr oedd rhai eisiau mynd i gyfeiriad Islington, ond y mwyafrif yn tueddu i fynd i Shoreditch, a chymerwyd goruwch- ystafell, lie y buwyd am amser, hyd y cafwyd lie mwy cyfleus yn Kingsland Road. Pan yn gadael Aldersgate chwalodd llawer o'r aelodau, rhai i bob man, aeth llawer i Fetter Lane rhifai yr eglwys dros gant, ond nid aeth ond deuddeg- ar-hugain i gychwyn yn Hackney Road. Wedi bod am bymtheg mlynedd heb gapel a gweinidog, yn y flwyddyn 1884 sicrhawyd y tir yn Barrett's Grove am £525. Gwerthwyd rhan o hono yn y cefn am £15°' Cafwyd amryw tenders, a derbyniwyd yr isaf am Z2,200, Mri. Roberts, Rheidol Terrace, a rhoddasant waith rhagorol, medd rhai cyfarwydd ac adeiladu. Agorwyd yr Ysgoldy y Sul cyntaf yn Hydref. Pregethwyd yn yr agoriad gan y Parch. D. Jones, B.A., Abertawe a'r Sul cyntaf yn 1885 agorwyd y Capel, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. D. M. Jenkins, Lerpwl, a chynhaliwyd cyfarfodydd am ryw dair wythnos. Cymerwyd rhan gan Dr. Rees, Abertawe, Parch. J. Miles, Aberystwyth, ac eraill. Cychwynodd y lie yn bur addawol, ond yn anffodus daeth helynt blin Coleg y Bala i'w plith fel enwad, a rhanodd lawer o eglwysi fel Barrett's Grove. Bu rhai o honom yn gwneyd ein goreu i'w gadw allan, ac eisiau i bawb gyfranu i'r blaid yr oeddynt yn credu ynddi, ond fel arall y bu. Ni hoffwn ddweyd dim yn galed am y cyfeillion, mae y rhan fwyaf o honynt erbyn hyn yn gorwedd yn dawel yn mhriddellau'r dyffryn, ond rhoddasant lawer o boen a gofid i'r rhai hynny yr oedd cyfrifoldeb y lie arnynt. Mae dau o'r rhai hynny wedi mynd, sef Mri. Griffiths, Lenhall Road, a T. Jones, Tudor House. Mae tri wedi cael byw i wel'd y Jiwbili—Mri. S. D. Evans, R. P. Evans, Old Ford, a minau. Yr oedd y ddyled fawr ynghyd a'r llogau yn pwyso yn drwm arnom. Yr oedd y ddyled yn y dechreu yn £3,7°°, a thalwyd heblaw hyny ryw £1,5°0 o logau, yr oedd y llog yn unig y flwyddyn gyntaf yn £14°, a bu dros Zioo am flynyddau, ac oni buasai am y cannoedd ennillodd y cor am ryw 12 mlynedd, bron yr holl wobrau a roddwyd mewn eistedd- fodau yn ystod yr amser, ynghyda charedigrwydd cyfeillion tu allan, ni fuasem wedi gallu cyfarfod y gofynion. Pan yn adeiladu y capel cafwyd organ,-y gyntaf mewn capel Cymreig yn Llundain, ac eithrio Radnor Street. Yr oeddynt hwy wedi cael organ fechan gyda'r capel. Pris yr organ oedd £ 125, ond trwy yr organyddes cafwyd hi am ^95, fel y dengys yr adroddiad gyntaf. Daeth amryw o gantorion goreu Llundain i berthyn i'r lie, a bu yno y canu goreu oedd yn bosibl am llawer o flynyddau. MEIRIONFAB. (l'w barhau.)
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
THE ST. JAMES'S ELECTRIC BATHS York Street, Jermyn Street, W. electric Eight, Ijot Hir or ljyflro electric Bath.. REMOVED FROM 61, JERMYN STREET, W. I
Pobl a Phethau yng Nghymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ER mwyn ceisio cyfanu'r rhwyg etholiadol yn Mwrdeisdrefi Caerfyrddin a Llanelli, y mae gweinidogion ymneillduol y lie wedi danfon llythyrau at y ddau ymgeisydd i ofyn a fyddant yn barod i dderbyn pleidlais rhagbrawfol er cael gweled pa un o'r ddau sydd i sefyll ar adeg yr etholiad cyffredinol. ———— MAE eglwys yr Annibynwyr, Bethesda, Sir Gaernarfon, wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. Rhys T Huws, gweinidog Bethel, i ddod i'w bugeilio. Deallir fod yn mwriad Mr. Huws i dderbyn yr alwad. MYN pobl Llandudno i'r Sabboth fod yn ddiwrnod diwaith mor bell ag y mae a wnelo a gweision cyhoeddus y dref. Yr wythnos hon penderfynasant nad oedd seddau i'w llogi allan ar lan y mor yn ystod yr haf a'r nos Sabbathau gan y byddai hynny yn golygu gwaith i lawer o'r bobl. Rhaid i'r ymwelwyr felly foddloni ar fyned i'r eglwysi i orphwys ar nos Suliau bellach. MR. IFANO JONES, Llyfrgell Rad Caerdydd, sydd wedi ei benodi yn olygydd y golofn Gymreig yn y Cardiff Times yn olynol i Dafydd Morganwg. Mae Ifano yn lienor gwych ac yn cymeryd llawer o ddyddordeb mewn materion Cymreig. YN ei wrthwynebiad i gynllun Addysgwersi Cymreig a gynnygiwyd yn ddiweddar yng Nghaernarfon gan Proffeswr J. Morris Jones ac eraill, y mae Rheithor Dinbych yn hollol gysson ag ymddygiad yr Eglwyswyr tuag at ein hiaith yn ystod y ddwy ganrif ddiweddaf. Er hyn oil y mae'r Cymry yn glynu wrth eu mam- iaith ar waethaf pob gwawd a dirmyg. CWYNA llawer o giwradiaid Cymru fod eu cyflogau yn llawer rhy fychan i gyfarfod a'u treuliau beunyddiol. Credant y dylent gael llawer mwy o arian nag a roddir iddynt yn gyffredin, onide bydd raid iddynt oil fyw bywyd meudwyol. Gwarchod pawb, beth a ddeuai o'n 'merched cyfoethog wedyn ?