Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

JIWBILI BARRETT'S GROVE, LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

JIWBILI BARRETT'S GROVE, LLUNDAIN. (Parhad.) Yn y flwyddyn 1892 cymerodd Dr. Owen Evans, trwy gydsyniad y cyfeillion caredig 'yn King's Cross, ofal yr eglwys, a rhoddodd ei wasanaeth gwerthfawr yn rhad ac am ddim am dair blynedd-llafur cariad fu i'r eglwys. Yn ystod yr amser fe gasglodd rhwng dau a thri chant o bunnau tuagat y dyled. Er iddo gael peth o'r helyntion yn y dechreu rhoddodd y cyfan i lawr, ac mae yr eglwys byth er hynny yn un o'r rhai mwyaf tawel a heddychol. Teimlwn yn ddyledus iawn iddo am yr hyn a wnaeth, ac ni fuasai y jiwbili yn gyflawn hebddo. Cawsom, hefyd, lawer iawn o wasanaeth y Parchn. D. C. Jones, y Boro, a Machreth Rees, ynghyd a'r Cymry sydd gyda'r Saeson. Yn y flwyddyn 1895 daeth Mr. Newell, o Goleg Aberhonddu, i'n gwasanaethu, a bu gyda ni am ryw dair blynedd yn barchus a chymer- adwy, ac er nad oedd yn bregethwr poblogaidd fe wnaeth waith da yn ein plith, ond cafodd ei dori i lawr yn sydyn ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, a chladdwyd ef yn Abney Park. Yn y flwyddyn 1900 rhoddwyd galwad un- frydol i'r Parch. R. Rowlands, Treflys, ond, yn anffodus, yn fuan wedi ei ddyfodiad i'n plith torodd ei iechyd i lawr, a bu am amser yn rnethu pregethu. Cymerwyd ei le am amser gan ei fab, y Parch. W. J. Rowlands, Ber- mondsey. Bydd ei goffadwriaeth yn anwyl genym. Ni chawsom ond ychydig o oreu Mr. Rowlands, ond diolchwn am yr hyn gawsom. Yn yr Hydref diweddaf rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Owen, B.A., o Goleg Bangor, ac y mae yn dderbyniol a chymeradwy iawn ac yn olynydd teilwng iawn i Mr. Rowlands, ac wedi cael gwared o faich y ddyled a sicrhau gwr leuanc mor alluog a dysgedig gobeithiwn fod llwyddiant mawr yn ein haros. Cliriwyd y ddyled ar bedwar ymdrech— casglwyd yn y cychwyn ryw £ 1,400; yn y flwyddyn 1889 C) nhaliwyd bazaar llwyddianus yn Holborn Town Hall, pryd y gwnaed ryw £600; ac ym mhen deng mlynedd cynhaliwyd un arall yn y Memorial Hall. Rhoddodd un o ddiaconiaid yr eglwys challenge, os gwnaem £800 y rhoddai yntau ddau atynt i'w gwneyd yn ,000. Trwy gydweithrediad caredig a chalonog yr eglwysi eraill gwnaed dros Zi,ioo a dwy flynedd yn ol rhoddodd yr un brawd caredig ail challenge, y rhoddai ^300 os cliriem y ddyled oedd yn aros, a chafwyd addewid am £ 70 o'r gronfa, a chafodd Mr. B. Rees gan bump o aelodau y pwyllgor heblaw ef ei hun i roddi ^5 yr un i'w wneyd yn gant, a pythefnos 1 r Sul diweddaf pasiodd eglwys gref a llwydd- ianus King's Cross i roddi £, 150 i'n cynorthwyo, er eu bod mewn dyled o rhwng £ 5,000 a £6,000 eu hunain. Y mae un chwaer ffyddlawn a charedig, Mrs. Lloyd Owen, wedi casglu dros Zioo yn y fam eglwys yn y Boro, ac y mae Radnor Street yn gwneyd eu rhan hwythau. Fel rhwng pawb a Phobpeth nid wyf yn meddwl i eglwys erioed gael mwy o garedigrwydd nac a gawsom. Bu y diweddar Dr. John Thomas, Liverpool, yn garedig iawn. Yr oedd wedi cael addewid am £700 gan dywysog cyfranwyr ei oes, y diweddar Wr da haelionus, Vi,r. Samuel Morley. Yr oedd yn addaw ^100 am bob £ 400 a gasglem ni, and trwy nad oeddem wedi llwyddo i gasglu and rhyw ^"1,200 pan y bu farw ni chawsom and £300 o'r £700, ond rhoddodd ei feibion garedig iawn ^100 arall wedi ei farwolaeth, .J £ 300 a gollwyd. Fel yr wyf wedi dweyd ersoes, gwnaeth Dr. Owen Evans yn dda iawn, y mae amryw gyfeillion eraill wedi bod yn hynod garedig i ni—Mri. B. Rees. J. Williams, ^Ipn Road, a W. P. Roberts, Honor Oak, ac eraill sydd yn rhy liosog i'w henwi. Nos Iau, Mai 1 1 eg, cafwyd cyfarfod jiwbili ?an lywyddiaeth ddoniol a galluog Mr. Josiah nomas, Liverpool, un arall fu yn garedig iawn °t> amser. Cafwyd anerchiadau gan y Parchn. narry (Burnley), LI. Bowyer, E. Owen, B.A., >ven Thomas, M.A., D. C. Jones, Elfed Lewis, Owen Evans, Proff. Lewis, M.A., B.A. berhonddu), ynghyd a Mri. B. Rets, Isaac Williams, T. Davies, ac eraill. Cyfarfod hwyliog dros ben. Ar Sul a dydd Llun, Mai i4eg a'r Isfed, cynhaliwyd cyfarfod pregethu blynyddol yr eglwys. Gwasanaethwyd gan Dr. Owen Evans, y Parchn. T. Nicholson ac Owen Thomas, M.A. Cafwyd pregethau rhagorol trwy y cyfarfod. Gan obeithio y bydd llawer o ffrwyth yn dilyn y cyfarfod, felly byddo. MEIRIONFAB.

Gohebiaethau.

AT EIN GOHEBWYR.

Y DIWYGIAD YN LLUNDAIN.