Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Pobl a Phethau yng Nghymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pobl a Phethau yng Nghymru. BWRIEDIR dechreu ar y gwaith o helaethu Rheilffordd Gul y Wyddfa, o'r Dinas i Gaer- narfon, yn ddiymdroi. Mae y trefniadau arianol wedi eu cwblhau yn barod. MAE cor newydd wedi ei ffurfio yng Ngwrec- A sam, a gelwir ef Cor y Diwygiad. Mae y cor yn cynwys cantorion o bob enwad Ymneillduol yng Ngwrecsam a Rhosddu. Yr arweinydd yw y cerddor adnabyddus Mr. Wilfrid Jones. YNG nghylch Castellnedd mewn naw o eglwysi y Bedyddwyr, bedyddiwyd 551 o ddych- weledigion y Diwygiad, ac adferwyd 231, yn gwneyd cyfanrif y cynydd yn y naw eglwys o Dachwedd iaf, 1904, hyd Ebrill 30am, 1905, yn 782. MAE" Allen Raine" yn ysgrifenu ffug- chwedl, seiliedig ar y Diwygiad yng Nghymru, i'r Christian Commonwealth. Ganwyd yr awdures boblogaidd hon yng Nghastellnewydd Emlyn, a dylai ei hadnabyddiaeth o Gymru fod o help mawr iddi gyda'r llyfr newydd. MAE'R ysgol haf Gymreig i'w cbynal eleni yng Nghaerdydd, ac mae'r Cymry gwybodus a gan- lyn wedi addaw bod yn bresenol ac i ddarlithio i'r efrydwyr :—Profteswr Powell, Caerdydd Proffeswr Anwyl, Aberystwyth Proffeswr J. E. Lloyd, Bangor; Proffeswr J. Morris Jones, Bangor; Proffeswr O. M. Edwards, Rhyd- ychain, ac amryw eraill. DRWG genym gofnodi marwolaeth Mr. Hugh Williams, y Graig, Porthaethwy, yr hyn a gymerodd le bore Llun ym mhreswylfod ei fab, y Proffeswr Hugh Williams, y Bala. Efe oedd y blaenor hynaf a berthynai i Gyfarfod Misol Mon, wedi ei ddewis mor bell yn ol ag 1852. Yr oedd y diweddar Mr. Richard Davies, A.S., yn cael ei ddewis yr un pryd ag ef. BWRIEDIR pennodi athraw arall yng Ngholeg Trefecca. Bydd yno wedyn bedwar o athrawon, y nifer gofynol er mwyn i'r efrydwyr fedru myned i mewn am arholiad y B.D. Bydd yr athraw newydd yn cymeryd Hanes yr Eglwys a'r Llyfrau' Groeg a Lladin—hanesiol a duwin- yddol—sydd yn rhan o'r arholiad am y radd. Dengys hyn fod y bwriad o uno y Bala a Threfecca wedi ei roddi heibio am dymhor o leiaf. YR wythnos ddiweddaf cyhoeddodd lliaws o newyddiaduron fod Evan Roberts, y Diwygiwr, Wedi ymrwymo i briodi gyda Miss Annie Davies, sydd yn canu mor swynol ac effeithiol yng nghyfarfodydd y Diwygiad. Aeth un papur mor bell a dweyd fod y briodas i gymeryd lie yr wythnos hon. Ond y mae Mr. Roberts a Miss Davies wedi dadgan yn bendant nad oes rhithyn o wir yn y stori: CYMERODD amgylchiad dyddorol Ie, yng nghapel Caersalem, Fflint, pryd yr anrhegw)d rs. Jones, Medical Hall (gweddw y diweddar Barch. Michael Jones), a Mrs. Susannah Griffith, ynghyda'r brawd, Wm. Griffith, Sydney Street, a Bathodyn" (ar ran golygydd y Sunday Companion) am eu sel a'u ffyddlondeb mawr arn gynifer o flynyddoedd, gyda gwaith yr ArglWydd, yn neillduol gyda'r Ysgol Sul. Mae Mrs. Jones wedi bod yn athrawes am dros 42 0 flynyddoedd, a Mrs. Griffiths am dros 30 ?%nedd. Cyflwynwyd y Bathodyn gan y ■Parch. R. Griffith, y gweinidog. YN wythnos ddiweddaf daeth y Parch. ^eredydd J. Hughes, ficer Brynymaen, Colwyn ay5 ar draws dwy gareg gerfiedig ar ymyl ^ybr yn arwain i heol gul gerllaw y cei. Wedi gwneuthur ymchwiliad canfu fod yno ohon adeilad henafol, ac er ei ofid canfu fod y gweithwyr wedi tori bwa deg troedfedd pryd- erth. Maen clo'r bwa ydoedd un o'r cerig y fy eiriwyd atynt, ac arni yr oedd y llythyrenau H S." Pwrcasodd Mr. Hughes y cerig yn y fan am y credai eu bod yn dynodi safle sylfaen Cisteraidd Llewelyn ab lorwerth, neu Llywelyn Fawr, a'r lie y gorwedd ei weddillion. Gobeithir dyfod o hyd i greiriau eraill eto yno. GWEINIDOG Capel Moriah, Casllwchwr, lie y mae Mr. Evan Roberts, y Diwygiwr, yn aelod, yw y Parch. D. Jones. Mae wedi bod yno am bedair blynedd ar ddeg. Ond torrodd anghyd- welediad allan yn yr eglwys dro yn ol, oblegid fod y gweinidog yn gwrthwynebu parhau cyfar- fodydd diwygiadol ymlaen hyd oriau canol nos. Aeth yn ddwyblaid yn y lie. Gwnaed mwy nag un ymgais i heddychu y pleidiau. Cynhaliwyd cyfarfod i'r pwrpas ddiwedd yr wythnos, ac yr oedd cynifer a deuddeg o weinidogion o Aber- tawe a'r cylchoedd yn bresenol. Ond bu pob ymdrech i wneyd heddwch yn ofer. Yr unig beth a wnaed yno oedd pasio gyda mwyafrif mawr i ofyn i'r gweinidog ymddiswyddo. Bu arweinwyr yr Eglwys Wladol yn ym- arhous i gredu yn nilysrwydd y Deffroad. Atebid hwy gan yr hen ysbryd, "A ddichon dim da ddyfod o Nazareth?" Gwelaf fod yr amheuaeth wedi ymddatod a diflanu fel niwl. Hiraethant am gyffelyb ymweliad i'r un a fwynhawyd gan yr Eglwysi Rhyddion. Sonir am wahodd Mr. Evan Roberts i'r Eglwysi Cad- eiriol. Cyhoeddir fod Esgob Llanelwy yn gyfaill iddo. Er fod hen gadwyni cyfraith eglwysig yn cadw ffordd pulpud ac allor rhag hereticiaid, awgrymir y gwneir ymgais at eu symud dros dymor. Y mae hyn oil yn hyfryd ac yn sicr, ni warafunir iddynt gan yr Eglwys- wyr Rhydd yr hyn y dyheant am dano. DVDD Mercher nesaf y gorseddir esgob newydd Llandaf. DIWYGIO'R Brifysgol Gymreig yw cenhadaeth nesaf Syr Marchant Williams. MYN cyfeillion Mr. Davies, Llandinam, nad oes sail i'r haeriad ei fod i wrthwynebu Mr. Herbert Roberts yn yr etholiad nesaf. BWRIADA Caerdydd roddi croesaw hollol Gymreig i'r Tywysog pan aiff yno ar neges daionus tua diwedd y mis hwn. MAE ysgolfeistri Caerfyrddin ac Aberteifi o dan rybudd i ymadael. Ni fydd y Cynghorau Sirol yn atebol am eu cadw ar ol y tri mis presenol. Bu Miss Spurrell, un o aelodau Cyngor Addysg Caerfyrddin, yn dweyd y drefn wrth rai o'r Radicaliaid ar y Cyngor ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. Bu raid i'r gwyr dewi am y tro. MYN Dr. Pugh, Caerdydd, mai'r Method- istiaid yw'r unig enwad "Cymreig." Ond y drwg yw mae Dr. Pugh ar ei eithaf yn ceisio ei droi yn Seisnig. Beth am athrawiaeth cwymp oddiwrth ras wedyn ? OHERWYDD ei afiechyd parhaol ni fydd Mr. Alfred Davies yn alluog i dalu ymweliad a Llanelli yn fuan. Yn ol pob argoelion caiff Mr. Llewelyn Williams y maes yn glir dros wyliau'r Sulgwyn i draethu efengvl Rhyddfryd- iaeth wrth yr anghredinwyr yn y ddwy dref. PARHAU i ledaenu mae helyntion crefyddol Lerpwl. Yr oedd pawb yn gobeithio y buasid yn abl i gau y clwyfau ar adeg ymweliad y Diwygiwr a'r ddinas beth amser yn ol, ond yn ol pob ymddangosiad y mae'r teimladau wedi myned yn fwy chwerw, a'r erlid yn fwy llym. ADDAWA ESgib Llanelwy y caiff Mr. Evan Roberts fenthyg yr Eglwys Gadeiriol er cynal ei Gyfarfodydd Diwygiadol yn y'dref hono. Bydd yn ddyddorol gwylio a fydd raid i'r Diwygiwr ieuanc wisgo gwisg arbenig a rhoddi nifer neill- duol o ganwyllau ar yr allor. Os ceir caniatad i ddefnyddio prif eglwysi Cymru ynglyn a'r mudiad daionus presenol, paham na cheisia'r awdurdodau yn Llundain i ofyn benthyg Sant Paul a Mynachlog West- minster er cynal cyrddau gweddi ynddynt yn yr Hydref pan ddel Mr. Roberts a'i genhadesau am dro i'n plith GWYSIWYD Mr. Hugh Thomas, Y.H., Beau- maris, a Chadeirydd Bwrdd Gwarcheidwaid Bangor a Beaumaris, o flaen yr Ynadon dydd Llun am greulondeb tuag at ddwy ddafad. Yr Arglwyddes Magdalen Buckley, o Baron Hill, a osododd y Gymdeithas er Atal Creulondeb at Anifeiliaid ar waith i erlyn, Wedi gwrando yn hir, taflodd yr Ynadon yr achos allan, ac aeth Mr. Thomas i'w le ar y fainc i wrando yr achosion oedd i ddilyn. Y MAE y Parch. Dr. Robert Owen Morris, M.A., Birkenhead, wedi gadael enwad y Methodistiaid, ac wedi ymuno a'r Eglwys. Mab Mrs. Jones, Garth Terrace, Porthmadog, ydyw efe. Cychwynodd bregethu yng nghapel y Garth. Bu bedair blynedd yng Ngholeg y Bala. Aeth oddiyno i Edinburgh, a graddiodd yn M.A. Am ychydig bu yn weinidog ar eglwys Saesneg y Methodistiaid yn Nhrallwm. Yna symudodd i Lanelwy. Rhoddodd y fugeil- iaeth i fyny yno, a dechreuodd efrydu fel meddyg, a dychwelodd i Edinburgh. Ar ol gorphen ei gwrs yno, sefydlodd yn Birkenhead. Ystyrid ef yn bregethwr hyawdl yn Saesneg a Chymraeg. Byddai hefyd yn myned oddi- amgylch i anerch cyfarfodydd ar ran y Gym- deithas Feiblau. Pregethai yn ac o amgylch Lerpwl yn barhaus. Tua dwy flynedd yn ol efe oedd Maer Birkenhead. YR oedd un o flaenoriaid capel yn y Gogledd yn hynod am ei anmhrydlondeb, yn enwedig ar fore Sabbotb, ac yr oedd y Parch. R. O. yr un mor hynod am ei barodrwydd a'i allu fel fflangellwr. Un bore Sabboth yr oedd y pregethwr wedi myned drwy ran helaeth o rag- ymadrodd ei bregeth. Dyna y blaenor hwyr- frydig a'i wraig i mewn. Tawodd y pregethwr gan roddi seibiant i'r blaenor ymsefydlu yn y set lawr, sychu ei dalcen a llawes ei got, ac edrych yn gondemniol ar y cloc. Yna edrychodd y pregethwr yn myw ei lygaid, cyfarchodd ef wrth ei enw, ac meddai, Ceisio dweyd ychydig ar hanes casgliad y creaduriaid i Arch Noe yr oeddwn i, Harri Owen. Ac ynvan," meddai, gan gyfarch ceidwad y capel, "yrwan, gan fod y ddwy falwoden olaf wedi d'od i mewn i'r arch vma, gallwch gau drws y capel, Huw Williams." YR ydym dan gerydd gan y Western Mail am fod yn gywir yn ein ffeithiau. Myn Gol. y papur hwnnw gael ei dderbyn fel awdurdod pendant ar y Gymraeg pan nas gwyr ond y nesaf i ddim am dani; a phan y ceisiwn ei ddysgu a'i wella cyll ei dymher yn Ilwyr. Tystiai y dydd o'r blaen fod Dr. Owen Pughe yn gosod y gair "neges" yn "fenywaidd" yn ei eiriadur, tra y gwyr pawb sydd gynefin a'r gwaith a gyhoeddwyd yn 1832 mai yn wrryw- aidd ei nodir. Er i ni ei gywiro a'i drechu, rhed y gwr yn awr i lechu o'r tu cefn i argraffiad "diwygiadol," Gweirydd ap Rhys yn 1866, yn hytrach na bod yn ddigon o foneddwr i gyd- nabod ei fai. Drwy hyn dengys ei anwybod- aeth yn dostach fyth. Nid oes yr un lienor Cymreig o fri heddyw yn cydnabod yr argraffiad hwnnw fel gwaith Dr. Pughe Beth ddywedai'r Prifathro John Rhys am dderbyn yr hyn a dincerwyd gan Gweirydd, fel barn Dr. Pughe b t, er engraifft ? HWYRACH mai pellder Caerdydd o ganol- bwynt y bywyd Cymreig sydd yn gyfrifol am anwybodaeth y Gol. o'n llyfrau safonol. A dyna'r rheswm feallai iddo ymegnio cymaint yn ddiweddar dros gael y Llyfrgell Genedlaethol i'w dref, er mwyn iddo gael mantais 1 ddysgu tipyn o'n hanes a'n llenyddiaeth. Yr ydym yn tosturio wrtho am ei fod yn gorfod derbyn gweithiau ail-law o'r fath fel ei awdurdodau safonol, ac hyd nes y caiff y Llyfrgell yr ydym yn foddlawn i'w ddysgu ond iddo fod yn ddis- gybl ufudd. Cofied er hyny mai nid Cymraeg Caerdydd yw safon ein Cymraeg ni-