Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB YSGOLION SABBOTHOL Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB YSGOLION SABBOTHOL Y M.C., LLUNDAIN. CYMANFA'R PLANT. Wrch gyflwyno yr adroddiad canlynol o weith- rediadau ein plant yn Jewin nos Iau, Mai 25am, ar achlysir yr wyl flynyddol cydnabyddir yn ddiolchgar ein dyled i'r cyfeillion hynny fuont yn ein gwasanaethu mewn gwahanol ffyrdd yn y Gymanfa, nid yn unig am eu gwaith ond hefyd am eu parodrwydd yn ymgymeryd a'r cyfryw. Priodol yw enwi Mr. W. VV. Griffith, Wilton Square, o dan lywyddiaeth ddeheuig yr hwn y cawsom un o'r cymanfaoedd mwyaf llwyddianus yn hanes ein cyfundeb yn y brif- ddinas. Bu Mr. Madoc Davies, A.R.C.M., a'r Parch. D. C. Jones, y Borough, yn gweithredu fel beirniaid ar y gerddoriaeth a'r adroddiadau, ac hefyd y Parch. Garnon Owen fel cynorthwywr yn y rhag-brawf. Gwasanaethwyd ar y berdoneg gan un sydd eroyn hyn, o herwydd ei chysylltiad a Chymanfa'r Plant-Mrs. D. R. Hughes, yn cael ei hystyried yn gyfeilles fynwesol i bawb o'r plant ydynt yn cystadlu yn flynyddol yn eu gwyl arbenig eu hunain. Sicr yw nad oes angen ymhelaethau ar gymwysderau yr uchod, cry- bwylliad o'u henwau yn unig a sicrha eu bod yr iawn rai yn yr iawn Ie. Megys yn y blynyddau gynt yr oedd y cystadlu yfn mhob rhan o'r rhaglen amrywiol wedi cyrhaedd safon uchel, ac yr oedd yno nifer liosog ym mhob dosbarth yn ymgeisio. Teimlwyd ychydig yn siomedig mai dau gor yn unig esgynasant i'r llwyfan, yn enwedig gan fod un a gyfenwir yn "Gyfaill i'r Plant" wedi rhoddi tarian werthfawr at wasanaeth y pwyllgor, er tynu ein corau allan. Yr ydym yn llawn hyderu y gwelwn yn y blynyddau nesaf fwy o lafur ac ymdrech yn y cyfeiriad hwn, a gobeithir y bydd caredigrwydd y cytaill a nodwyd yn gyfryw i fod yn symbyliad i eraill i geisio codi salon ein cystadleuaethau trwy gyfranu o'r un )sbryd ag a'i meddianodd ef. Y mae yma le i wella mewn llawer iawn o'n heglwysi a'n hysgolion yn y cyfeiriad hwn, ac er fod amgylchiadau neill- duol wedi bod ar y ffordd i lafurio gyda'r plant eleni, hyderwn y bydd yr oil yn deilliaw ar fwy o weithgarwch a mwy o ffyddlondeb yn y dyfodol. A ganlyn yw rhestr y rhai fu yn fuddugol Adroddiad i rai dan 8 oed.-I, Mary Morris, Mile End Road, a Lily i ugh, Jewin 3, Megan Foster, Portobello Road; 4, Gwilym Hughes, Willesden Green. Adroddiad i rai dan 12 oed.—1, Nannie Williams, Jewin; 2, Lalla Thomas, Morley Hall; 3, Myfanwy Jones, Jewin. Adroddiad i rai dan 16 oed. — 1, Helena Furnall, Shir- land Road; 2. David I'ugh, Jewin, a Bessie Parry, Willesden, Green 4, Eleanor Williams, Harlesden. Unawd i ran 8 oed.-I, Megan Foster, Portobello Road; 2, Getta Morgan, Jewin; 3, Margaret Mary Williams, Mile End, a Gwen Williams, Charing Cross. Unawd i rai dan 12 oed. — 1, Lizzie Davies, Jewin 2, Muriel Job, Jewin 3, Olwen Job, Jewin. Unawd i rai dan 16 oed.-I, Lalla Thomas, Morley Hall; 2, Mary Morgan, Jewin; 3, Annie Morgan, Falmouth Road, a Jennie Lucretia Jones, Jewin. Deuawd i rai dan 16 oed.-I, Lalla a Robbie Thomas, Morley Hall; 2, Jennie a Mary Morgan, Jewin. Unawd ar y berdoneg i rai dan 12 oed. — 1, Olwen Job, Jewin; 2, Lizzie Davies, Jewin 3, Muriel Tob, Jewin. Unawd ar y berdoneg i rai dan 16 oed.—1, Jennie Lucretia Jones, Jewin 2, Mary Morgan, Jewin 3, Lily Dowell, Stoke Newington. Map o Gymru.—1, Lily Dowell, Stoke Newington 2, Francis Davies, Wood Green 3, T. H. Williams, Mile End. Cor o blant dan 16 oed. -I, Cor Falmouth Road.

Advertising

CYMANFA BEDYDDWYR SIR QAERNARFON.

SYR FREDERICK TREVES AR EFFEITHIAU…

IGohebiaethau.

Advertising