Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y DYFODOL

PREQETHWYR Y SABBOTH .INESAF.

Advertising

Am Gymry LIundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

y Sais. Llwyddwyd yn y ddau amcan hyn yn y cwrdd cyntaf, felly gellir dweyd fod y cyfan yn llwyddiant. Ond mewn difrif, a yw Cymry ieuainc y ddinas wedi syrthio mor isel yn eu delfrydau fel ag i foddloni ar ganu a mygu a gloddesta ? GARDDWYL. — Prydnawn dydd Mercher diweddaf rhoddodd Mr. E. R. Cleaton, Vaenor, Isleworth, arddwyl arbenig yn ei gartref er budd un o eglwysi Ymneillduol y cylch, a tbrodd y cyfan allan yn dra llwyddianus. Gwr hael a gweithgar yw Mr. Cleaton, a bob amser yn barod i gefnogi pob achos a lesola Gymry'r ddinas. URDD Y SEIRf RHYDDION.—Caed gwledd bentymhor yr Urdd hon nos Iau. a daeth cynulliad parchus o wyr a gwragedd ynghyd. Llywydd yr Urdd am y flwyddyn yw Mr. T. Davies, London Road-gwr ag oedd yn flaen- llaw iawn gyda cherddoriaeth yn ein mysg rhyw ugain mlynedd a rhagor yn ol. Er fod Mr. Davies wedi ymneillduo i raddau o'r bywyd Cymreig, eto parha mor bybyr ag erioed dros bob peth a duedda i ddyrchafu cerddoriaeth ac i greu undeb a brawdgarwch yn ein plith. MR. W. P. JONES, HOLLOWAY. — Yn marwolaeth Mr. Jones collodd y draperiaid Cymreig un o wyr enwoca'r fasnach yn Llun- dain. Dydd Llun yr wythnos ddiweddaf gosodwyd yr hyn oedd farwol o hono i orwedd yn naear Finchley, ac efe yn 63 mlwydd oed. Yr oedd wedi dringo i safle uchel yn y byd masnachol, a chanddo lu o gyfeillion yn mhob parth o Lundain, a theimlir colled ar ei ol ynglyn a nifer o achosion elusengar y fasnach ddraperaidd. Bu yn wael am amryw fisoedd, ac yn dioddef yn dost oddiwrth y cancr, yr hyn oedd achos ei farwolaeth. Daeth torf o Gymry i'r gladdedigaeth er talu eu teyrnged olaf o barch i'w goffadwriaeth, ac anfonwyd pleth- dorchau heirdd gan amryw o'i hen gyfeillion i bersawru tawelwch ei orweddfan. DECHREU EI YRFA.—Brodor o Feirion oedd Mr. Jones, a ganwyd ef yn 1841. Yn mnas Caernarfon y dechreuodd ei fyd mewn siop, a daeth i Lundain yn 1862 i geisio gwella ei amgylchiadau. Yr oedd ei rieni yn ffermwjr parchus, ac ar ol ilr mab fod yma am ddwy neu dair blynedd cafodd fantais a chymorth i agor busnes ar ei gyfrifoldeb ei hunan, yr hyn a wnaeth yn Fairfax Road, Hampstead. Yr oedd ei frawd John hefyd yn yr un fasnach, ac agorasant siop arall yn Holloway Road tua 1867, a throdd yr anturiaeth olaf allan yn un dra llwyddianus 0 ddechreu bychan daeth yn un o siopau mwyaf y Gogleddbarth, ac mae adeiladau mawrion "Jones Bros." yn adna- byddus i bawb yn Llundain erbyn hyn. Ei FRAWD.- Yr oedd John ei frawd yn hen Gymro o'r sort oreu. Glynodd ef yn ffyddlon wrth grefydd ac iaith ei dadau, a bu'n flaenor parchus yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Holloway, hyd 1893, pryd yr ymneillduodd yn ei hen ddyddidu i Gymru i fwynhau o seibiant hwyrddydd bywyd; ond ni chafodd hyny yn hir, oherwydd galwyd ef at ei dadau yn 1896. Tra gwahanol i John oedd William. Yr oedd ef wedi priodi Saesnes, ac yn ol arferion a bywyd y Sais y bu fyw. Masnach oedd ei holl fywyd, a glynai wrthi yn lied gyson heb ond ychydig seibiant. Weithiau elai 'am dro gyda chwn hela, a chai ambell i ddiwrnod o saethu yn y wlad. Ond bywyd prynu caled di-ddelfryd oedd yr oil, ac mae ei goffa yn ganfyddadwy yn y masnachdy eang a gododd. Ei DEULU.—Collodd Mr. Jones ei briod ers rhyw flwyddyn yn ol, a gedy ar ei ol bedair o ferched a deg o feibion. Y mae rhai o'i feibion yn dechreu cymeryd rhan yn rheolaeth ei fasnach yn Holloway Road. Gan mai mewn awyrgylch Seisnig y'u codwyd i fynu, nid oes yr un yn Gymro, ac mae'r hen gysylltiadau a Chymru yn cael eu torri yn marwolaeth y tad Boed hedd i'w lwch yn naear ddieithr Finchley. Y DIWYGIAD SEISNIG.-Nid yw'r cylchoedd crefyddol yn credu fod cymaint o frwdfrydedd ynglyn a chenhadaeth y Mri. Torrey ac Alexander yn awr ag oedd ar y cychwyn yn Albert Hall. Daw'r ddau genhadwr o Brixton yr wythnos nesaf, ac yn gynar yn Mehefin agorir neuadd fawr yn y Strand er rhoddi cyfle eto i wyr y Gogleddbarth newid eu buchedd. Gan fod yr adeilad newydd yn gyfleus i wyr y papurau ac ardal Fleet Street, hwyrach y ceir diwygiad yn y rheiny o hyn allan. Mae un peth yn edrych yn ofergoelus yn y trefniadau- "ni chynhelir cyfarfodydd ar ddydd Gwener." Cred y Sais mai diwrnod anlwcus yw hwnw. Er hyny, gallem feddwl y byddai'n well i rai o honynt gael eu hachub ar ddydd Gwener na mynd i golledigaeth, fel yr a miloedd yn barhaus. UNDEB DIRWESTOL Y CHWIORYDD.—Cafwyd cyfarfod hynod o hapus yn Jewin nos Fercher, y 17eg, gyda'r chwiorydd a ddaethant i fyny o Gymru fel cynrychiolesau i gyfarfodydd blyn- yddol y British Women's Temperance Associa- tion. Trefnwyd gwledd o de a'r danteithion arferol gan aelodau Undeb Dirwestol Merched Cymreig Llundain am 6 o'r gloch, a dilynwyd gan gyfarfod dirwestol. Cymerwyd y gadair gan Mrs. Lloyd-George, llywyddes yr Undeb, a chafwyd areithiau treiddgar, yn llawn o dan y Diwygiad, gan Mrs, Herbert Lewis, Mrs. James Hughes, Manchester, Mrs. Griff. Davies, Menai Bridge, Miss Prichard, Birmingham, Mrs. W. R. Jones, a Mrs. Vaughan Davies, Caernarfon. Canwyd y Glory Song yn Gymraeg yn hynod o swynol gan Mrs. Lloyd-Williams. Yr oedd y neuadd yn orlawn, a chafwyd presenoldeb y gweinidogion canlynolParchn. J. E. Davies, Wilson Roberts, R. O. Williams, Francis Knoyle, a Tudno Williams. Cariwyd allan yr oil o'r trefniadau gan Miss Katie Roberts, yr ysg. myg., gyda chynorthwy Miss Cassie Davies. LLYTHYRAU DIKNW.—Y mae y bobl hyny S) dd yn hoff o ysgrifenu llythyrau heb roddi eu cyfeiriad na'u henwau wrthynt yn brysur iawn y dyddiau hyn. Y mae gweinidog eglwys heb fod gan milldir oddiwrth Eglwys Gadeiriol Sant Paul wedi derbyn rhai felly, yn cynwys llawer o gynghorion am y modd y,gallai gario allan waith a gwasanaeth yr eglwys yn well. Y mae y gweinidog hwn yn un or dynion mwyaf gweith- gar a feddwn ym mhlith Cymry y Brifddinas, ac y mae yn resyn fod yma rhyw warthun mor anghristionogol ag i ymostwng i waith mor isel a gwael. Ar y goreu, nid yw yn Gristion, a goreu po gyntaf iddo beidio a'i ysgrifbin. Gwyddom fwy am y mater yma nag y carwn gyhoeddi ar hyn o bryd, ond bydded hysbys i'r ysgrifenydd dienw hwnw y byddwn yn ychwanegu eto yn y dyfodol. THE marriage of Miss L. Teify Davies and Mr. Walter Meyrowitz will take place privately on June 7-th in London. Miss Davies con- tradicts the statement made to the effect that she will in future give up appearing in public. Negotiations are already pending for her appear- ance in German opera. It is probable that she will create a special part written for her in a one-act opera, the libretto and music of which Mr. Meyrowitz is at present engaged in writing.