Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Byd y Gan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Byd y Gan. (Ian IDRIS. YR oeddym wedi bwriadu bod yn bresenol yng Nghymanfa Ganu City Road, ond i'n gofid, ac oherwydd amgylchiadau anorfod, methasom a bod yno. Deallwn iddynt gael canu hwyliog ar yr hen emynau a'r tonau. DA genym ddeall i'r cyngherdd mawreddog a gynhaliwyd gan gor meibion a chor cymysg Cymry Llundain yr wythnos ddiweddaf, yn Neuadd y Frenhines, droi all an yn llwyddiant arianol yn ogystal a cherddorol. YR oedd y cor cymysg ar ei oreu yn "Thanks be to God." Tystiai un cerddor enwog oedd yn bresenol na chlywodd efe erioed o'r blaen well ddadganiad o'r cydgan rhagorol hwn. YR oeddem yn mawr hoffi eu dadganiad o "Hail, Bright Abode," a phe buasai cerddorfa Covent Garden yn cyfeilio iddynt diau y cawsid canmollaeth uchel gan uwchfeirniaid y Wasg Seisnig, pa rai sydd bob amser yn chwerthin yn wawdlyd ar ein corau Cymreig. Y MAE y papyrau Seisnig y dyddiau hyn yn rhoddi digon o le yn eu colofnau i gyngherddau y neuaddau bychain, lie y dygir i sylw y "prodigies;" chwedl hwythau, ond pin gynhelir cyngherdd o radd uchel yn un o'r prif neuaddau gan gorau medrus y Cymry ni chlywir na syw na miw gan yr un o'r arch-griticyddion YCHYDIG amser yn ol, gwnaeth parti o Gymry benderfyniad yr ennillasent glod y beirniaid Seisnig rywfodd neu gilydd. Yng nghyntaf peth sicrhawyd ganddynt enwau tramorol ac anfarddonol, ac yna trefnwyd ganddynt alawon .cenedlaethol perthynol i'r Cymry, y Gwyddelod a'r Albanwyr, gan wisgo mewn dillad anghy- ffredin. Mawr ydoedd y gymeradwyaeth a rodd- wyd iddynt gan y gwrandawyr, ac yr oedd y critics yn canu eu clod yn y Wasg. YR un noson ag yr oedd y parti Cymreig yn canu (dan enw tramorol, wrth gwrs), ac ar yr un llwyfan, yr oedd Cymro arall, yn canu dan ei enw priodol, sef Mr. Evan Evans, yr hwn a ganodd Revenge," ac fe wyr pawb sydd yn •cofio'r gystadleuaeth ar yr unawd hon yn Eis- teddfod Rhyl flynyddau yn ol fel y gall y cantor hwn ei chanu. Fodd bynag, ni chafodd Mr. Evans ond y nesaf peth i ddim o gymeradwyaeth am ei chanu ar lwyfan y Music Hall, tra y cafodd y parti Cymreig eu canmol i'r awyr am ganu yn llawer salach nag efe. Ond y dillad a'r enw rhyfedd ydoedd cuddiad eu llwyddiant. OND i ddod yn ol i'r Queen's Hall at gyng- herdd y Cymry. Er mai yn yr iaith Seisnig y cenid, credwn mai yn hwn y cafwyd yr engraifft oreu o ganu corawl o unman yn Llundain yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Digon yw dweyd hyn yna am y ddau gor ardderchog. YR oedd amryw o'n cydwladwyr cerddgar yn bresenol, yn eu mysg Mr. Edward German, yr hwn a ymddangosai yn hapus iawn ym mysg ei genedl, a chan i'r cor ganu darn o'i waith "lef yr oedd y dyddordeb yn fawr iddo. Canwyd y dernyn mor rhagorol fel yr anfonodd Mr. German lythyr llongyfarchiadol i arweinydd y "Corau, sef Mr. Merlin Morgan, ac ni allai dim fod yn fwy o bleser, yn sicr, i unrhyw arweinydd na derbyn llongyfarchiad oddiwrth gerddor o radd mor uchel ag awdwr y Welsh Rhapsody." YR oedd yr unawdwyr oil yn rhagorol-yn enwedig ein prif gan tores Miss Maggie Davies, a, r baritone enwog Mr., Ffrangcon Davies. Bu -raid iddynt ailganu, fel arfer. CYMERWN y cjfL h n i gyfeirio at gyfeilyddes y cor, Miss Sallie | nJ ins. Gwnaeth ei gwaith yn rhagorol iawn; ac yn sicr y mae'r Cor Meibion ar eu hennill drwy ei gwasanaeth. Ac i gloi pinacl y testyn, rhaid dweyd fod gan Gymry Llundain arweinydd da yn Mr. Merlin Morgan, a da genym ddeall ei fod wedi penderfynu myned a'r Cor Meibion i Eisteddfod Aberpemr i gystadlu am y clod cenedlaethol. UN o hoff bethau Brenin yr Hispaen ydyw cerddoriaeth, ac er anrhydedd iddo rhoddwyd noson arbenig yn Nhy'r Opera, Covent Garden, nos lau, pryd y cymerwyd rhan gan ser y llwyfan operataidd. Nid oedd ond pobl arianog yn bresenol. Y pris lleiaf am fyned i mewn, sef i'r oriel, ydoedd deg swllt CAED cyngherdd llwyddianus iawn yn y Royal College of Music nos Fawrth, dan arweiniad Syr Charles Stanford. Da genym weled i rai o'n cydwladwyr ymddisgleirio ynddo. Y MAE Mr. Joseph Holbrooke yn ysgrifenu scena ddramayddol i faritone a cherddorfa ar gyfer Gwyl Gerddorol Norwich. Y baritone dewisedig ydyw Mr. Andrew Black. UNWVD mewn glan briodas, ddydd Mercher, y gantore's Gymreig boblogaidd, Miss L. Teify Davies, a Mr. Walter Meyerowitz. Y mae Miss Davies wedi bod yn foddion lawer tro i wneyd ami i galon brudd yn lion a'i chan swynol. Dymunwn iddi fywyd hapus a dedwydd, a goddefed ein darllenwyr i ni ddatgan ein teim- ladau yng ngeiriau'r bardd :— n Bywyd o haf boed o hyd Yn hedfan uwchben adfyd. NID ydym yn meddwl fod un ym mysg ein holl gantoresau yn feddianol ar fwy o'r ysbryd Cymreig na Teify; ac ymddyga bob amser-er mai Almaenwr ydyw ei dewis-ddyn fel cydmar bywyd-yn deilwng o'r fro a'r aelwyd glyd lle'i magwyd. Nid fel rhai o'n cantoresau a ddeuant i Lundain i golli eu Cymraeg mewn rhyw ddeu- fis neu dri, fe sieryd Teify iaith y Cardis heddyw mor loyw ag erioed, heb fymryn o lediaith. Bu Miss Davies yn wasanaethgar iawn am hir amser ynglyn ag Eglwys Gymreig Dewi Sant, Paddington, lie yr oedd yn uchel ei pharch. Bu hefyd, ar bob achlysur, y barotaf i roddi ei gwasanaeth at achosion da ym mhlith ein cydwladwyr yn Llundain. Pan yr ysgrifen- wyd ati un tro i ofyn iddi wasanaethu mewn cyngherdd er budd hen fardd o Gymro, atebodd ar unwaith Bydd yn bleser calon genyf roddi fy ngwasanaeth ar ran y bardd siriol." NID yn unig yn Llundain y mae Teify yn bob- logaidd, eithr hefyd yn yr Hen Wlad. Y mae amryw o feirdd y wlad wedi canu ei chlodydd. Pan aeth y gantores i Lanfairtalhaiarn beth amser yn ol canodd mor swynol nes cynhyrfu awen y bardd Trebor Aled, yr hwn a ddadganodd ei deimladau yng Nghelt Llundain. Wele gyfle yn awri feirdd Ceredigion ymarllwys o "ffrwd eu hawen ffraeth." GWYR ein darllenwyr am y gwaith a wnaed ganddi yn ddiweddar ynglyn a Chwmni Operat- aidd Moody-Manners. Er mor uchel yr es- gynodd mewn byr amser, credwn y buasai wedi esgyn yn uwch pe wedi ymgymeryd a'r opera ddigrifol, oblegid y mae hi'n feddianol ar yr holl elfenau angenrheidiol at hynny. Deallwn y bydd iddi ymddangos mewn gwaith cerddorol pwysig yn y dyfodot agos. CYNGHERDD rhagorol roddwyd gan Madame Patti yn yr Albert Hall yr wythnos ddiweddaf, ac ym mysg y rhai oeddynt yn ei chynorthwyo yr oedd ein prif denorydd Mr. Ben Davies, yr hwn, meddir, a ganodd yn fendigedig. FE ddywedir fod llais Madame Patti bron mor swyn-ber heddyw ag erioed, a chanwyd ganddi yr wythnos ddiweddaf un o'r caneuon mwyaf anhawdd gyda'r medrusrwydd mwyaf. PAN ddaeth y gantores enwog i Lundain am y tro cyntaf, flynyddau lawer yn ol, fel hyn yr ysgrifenai un gohebydd Cymreig am dani :— Mae yma eneth wedi dod drosodd o'r America, ac wedi gyrru y Llundeinwyr yn wallgof wyllt gan frwdfrydedd ar ol ei chlywed yn canu. Cawn hi yn ddeunaw oed, wylaidd a thlos, yn cymeryd y rhan benaf yn yr opera ardderchog, 'La Sonambula,' yn beiddio y cymeriad nad ymddangosodd un gantores erioed ynddo heb fod y cyhoedd wedi traddodi dedfryd cymerad- wyaeth ar ei thalent a'i llais. Ond profodd y lodes hon ei hun yn ddigon o feistres, ac ni bu cymaint o frwdfrydedd erioed o fewn y muriau wrth wrandaw ar unrhyw gantores er's llawer o flynyddoedd Nid oes son am gantores mor ieuanc wedi cyrhaedd y fath safle uchel. Os caiff iechyd, bydd y gantores fwyaf yn y byd." FEALLAI y bydd yn ddyddorol i lawer sylwi oddiwrth y dyfyniad uchod ar addfedrwydd barn y gohebydd cerddorol Cymreig dros ddeugain mlynedd yn ol. Un ffaith hynod yn hanes Madame Patti ydyw ddarfod iddi ennill mwy o boblogrwydd gyda'r hen gan Home, Sweet Home," nag hyd yn oed ym mhrif gan opera Gounod. Daeth yr hen arwr, Mr. Thomas Gee, yr holl ffordd o Ddinbych i Lundain un tro yn unswydd i glywed y, gantores enwog yn canu Home, Sweet Home," a dyddorol ydoedd ei glywed yn adrodd yr hanes. Mor effeithiol ydoedd y dadganiad fel y cariwyd meddwl a chalon yr hen wr i'w dy yn yr Hen Wlad, a thystiai na chlywodd efe y fath ganu erioed o'r blaen, ac yr oedd ganddo glust dda i wrandaw. DIGWYDDODD damwain rhyfedd yn hanes y gantores Madame Clara Butt nos Sul diweddaf. Yr oedd hi a'i phriod yn treulio'r Sabboth yn Henley ar y Dafwys. Ar ol cinio aeth hi a'i gwr i ymbleseru ar yr afon mewn bad; ond rhywfodd neu gilydd trodd y cwch gan daflu y ddau i'r dwfr. Wrth lwc, yr oedd y gwr yn alluog i nofio, a llwyddodd gwedi ymdrech galed i achub ei briod rhag boddi. DEALLWN fod Syr Edward Elgar a'i briod ar fedr ymweled a'r Unol Dalaethau. Diau y ceir tipyn o nodweddion y wlad honno mewn cerdd- oriaeth ganddo cyn bo hir. DAW hanes am Mr. Watkin Mills yn Aws- tralia, ei fod yn cael derbyniad poblogaidd ym mhob man yr elo. Y MAE Cynghor Sirol Llundain yn dechreu agor meusydd newydd yn yr ystyr gerddorol ynglyn a'r Ysgolion Nos. Y mae amryw Un- debau Cerddorol wedi eu ffurfio gan yr athrawon cysylltiedig a'r ysgolion hyn, ac y mae'r Cynghor yn estyn eu cymhorth er chwyddo'r syniad. Diau y gwelir diwygiad mawr yn y cyfeiriad hwn yn burfuan. Ai ni fuoch chwi erioed yn sefyll ar lan y mor yn y nos, ac yn clywed y cregyn yn canu, a'r tonnau yn mynegu gogoniant Duw ? Neu, ai ni chyfodasoch chwi erioed oddiar eich gor- weddfa, gan agor ffenestr eich ystafell i wrandaw ar y rhai hyn ? Gwrandaw ar beth ? Distawrwydd, oddigerth swn murmurol yn awr ac eilwaith, ag oedd fel peroriaeth melus ar y pryd. Ac oni fuoch yn dychmygu eich bod yn clywed telyn Duw yn canu yn y nef ? Ac oni fuoch yn dychmygu fod y ser acw bob un yn canu, wrth dywynu, am eu Hawdwr, ac am Ei foliant cyfreithlawn Ef? Y mae gan y nos ei chaniadau. Nid oes angen am farddon- iaeth yn ein hysbrydoedd i glywed caniadau'r nos, a chlywed y bydoedd yn corganu moliant sydd yn ddigon uchel i'r galon, er y gallant fod yn ddistaw i'r glust-moliant yr Hollalluog Dduw, yr Hwn sydd yn cynhal archfwa digolofn y nef, ac yn symud y ser yn eu cylchoedd."— C. H. S