Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
JIWBILI BARRETT'S GROVE, LLUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JIWBILI BARRETT'S GROVE, LLUNDAIN. (Parhad.) Yn y flwyddyn 1892 cymerodd Dr. Owen Evans, trwy gydsyniad y cyfeillion caredig 'yn King's Cross, ofal yr eglwys, a rhoddodd ei wasanaeth gwerthfawr yn rhad ac am ddim am dair blynedd-llafur cariad fu i'r eglwys. Yn ystod yr amser fe gasglodd rhwng dau a thri chant o bunnau tuagat y dyled. Er iddo gael peth o'r helyntion yn y dechreu rhoddodd y cyfan i lawr, ac mae yr eglwys byth er hynny yn un o'r rhai mwyaf tawel a heddychol. Teimlwn yn ddyledus iawn iddo am yr hyn a wnaeth, ac ni fuasai y jiwbili yn gyflawn hebddo. Cawsom, hefyd, lawer iawn o wasanaeth y Parchn. D. C. Jones, y Boro, a Machreth Rees, ynghyd a'r Cymry sydd gyda'r Saeson. Yn y flwyddyn 1895 daeth Mr. Newell, o Goleg Aberhonddu, i'n gwasanaethu, a bu gyda ni am ryw dair blynedd yn barchus a chymer- adwy, ac er nad oedd yn bregethwr poblogaidd fe wnaeth waith da yn ein plith, ond cafodd ei dori i lawr yn sydyn ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, a chladdwyd ef yn Abney Park. Yn y flwyddyn 1900 rhoddwyd galwad un- frydol i'r Parch. R. Rowlands, Treflys, ond, yn anffodus, yn fuan wedi ei ddyfodiad i'n plith torodd ei iechyd i lawr, a bu am amser yn rnethu pregethu. Cymerwyd ei le am amser gan ei fab, y Parch. W. J. Rowlands, Ber- mondsey. Bydd ei goffadwriaeth yn anwyl genym. Ni chawsom ond ychydig o oreu Mr. Rowlands, ond diolchwn am yr hyn gawsom. Yn yr Hydref diweddaf rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Owen, B.A., o Goleg Bangor, ac y mae yn dderbyniol a chymeradwy iawn ac yn olynydd teilwng iawn i Mr. Rowlands, ac wedi cael gwared o faich y ddyled a sicrhau gwr leuanc mor alluog a dysgedig gobeithiwn fod llwyddiant mawr yn ein haros. Cliriwyd y ddyled ar bedwar ymdrech— casglwyd yn y cychwyn ryw £ 1,400; yn y flwyddyn 1889 C) nhaliwyd bazaar llwyddianus yn Holborn Town Hall, pryd y gwnaed ryw £600; ac ym mhen deng mlynedd cynhaliwyd un arall yn y Memorial Hall. Rhoddodd un o ddiaconiaid yr eglwys challenge, os gwnaem £800 y rhoddai yntau ddau atynt i'w gwneyd yn ,000. Trwy gydweithrediad caredig a chalonog yr eglwysi eraill gwnaed dros Zi,ioo a dwy flynedd yn ol rhoddodd yr un brawd caredig ail challenge, y rhoddai ^300 os cliriem y ddyled oedd yn aros, a chafwyd addewid am £ 70 o'r gronfa, a chafodd Mr. B. Rees gan bump o aelodau y pwyllgor heblaw ef ei hun i roddi ^5 yr un i'w wneyd yn gant, a pythefnos 1 r Sul diweddaf pasiodd eglwys gref a llwydd- ianus King's Cross i roddi £, 150 i'n cynorthwyo, er eu bod mewn dyled o rhwng £ 5,000 a £6,000 eu hunain. Y mae un chwaer ffyddlawn a charedig, Mrs. Lloyd Owen, wedi casglu dros Zioo yn y fam eglwys yn y Boro, ac y mae Radnor Street yn gwneyd eu rhan hwythau. Fel rhwng pawb a Phobpeth nid wyf yn meddwl i eglwys erioed gael mwy o garedigrwydd nac a gawsom. Bu y diweddar Dr. John Thomas, Liverpool, yn garedig iawn. Yr oedd wedi cael addewid am £700 gan dywysog cyfranwyr ei oes, y diweddar Wr da haelionus, Vi,r. Samuel Morley. Yr oedd yn addaw ^100 am bob £ 400 a gasglem ni, and trwy nad oeddem wedi llwyddo i gasglu and rhyw ^"1,200 pan y bu farw ni chawsom and £300 o'r £700, ond rhoddodd ei feibion garedig iawn ^100 arall wedi ei farwolaeth, .J £ 300 a gollwyd. Fel yr wyf wedi dweyd ersoes, gwnaeth Dr. Owen Evans yn dda iawn, y mae amryw gyfeillion eraill wedi bod yn hynod garedig i ni—Mri. B. Rees. J. Williams, ^Ipn Road, a W. P. Roberts, Honor Oak, ac eraill sydd yn rhy liosog i'w henwi. Nos Iau, Mai 1 1 eg, cafwyd cyfarfod jiwbili ?an lywyddiaeth ddoniol a galluog Mr. Josiah nomas, Liverpool, un arall fu yn garedig iawn °t> amser. Cafwyd anerchiadau gan y Parchn. narry (Burnley), LI. Bowyer, E. Owen, B.A., >ven Thomas, M.A., D. C. Jones, Elfed Lewis, Owen Evans, Proff. Lewis, M.A., B.A. berhonddu), ynghyd a Mri. B. Rets, Isaac Williams, T. Davies, ac eraill. Cyfarfod hwyliog dros ben. Ar Sul a dydd Llun, Mai i4eg a'r Isfed, cynhaliwyd cyfarfod pregethu blynyddol yr eglwys. Gwasanaethwyd gan Dr. Owen Evans, y Parchn. T. Nicholson ac Owen Thomas, M.A. Cafwyd pregethau rhagorol trwy y cyfarfod. Gan obeithio y bydd llawer o ffrwyth yn dilyn y cyfarfod, felly byddo. MEIRIONFAB.
Gohebiaethau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gohebiaethau. [Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol ohebwyr.] CYFRIFOLDEB YR EGLWYSI. At Olygydd y LONDON WELSHMAN." SYR,—Gadewch i mi eich llongyfarch ar yr erthygl amserol a ymddangosodd yn eich rhifyn diweddaf o dan y penawd hwn. Yn sicr y mae cyfrifoldeb aruthrol yn gorwedd ar ysgwyddau eglwysi Cymreig y ddinas yma, a'r syndod yw eu bod wedi parhau mor ddifraw ar hyd y blynyddau ynglyn a gofalu am y newydd-ddyfodiaid, y dychweledigion, a'r ieuenctyd digartref sydd mor Iliosog yn ein plith. Beth pe baem i ddechreu trwy gael darllenfa gyfleus ynglyn a phob capel ? Mae ystafelloedd cysurus ynglyn a'r rhan fwyaf o'n heglwysi, a phaham nas cyflwynir y rhai hyny at achos yr ieuainc, a gofalu am ychydig oleu a than i'r mynychwyr ar nosweithiau hirion y gauaf? Pe cawsem gan ein heglwysi i fanteisio mwy ar y wedd gartrefol a chymdeithasol mae'n sicr y byddai'r nift-r ar restr yr aelodau yn llawer lliosocach nag ydyw yn awr. Ai nid oes genym rhyw Carnegie o Gymro haelfrydig a gychwyna trwy roddi llyfrgell addas i un neu ragor o'n heglwysi ? Pe deuai rhywun allan i gychwyn credaf y dilynid ei gamrau gan lu ereill o garedigion ein pobl a'n gwlad. Yr eiddoch, MAB Y MYNYDD. NEED OF REFORM. To the Editor of "THE LONDON WELSHMAN." SIR,- Your correspondent Haydn," who writes under the above title in your last issue, wishes us to believe that Eisteddfodau in London are veiy rowdy γ- institutions In fict, he seems to assert that the scenes witnessed at football matches, 'Varsity spor s, and pro- fessional athletic gatherings are perfectly heavenly as compared with what may be witnessed in competitive meetings among the Welsh of London A grosser libel on our compatriots in the Metropolis could never be uttered As one who has attended nearly all the competitive gatherings among our people in London for the past twenty-five years permit me to say that no disgraceful scenes have ever been witnessed, and the losing choirs invariably accept defeat in that sportsmanlike spirit characteristic of Welsh competitors. There have been occasions when English choirs-representatives of the race that Haydn" evidently adores—have behaved very rudely but we, as Welshmen, know full well that the sons of John Bull cannot accept defeat a. good humouredly as the sons of Gwalia, consequently no- notice is taken; but on no occasion can your corre- spondent bring home his charge of "disgraceful scenes" in connection with an Eisteddfod in London. The greatest reform needed is that correspondents like Haydn" should cease libelling their fellow-countrymen and make certain of their facts before rushing into print to defame the good name of the Cymric peoples. Yours, &c., EISTEDDFODWR. MISS MORGANS FAWR. To the Editor of "THE LONDON WELSHMAN." DEAR SIR,-Your South Wales correspondent is. evidently not a musical person or he would have known most of the old Welsh air- mentioned by him, especially "Y Ddimeu Goch" and" Difyrwch Meirionydd," or Difyrwch Gwyr Meirion," as it is generally called. As to "Die Shon Dafydd" and "Miss Morgans Fawr," these doubtless refer to the popular verses composed by Jack Glan y Gors, the old London Welsh satirical poet. The two were very popular songs in the early part of the nineteenth century, and were sung by every ballad-monger throughout Wales. In consequence of this ÍL is not to be wondered if the original tunes were forgotten, and the name of the more popular songs being stated instead of the air. Yours, etc., T. J. E.
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. PLESERDEITHIAU.—Nis galiwn gyhoeddi dyddiadau pleserdeithiau a'r lleoedd yr ant iddynt ond fel hysbys- iadau. J. W. (Bangor).-Nid Llyfrgell i Goleg Aberystwyth fydd y Llyfrgell Genedlaethol, fel y soniwch. Os aiff y sefydliad i dref Aberystwyth bydd yn agored i bawb, i wyr Bangor yn ogystal ag i gosmopolitaniaid Caerdydd. E. REES VAVIEs.-Diolch am yr ysgrit ac am eich teimladau caredig ynglyn ar papur. Ond ai nid oes modd cael rhagor o dderbynwyr yn yr ardal yna ? W. JAMES (Llanelli).—Nid doeth yw talu sylw i farn papur mor bleidiol i Mr. Alfred Davies ag yw'r Mercury ar hyn o bryd. Bu adeg pan oedd y Mercury o ddy- lanwad yn y lie, ond erbyn hyn y mae pethau wedi newid. D. WILLIAMS.—Yr ydych yn gwneyd cam a ni. Nid partiaeth Seisnig yw ein daliadau ni, eithr cadwn yn hollol anenwadol ac yn annibynol ar bob plaid wleidyddol. Yr oil a blei'Jiwn yw lies cenedl y Cymry, ac mae unrhyw barti, fel y Weinyddiaeth bresenol, a geisia ei gormesu yn erbyn ei chydwybod, yn hawlio ein condemniad llwyraf. R. WHIGHAM. -Diolch i chwi am y cywiriad, a drwg; genym i'r amryfusedd ddigwydd. Gofelir am gywirdeb y golofn mor bell ag y mae'n bosibl, ond gall y goreu. dripio weithiau. Cofion lawer.
Y DIWYGIAD YN LLUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DIWYGIAD YN LLUNDAIN. Beth yw'r udgorn glywai'n seinio ? Brenin Siloh sydd yn gwa'dd. Pwy sy'n cael eu galw ganddo ? Pechaduriaid o bob gradd. Adre, adre, blant afradlon- Gadewch gibau gweigion ffôl; Clywaf lais y Brenin heddyw 'N para i alw ar eich hoi. Parhau i gynyddu y mae'r ysbryd Diwygiadol yn y Brifddinas, ac amlygir ei ddylanwad mewn modd tarawiadol iawn yn ymarweddiad llawer Cymro a Chymraes yng nghorff y dyddiau hyn. Tra yr oedd hen Gymro diledriw ond defosiynol yn gwneyd ei ffordd tua maes y diwygiad, sef Falmouth Road, cyfarfyddwyd ef gan un o'i hen gyfeillion. Ac meddai'r cyfaill wrtho, "Y mae golwg prudd ac unig arnat. Pa le yr wyt yn cyfeirio dy gamrau, John ?" Gyfaill mwyn," ebe John. "Nid wyf yn unig nac yn brudd. Ni fu'm erioed yn fwy hapus nag yn awr, canys yr wyf yn rhodio gydag Ef." Ac yn y fan wele'r cyfaill yn cael goleuni, a mawr a rhyfeddol ydoedd ei weddi yn y cyfarfod. Yr oedd dau lanc ieuanc o Saeson wedi dod yno gan fwriadu gwneyd yn ysgafn o'r cyfarfod. Ond, ow yr oedd grym y gweddiau a'r hen emynau yn drech na hwy, a'r canlyniad gogon- eddus ydoedd i'r ddau lanc gael eu hargy- hoeddi, ac aethant i huno y noson hono yn swn tyner yr efengyl bur. A phwy a wyr lie y derlydd y ddau lanc hyn Onid dyna yw hanes lliaws o'r cewri a fu, ym mhlith pa rai y gellid enwi Williams o'r Wern, Christmas Evans, &c., a Iliaws o ddiwygwyr y Saeson. Cyrddau rhyfeddol a gwresog yw y rhai a gynhelir ar hyn o bryd yn ein plith gan y cen- hadon a'r cenhadesau-yn enwedig y rhai a gymer le yn Falmouth Road, ac yr oedd rhyw wres anghyffredin yn oedfaon Shirland Road hefyd. Nid oes neb bron, erbyn hyn, yn rhyfygu ceisio esbonio'r peth, ond y mae mil- oedd i'r gwrthwyneb yn ymlawenhau wrth gan- fod yr effeithiau daionus mewn gwahanol gyfeiriadau. Y mae aelwydau lawer wedi eu tanio a'r Ysbryd Golygfa ryfeddol ydoedd honno yn Argraphdy v "Christian Herald," yn Fleet Street, yn ystod yr awr ginio. Yno yr oedd Miss Maggie Davies, Maesteg; Miss Mary Davies, Gorseinon; Miss S. A. Jones, Nanty- moel Parch. D. Oliver, Mile End; a Mr. Baxter, perchenog y newyddiadur uchod. Ac yn swn peirianau'r wasg caed rhywbeth tebyg i Sassiwn fach ond wresog. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, a'r gred gyffredinol yw na chafwyd erioed o'r blaen gwrdd tebyg i hwn mewn swyddfa argraffu. Ynglyn a ffrwyth cyrddau yr wythnos hon attaliwn, gan ddweyd fod y daioni a wneir drwy ymbiliadau yr efengylesau a'r efengylwyr wedi trciddio i bedwar ban y Babilon fawr yma, ac fod y Cymry, fel y Babiloniaid gynt, yn troi eu hw) n- ebau tua'r Jerusalem Newydd. Clapham Junction. Er nad ydym eto wedi cael yr efengylesau yn yr Eglwys uchod, cawsom gyrddau bendi- gedig yma nos Sul diweddaf. Yr oedd gan y bobl ieuainc gwrdd gweddi am hanner awr wedi pump, a chaed y fath hwyl nes y parhaodd y cwrdd ymhell i oedfa yr hwyr. Yr oedd ein parchus gyn-weinidog—y Parch. Llewelyn Edwards-gyda ni, a chaed pregeth ragorol ganddo. Wedi'r bregeth ymaflodd y bobl ieu- ainc ynddi drachefn, gan gymeryd y cwrdd i'w dwylaw eu hunain, a chariasant efym mlaen am gryn amser. Bydd yr efengylesau gyda ni yfory (Sul), Llun, Mawrth a Mercher.-L.